Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 128 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 15 Ebrill a 16 Mai 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

6.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 134 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparwyd cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau 'er gwybodaeth'.

7.

Strategaeth Gwastraff yn y Dyfodol. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Ebrill 2024, darparodd Chris Howell, Pennaeth Gwastraff, Glanhau a Pharciau, adroddiad wedi’i ddiweddaru ar Strategaeth Gwastraff y Dyfodol. Eglurwyd bod yr adroddiad anghywir wedi ei gyhoeddi ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Atodwyd yr adroddiad cywir er mwyn ei drafod.

 

Ychwanegwyd y darparwyd barn y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf ynghylch darparu gwasanaeth gwastraff gardd tymhorol, casglu deunyddiau ychwanegol wrth ymyl y ffordd, e.e. haenau plastig a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·       Cadarnhad bod yr Awdurdod ychydig yn uwch na tharged Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer y ffigurau dilysu diwethaf o 2022/23 a'u bod ychydig yn uwch na'r 70% ar gyfer 2023/24, nad oeddent wedi'u dilysu eto.

·       Yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i gasglu haenau plastig, treialu ychwanegol casglu cartonau Tetra Pak, nwyddau trydanol bach a thecstilau yn unigol mewn sachau untro i’w casglu gyda chasgliadau plastig.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)     Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Cyflwyno adroddiad ynghylch y diweddaraf yn ddiweddarach yn y flwyddyn ddinesig.

8.

Cynllun Gwaith Drafft 2024-2025. pdf eicon PDF 103 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi cwrdd â swyddogion ynghylch llunio Cynllun Gwaith y Pwyllgor Drafft 2024/25 a chyfeiriodd at yr eitemau yn y Cynllun Drafft.

 

Gwnaed y newidiadau canlynol: -

 

·       Dileu Gwaith Cynnal a Chadw Isadeiledd Gwyrdd o 15 Gorffennaf 2024 a'r Cynllun Gwaith.

·       Symud y Strategaeth Rheoli Coed i 6 Ionawr 2025.

·       Ychwanegu cyflwyniad ar y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) - Grant Partneriaeth Natur Leol 2023-25 ​​i 15 Gorffennaf 2024.

·       Cynnal gweithdy ar y Strategaeth Rheoli Coed yn ddiweddarach yn y flwyddyn ddinesig.

·       Y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ynghylch ‘Mai Di Dor’ yn ddiweddarach yn y flwyddyn ddinesig.

 

Penderfynwyd bod Cynllun Gwaith 2024/25 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y diwygiadau a restrir uchod.

9.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol.

Dyddiadau Cyfarfodydd yn y Dyfodol:

15 Gorffennaf 2024

9 Medi 2024

21 Hydref 2024

2 Rhagfyr 2024

6 Ionawr 2025

17 Chwefror 2025

31 Mawrth 2025

 

 

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol a ddarparwyd ar yr agenda.

 

Penderfynwyd bod pob cyfarfod y dyfodol yn 2024/25 yn dechrau am 3pm.