Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â chofnod rhif 36 – Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 36 – Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024.

34.

Cofnodion: pdf eicon PDF 127 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

35.

Strategaeth Gwastraff yn y Dyfodol. pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymuned, wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad anghywir wedi'i gyhoeddi gyda phapurau'r agenda a'i fod yn cael ei dynnu'n ôl o drafodaethau ac y darperir diweddariad llafar.

 

Rhoddodd Chris Howell, Pennaeth Gwastraff, Glanhau a Pharciau, ddiweddariad llafar i'r Pwyllgor ar Strategaeth Gwastraff y Dyfodol. Yn ogystal â thrafodaethau mewn cyfarfodydd blaenorol, darparwyd diweddariadau ar y treial gwastraff gardd tymhorol, a oedd yn cynnwys treialu gosod deunyddiau ychwanegol ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd a chyflwyno cynwysyddion newydd ar gyfer casgliadau ymyl y ffordd.

 

Eglurwyd bod casgliadau gwastraff gardd wedi cael eu hatal am gyfnod prawf ym mis Rhagfyr 2023 a mis Ionawr 2024, a oedd yn cyd-fynd â'r amser tawelaf ar gyfer casglu gwastraff gardd ac ailgyfeiriwyd adnoddau i ffrydiau gwaith eraill. Roedd y gwasanaeth hefyd yn casglu coed Nadolig ar ddiwedd mis Ionawr 2024. Rhoddir ystyriaeth nawr i weld a ddylai'r treial ddod yn barhaol yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig o ran cadarnhau dyddiadau dechrau/gorffen ac unrhyw ffactorau lliniaru gofynnol.

 

Yn ogystal, er mwyn gwneud yn fawr o adnoddau, gallai gwastraff gardd gael ei ynysu fel deunydd casglu a chael ei gasglu gyda gwastraff bwyd yn y dyfodol. Byddai hyn yn rhyddhau cerbydau/criwiau os cytunir y dylid dod â chasgliadau gwastraff gardd i ben yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd y byddai treialon o gasglu deunyddiau ychwanegol ar ymyl y ffordd yn cael eu cynnal yn y dyfodol er mwyn penderfynu a oedd yn ymarferol mewn perthynas â deunyddiau ailgylchadwy, i bennu'r symiau dan sylw ac i benderfynu a oedd y gwasanaeth yn gallu cynnwys y casgliadau hyn. Roedd y deunyddiau dan sylw'n cynnwys haenau plastig, cartonau/pecynnau tetra, tecstilau a nwyddau trydanol bach. 

 

Roedd trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch casglu haenau plastig yn yr hydref ac mae'r cyngor wedi gwirfoddoli i gymryd rhan pe bai'r casgliadau hynny'n mynd yn eu blaen. Roedd cynlluniau hefyd ar waith ynglŷn â threfnu'r casgliadau pe byddent yn cael eu cytuno.

 

Yn dilyn pryder a fynegwyd gan Gynghorwyr, newidiwyd dyluniad y cynhwysydd gwydr a chaniau i gynnwys caead, er mwyn atal y cynnwys rhag dod allan. Roedd y cyngor wedi derbyn grant oddi wrth Lywodraeth Cymru er mwyn eu prynu a byddai'r broses dendro'n dechrau'n fuan. Byddai eu cyflwyniad yn dechrau ar ôl hyn a byddai'n cymryd ychydig fisoedd i'w chwblhau.

 

Gwnaeth y pwyllgor sylwadau ar y canlynol: -

 

·       Y cynnydd cadarnhaol a wnaed yn gyffredinol.

·       Cyfle busnes posib i greu compost o wastraff bwyd, y cytundebau presennol ac archwilio'r holl opsiynau wrth symud ymlaen.

·       Pryder am y diffyg adnoddau yn y gwasanaeth ac oedi i gasgliadau a achosir gan fethiannau cerbydau/salwch staff.

·       Yr wybodaeth a gafwyd drwy ddod â chasgliadau gwastraff gardd i ben ym mis Ionawr 2024, y potensial am arbedion ychwanegol yn y dyfodol drwy drosglwyddo'r casgliad o wastraff bwyd i gyd-fynd â chasgliadau bagiau du, a ryddhau'r cerbydau/adnoddau gwastraff gardd trwy hynny.

·       Yr arbedion a wneir ar fagiau plastig mewn perthynas â gwydr a chaniau a chydnabod y byddai'r casgliad o gynwysyddion yn broses arafach, a bydd angen mwy o adnoddau ar ei chyfer.

·       Nod y gwasanaeth yw defnyddio adnoddau'n effeithiol i sicrhau bod y gwasanaeth mor gadarn a chost effeithiol â phosib.

·       Newid gwasanaethau casglu drwy gyfnewid casgliadau bagiau du a chasgliadau gwastraff gardd. Byddai hyn yn arwain at gasglu gwastraff bwyd, caniau, gwydr, papur a gwastraff bagiau du gyda'i gilydd. Byddai bagiau pinc, gwastraff bwyd a gwastraff gardd yn cael eu casglu'r wythnos ganlynol.

·       Rhaglen ar gyfer dosbarthu'r cynwysyddion caniau plastig a photeli y gellir eu hailddefnyddio.

·       Y trefniadau a'r broses bresennol ar gyfer gwerthu compost o wastraff gardd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r Pennaeth Gwastraff, Glanhau a Pharciau am y diweddariad a nododd y byddai adroddiad diweddaredig yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

36.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024. pdf eicon PDF 156 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Corfforaethol Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur 2023-2024, a oedd yn crynhoi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r rhaglen waith ar gyfer 2023-2024.

37.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 105 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith. Diolchodd i'r Pwyllgor a'r swyddogion am gefnogi'r Pwyllgor drwy gydol y flwyddyn ddinesig.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.