Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r
Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 fel cofnod cywir. |
|
Fframwaith Strategol Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. PDF 352 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Datblygu Economaidd adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn amlinellu’r fframwaith
strategol drafft ar gyfer y Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol (CCELl) newydd ar
gyfer Abertawe. Cyfeiriodd at y
diweddariad a roddwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi
ac Isadeiledd ar 26 Ionawr 2023 a manylodd ar gynnwys y CCELl, yr amserlenni
dangosol ar gyfer cwblhau'r gwaith a'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu'r
CCELl. Nododd yr
aelodau'r cyd-destun strategol, y tri uchelgais a'r fframwaith strategol
drafft. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu Economaidd am y diweddariad. Penderfynwyd: 1)
cyflwyno
adroddiad diweddaru pellach i'r Pwyllgor ar 2 Tachwedd 2023. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac
Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024. Nodwyd y pynciau
i'w trafod yn y cyfarfod dilynol:- ·
21
Medi 2023 – Cynllun
Rheoli Cyrchfannau. |