Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â chofnod rhif 36 – Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd
S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 36 – Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024.
|
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer
Natur a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Gwastraff yn y Dyfodol. PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymuned, wrth y Pwyllgor fod yr
adroddiad anghywir wedi'i gyhoeddi gyda phapurau'r agenda a'i fod yn cael ei
dynnu'n ôl o drafodaethau ac y darperir diweddariad llafar. Rhoddodd Chris
Howell, Pennaeth Gwastraff, Glanhau a Pharciau, ddiweddariad llafar i'r
Pwyllgor ar Strategaeth Gwastraff y Dyfodol. Yn ogystal â thrafodaethau mewn
cyfarfodydd blaenorol, darparwyd diweddariadau ar y treial gwastraff gardd
tymhorol, a oedd yn cynnwys treialu gosod deunyddiau ychwanegol ar gyfer
casgliadau
ymyl y ffordd a
chyflwyno cynwysyddion newydd ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd. Eglurwyd bod
casgliadau gwastraff gardd wedi cael eu hatal am gyfnod prawf ym mis Rhagfyr
2023 a mis Ionawr 2024, a oedd yn cyd-fynd â'r amser tawelaf ar gyfer casglu
gwastraff gardd ac ailgyfeiriwyd adnoddau i ffrydiau gwaith eraill. Roedd y
gwasanaeth hefyd yn casglu coed Nadolig ar ddiwedd mis Ionawr 2024. Rhoddir
ystyriaeth nawr i weld a ddylai'r treial ddod yn barhaol yn y blynyddoedd i
ddod, yn enwedig o ran cadarnhau dyddiadau dechrau/gorffen ac unrhyw ffactorau
lliniaru gofynnol. Yn ogystal, er
mwyn gwneud yn fawr o adnoddau, gallai gwastraff gardd gael ei ynysu fel
deunydd casglu a chael ei gasglu gyda gwastraff bwyd yn y dyfodol. Byddai hyn
yn rhyddhau cerbydau/criwiau os cytunir y dylid dod â chasgliadau gwastraff
gardd i ben yn y dyfodol. Ychwanegodd y
byddai treialon o gasglu deunyddiau ychwanegol ar ymyl y ffordd yn cael eu
cynnal yn y dyfodol er mwyn penderfynu a oedd yn ymarferol mewn perthynas â deunyddiau ailgylchadwy, i
bennu'r symiau dan sylw ac i benderfynu a oedd y gwasanaeth yn gallu cynnwys y
casgliadau hyn. Roedd y deunyddiau dan sylw'n cynnwys haenau plastig,
cartonau/pecynnau tetra, tecstilau a nwyddau trydanol bach. Roedd
trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch casglu haenau plastig yn
yr hydref ac mae'r cyngor wedi gwirfoddoli i gymryd rhan pe bai'r casgliadau
hynny'n mynd yn eu blaen. Roedd cynlluniau hefyd ar waith ynglŷn â
threfnu'r casgliadau pe byddent yn cael eu cytuno. Yn dilyn pryder a
fynegwyd gan Gynghorwyr, newidiwyd dyluniad y cynhwysydd gwydr a chaniau i gynnwys caead, er mwyn atal y cynnwys
rhag dod allan. Roedd y cyngor wedi derbyn grant oddi wrth Lywodraeth Cymru er
mwyn eu prynu a byddai'r broses dendro'n dechrau'n fuan. Byddai eu cyflwyniad
yn dechrau ar ôl hyn a byddai'n cymryd ychydig fisoedd i'w chwblhau. Gwnaeth y
pwyllgor sylwadau ar y canlynol: - ·
Y cynnydd cadarnhaol a wnaed
yn gyffredinol. ·
Cyfle busnes posib i greu compost
o wastraff bwyd, y cytundebau presennol ac archwilio'r holl opsiynau wrth symud
ymlaen. ·
Pryder am y diffyg adnoddau
yn y gwasanaeth ac oedi i gasgliadau a achosir gan fethiannau cerbydau/salwch
staff. ·
Yr wybodaeth a gafwyd drwy
ddod â chasgliadau gwastraff gardd i ben ym mis Ionawr 2024, y potensial am
arbedion ychwanegol yn y dyfodol drwy drosglwyddo'r casgliad o wastraff bwyd i
gyd-fynd â chasgliadau bagiau du, a ryddhau'r cerbydau/adnoddau gwastraff gardd
trwy hynny. ·
Yr arbedion a wneir ar fagiau
plastig mewn perthynas â gwydr a chaniau a chydnabod y byddai'r casgliad o
gynwysyddion yn broses arafach, a bydd angen mwy o adnoddau ar ei chyfer. ·
Nod y gwasanaeth yw defnyddio
adnoddau'n effeithiol i sicrhau bod y gwasanaeth mor gadarn a chost effeithiol
â phosib. ·
Newid gwasanaethau casglu
drwy gyfnewid casgliadau bagiau du a chasgliadau gwastraff gardd. Byddai hyn yn
arwain at gasglu gwastraff bwyd, caniau, gwydr, papur a gwastraff bagiau du gyda'i gilydd. Byddai
bagiau pinc, gwastraff bwyd a gwastraff gardd yn cael eu casglu'r wythnos
ganlynol. ·
Rhaglen ar gyfer dosbarthu'r
cynwysyddion caniau plastig a photeli y gellir eu hailddefnyddio. ·
Y trefniadau a'r broses
bresennol ar gyfer gwerthu compost o wastraff gardd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r Pennaeth Gwastraff, Glanhau a Pharciau am y
diweddariad a nododd y byddai adroddiad diweddaredig yn cael ei gyflwyno yn y
cyfarfod nesaf a drefnwyd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024. PDF 156 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol
Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024, a oedd yn crynhoi'r cynnydd a
wnaed mewn perthynas â'r rhaglen waith ar gyfer 2023-2024. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith.
Diolchodd i'r Pwyllgor a'r swyddogion am gefnogi'r Pwyllgor drwy gydol y
flwyddyn ddinesig. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad. |