Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol a gynhaliwyd ar 12
Rhagfyr 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir, yn amodol ar gofnodi presenoldeb y
Cynghorydd S Joy. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn manylu ar waith Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
mewn perthynas â'r thema datblygu Arweinyddiaeth a Rheoli. Cafodd Strategaeth y Gweithlu ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Hydref
2022 ar ôl cyfnod o ddylunio ac ymgynghori â rhanddeiliaid yn ystod 2022. Roedd Strategaeth y Gweithlu
2022-2027 yn cynnwys pedair thema allweddol i ysgogi diwylliant a gwelliant
sefydliadol dros oes y strategaeth, gan gyfrannu at Gynllun Corfforaethol
2023-2028, 'Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy'. Mae’r achos busnes Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn
cyd-fynd â Strategaeth Gweithlu'r Cyngor 2022-27. Roedd y rhaglen yn cynnwys
prosiectau a fydd yn cyflawni nodau strategol Strategaeth y Gweithlu a dyheadau
trawsnewid cyffredinol y Cynllun Corfforaethol. Rhoddodd y
Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau fanylion am y prosiectau a
gyflwynwyd yn y flwyddyn gyntaf a'r prosiectau a fyddai'n cael eu trin dan y
cam datblygu eilaidd yn y blynyddoedd i ddod.
Nododd yr Aelodau: ·
y ddau faes gwaith a chynnwys allweddol
dan y rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth. ·
Cyllid. ·
Gweithio mewn partneriaeth â Choleg
Gŵyr. ·
Manylion y rhaglen garfan nesaf. ·
Cynnydd gyda'r gweithlu sy'n barod at y
dyfodol. ·
Rhaglen Datblygu Rheolaeth Lefel 4/5 y
Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) ·
Cynnydd wrth ehangu'r broses o gyflwyno
Lefel 3 yr ILM a Lefel 2 yr ILM ar gyfer gweithwyr. ·
Cyflwyno Dadansoddiad Anghenion
Datblygu a'i fanteision. ·
Amserlenni ar gyfer y datblygiad
arweinyddiaeth a rheolaeth ehangach a'r dadansoddiad o anghenion datblygu. Byddai adroddiad
i Arweinyddiaeth a drefnwyd ar gyfer mis Chwefror yn rhoi dadansoddiad llawn
o'r holl weithgarwch Datblygu Sefydliadol a oedd ar waith yn ogystal â
phosibiliadau newydd y gellid eu hystyried ar gyfer 2024/25. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Llongyfarchodd yr
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a'r Pwyllgor â’r
Pennaeth AD a'r Ganolfan Wasanaethau am y gwaith rhagorol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau ac Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad am eu mewnbwn am yr
adroddiad addysgiadol. |
|
Cynllun Ariannol Tymor Canolig. PDF 941 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 'adroddiad gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf
am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig i baratoi ar gyfer cyfrannu at gynigion
arbedion yn y dyfodol. Ar 26 Medi 2023
derbyniodd Pwyllgor Trawsnewid y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid
Ariannol adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig (CATC). Roedd yr adroddiad
yn rhoi'r cefndir ynghylch pam y cynhyrchwyd y CATC a beth yw'r broses ar gyfer
creu a diweddaru'r cynllun. Roedd y CATC
presennol ynghlwm wrth adroddiad mis Medi er gwybodaeth. Ers hynny roedd cryn
dipyn o waith wedi cael ei wneud i adolygu a diweddaru'r cynllun a gymeradwywyd
gan y Cyngor ym mis Mawrth 2023. Roedd
hyn wedi arwain at restr newydd o bwysau cyllidebol a chynigion er mwyn
bodloni'r bwlch ariannu cyfatebol.
Yn dilyn yr
adolygiad a'r diweddariad i'r CATC, cynhyrchwyd cyfres o gynigion cyllideb
wedi'u diweddaru. Cafodd y set hon o
gynigion ei hystyried gan y Cabinet ar 12 Ionawr 2024 ac yn dilyn penderfyniad
y Cabinet, mae'r cynigion yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Roedd yr
adroddiad i'r Cabinet wedi'i atodi fel Atodiad A i'r adroddiad hwn, er mwyn i'r
Pwyllgor ei ystyried. Byddai'r
adroddiad a'r diwygiadau dilynol yn dilyn ymgynghoriad yn sail i'r gyllideb
refeniw flynyddol ac adroddiadau CATC i'r Cabinet ym mis Chwefror, lle byddai'r
Cabinet yn rhoi ystyriaeth iddynt cyn argymell yr adroddiadau Cyllideb a CATC
terfynol i'r Cyngor ym mis Mawrth. Er bod y pwyslais
yn yr adroddiad Cynigion Cyllidebol yn tueddu i fod ar sut y byddai'r bwlch yn
y gyllideb yn cael ei ariannu, felly ar ble y gellid gwneud arbedion, nodwyd
bod gwerth yr arbedion yn gymharol fach - mae'r gyllideb gros dros £870m ac
amcangyfrifir bod gwerth yr arbedion dros 4 blynedd y CATC yn £56m (tua 6%). Dechreuodd yr
ymgynghoriad ar 12 Ionawr 2024 a byddai'n cau ar 11 Chwefror 2024. Byddai croeso mawr i unrhyw ymateb gan y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol a byddai'n
cael ei ymgorffori yn yr adroddiadau terfynol i'r Cabinet a'r Cyngor. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog Adran 151 am yr adroddiad addysgiadol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2023-2024. Nodwyd bod y
Pwyllgor wedi gorffen ei waith ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. Penderfynwyd: 1)
Canslo'r
cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 27 Chwefror 2024. 2)
Y
bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei ystyried yng nghyfarfod terfynol y
Pwyllgor ar 23 Ebrill 2024. |