Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer
Natur a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) - Grant Partneriaeth Natur Lleol 2023-25. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Mark
Barber, Swyddog yr Amgylchedd Naturiol a Bioamrywiaeth/Cydlynydd y Bartneriaeth
Natur Leol gyflwyniad ar Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - Grant
Partneriaeth Natur Leol 2023-25. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys y
canlynol: - · Nodau'r cynllun. · Nod y Rhaglen Lywodraethu - Ehangu trefniant i greu mannau gwyrdd neu eu
gwella'n sylweddol. · Gweithredu Adfer Natur Abertawe (Canolbwyntio ar Isadeiledd Gwyrdd). · Gweithredu Adfer Natur Abertawe - amlinell ariannol. · Mapiau crynhoi. · Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2023-25. Ø Gardd law Burrows Road. Ø Isadeiledd gwyrdd - Cynllun Cylchfan Townhill. Ø Isadeiledd gwyrdd - Prosiect Mannau Gwyrdd Cymunedol/Dysglau Plannu ar
Balmant Canolfan yr Amgylchedd. Ø Gwelliannau mannau gwyrdd/cynefinoedd - pyllau dŵr. Ø Gwelliannau mannau gwyrdd/cynefinoedd - Glaswelltir calaminaraidd,
glaswelltir corsiog, glaswelltir calchfaen yr arfordir, gwella prysgwydd. Ø Prosiectau Bywyd Gwyllt Eraill - Blychau Ystlumod ac Adar ag Inswleiddiad Waliau Allanol. Ø Prosiectau Bywyd Gwyllt Eraill - plannu coed - 171 o goed safonol o 58
rhywogaeth/amrywiaeth wedi'u plannu ar draws 31 o safleoedd yn Abertawe. Ø Prosiectau Partner Gwella Bywyd Gwyllt/Cynefin - prosiect gwella
llygod y dŵr Penllergaer/prosiect mynediad a phwll dŵr Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned Cae
Felin/Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru - ailgysylltu afonydd
Abertawe/Prosiect Coridor i Fywyd Gwyllt Coed Lleol Hillside/Fferm
Gymunedol Abertawe/Blychau Bywyd Gwyllt Prifysgol Abertawe/Prosiect
Orchard/Tyfu Cymunedol - Canolfan Gymunedol Parc Sgeti/Ymddiriedolaeth Natur De
a Gorllewin Cymru - Natur Drws Nesaf · Lleiafswm o 358 o wirfoddolwyr a 719 o oriau gwirfoddoli. · Cronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - · Manylion cynlluniau ar draws Abertawe. · Prosiectau ar St Helen's Road, Abertawe. · Trafodaethau ynghylch darparu rheilffordd uchel. · Cynyddu nifer y rhandiroedd a'r problemau a gafwyd pan gyflwynwyd hunanreoli/cyfleoedd ar gyfer tyfu cymunedol a darparu'r
diweddaraf yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. · Y gwelliannau cadarnhaol yng Nghoedwig Penllergaer, yr angen am gyllid ychwanegol/gwirfoddolwyr ac
ailgyflwyno llwybr ceffylau o bosib. · Yr effaith gadarnhaol ar y gymuned o ganlyniad i'r Fferm Gymunedol. · Cynllun Prosiect Orchard - coed yn Dove Road a'i effaith gadarnhaol. · Gweithio mewn partneriaeth nodedig ar draws Abertawe. · Y cydbwysedd da rhwng lleoliadau cefn gwlad a chanol y ddinas. · Defnyddio ardaloedd bach o dir i adeiladu isadeiledd gwyrdd/llwybrau
bioamrywiaeth o fewn ardaloedd mwy poblog a phwysigrwydd cysylltedd ar
draws Abertawe. · Cynllun Burrows Road - yn enwedig ei effaith mewn perthynas â llifogydd a
mesur ei effaith wrth symud ymlaen. · Cynnwys y cyhoedd, yn enwedig grwpiau/unigolion â gwybodaeth leol, yn y
gwaith parhaus sy'n mynd rhagddo, fel gwefan 'Wild about Swansea'. · Faint o'r safleoedd hyn fyddai'n cael eu rheoli'n well drwy bori yn hytrach
na defnyddio peiriannau. Diolchodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet
dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd am eu cyflwyniad a thynnodd sylw at y gwaith
parhaus gwych yn safleoedd fel y Fferm Gymunedol ac Ymddiriedolaeth Cwm Penllergaer, yn enwedig eu gwaith wrth
wella bioamrywiaeth. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am
ddarparu cyflwyniad diddorol iawn llawn gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith 2024-2025. PDF 104 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2024/25. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad. |