Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

19.

Cofnodion: pdf eicon PDF 213 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

 

20.

Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth. pdf eicon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid y Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth.

 

Trafododd y Pwyllgor fersiwn ddrafft y Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth yn eu cyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2023 ac ar ôl hynny cynhaliwyd gweithgaredd ymgynghoriad ac ymgysylltu ar ffurf arolwg.  Roedd y Siarter a'r Safonau wedi'u diweddaru o ganlyniad i adborth a gafwyd o'r arolwg.  Gofynnwyd am ragor o safbwyntiau gyda grwpiau ymgynghori penodol cyn i'r Siarter a'r Safonau gael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w cymeradwyo ar 18 Ionawr, 2024.

 

Mae'r Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth yn gyfres ddeinamig o ganllawiau y bydd angen eu hadolygu'n gyson a byddant yn cael eu diweddaru yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth ac arferion gwaith.  Felly, er yr argymhellir mabwysiadu'r fersiwn hon o'r Siarter a'r Safonau, bydd yn destun newid a datblygiad.

 

Cafwyd 73 o ymatebion i'r arolwg ac roedd 81% ohonynt yn ymatebion gan breswylwyr Abertawe ac 16% yn ymatebion gan staff Cyngor Abertawe.Manylwyd ar grynodeb o adborth gan breswylwyr ynghylch y Siarter Cwsmeriaid.

 

Mewn perthynas â'r Safonau Gwasanaeth a restrir ar gyfer pob maes gwasanaeth, derbyniwyd rhai sylwadau am achosion unigol a cheisiadau gwasanaeth cyfredol. Byddai'r rhain yn cael eu trosglwyddo i'r adran berthnasol.

 

Nodwyd y byddai darparu mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn fformatau amgen fel print bras neu braille yn golygu costau ychwanegol i rai gwasanaethau, y disgwylir iddynt gael eu cynnwys o fewn y cyllidebau presennol.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Amserlenni ar gyfer ymdrin â Threth y Cyngor a Phrydau Ysgol am Ddim - bydd Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid yn cysylltu â'r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol ynglŷn â hyn.

·       Mae cwynion corfforaethol wedi elwa o gyflwyno system newydd sydd wedi cynorthwyo gydag amseroedd prosesu.  Gallai ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth fod yn gymhleth pe bai angen ymatebion gan sawl sefydliad.  Yn yr achosion hyn, byddai'r unigolyn yn cael gwybod am amseroedd ymateb diwygiedig pe na bai'r amserlenni'n ymarferol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid y byddai'n adrodd sylwadau'r Pwyllgor i'r Tîm Arweinyddiaeth.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid am yr adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)    y bydd y Cadeirydd yn cyflwyno Fframwaith y Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth i'r Cabinet ar 18 Ionawr, 2024, i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu o 1 Ebrill, 2024.</AI3>

 

21.

Polisi Cydgynhyrchu. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, gyda chymorth y Cydlynydd Ymgynghori, y Polisi Cydgynhyrchu.

 

Nodwyd bod y cyngor wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu lle mae cyfleoedd yn bodoli ac yn briodol. Nodwyd y bwriad hwn yn y Cynllun Corfforaethol (2023-2028) drwy gynnwys pobl leol ym mhenderfyniadau'r cyngor sy'n effeithio arnynt hwy, eu teuluoedd a'n cymunedau.   Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy ymgorffori ymddygiadau cydgynhyrchu a meddwl yn y ffordd rydym yn gweithio.

 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd Lab Cyd-gynhyrchu Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor i gynyddu gwybodaeth am gydgynhyrchu a datblygu polisi cydgynhyrchu.

 

Ochr yn ochr â datblygu polisi, sefydlwyd Rhwydwaith Hyrwyddwyr Cydgynhyrchu i ddarparu man penodol ar gyfer cefnogaeth a dysgu gan gymheiriaid. Yn ogystal, roedd y cyngor wedi buddsoddi mewn hyfforddiant staff ac roedd yn datblygu pecyn cymorth cydgynhyrchu i helpu gyda rhoi cydgynhyrchu ar waith.

Manylwyd ar bwrpas, datblygiad, trefniadau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chamau nesaf y Polisi.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau fod y polisi yn gofyn am newid diwylliannol enfawr ac, er y byddai heriau, gwnaed cynnydd da.  Diolchodd Aelod y Cabinet i bawb am ddatblygu'r polisi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, manylodd y Cydlynydd Ymgynghori ar y broses ar gyfer ymgysylltu â hyrwyddwyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata a'r Cydlynydd Ymgynghori am yr adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)    bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r Polisi Cydgynhyrchu i'r Cabinet ar 18 Ionawr 2024 i'w fabwysiadu.

 

22.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 291 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2023-2024.

 

Penderfynwyd:

 

1)    y bydd y Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar 23 Ionawr 2024.

</AI5>