Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer
Natur a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 ar gyfer Abertawe. PDF 261 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd D H Hopkins, Dirprwy Arweinydd / Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol yr adroddiad, a oedd i fod i gael
ei gyflwyno i'r Cyngor ar 21 Mawrth 2024 ac a oedd yn Flaenoriaeth
Gorfforaethol i'r Awdurdod. Cyflwynodd Paul
Meller, Rheolwr Is-adran yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer fersiwn ddrafft
Cynllun Gweithredu Adran 6 y Ddyletswydd Bioamrywiaeth ar gyfer
Abertawe. (2023-2025). Esboniwyd bod
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Rhan 1) Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a
Chydnerthedd Ecosystemau yn ei gwneud yn ofynnol i:
‘awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer
swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag
arfer y swyddogaethau hynny’n briodol’. Roedd gan Gyngor
Abertawe ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob
tair blynedd yn amlinellu camau a gymerwyd i gydymffurfio â'r Ddyletswydd
Bioamrywiaeth Statudol. Roedd y cynllun
gweithredu Adran 6 drafft yn Atodiad A yn darparu'r camau gweithredu y
bwriadai'r Cyngor eu cymryd rhwng nawr a mis Rhagfyr 2025 i gyflawni ei
rwymedigaethau o dan ei Ddyletswydd Bioamrywiaeth i gynnal a gwella
bioamrywiaeth a chyfrannu at dargedau 30 x 30 Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer
natur. Darparwyd y camau
gweithredu a ddisgrifiwyd o dan chwe amcan allweddol Cynllun Gweithredu Adfer
Natur Cymru a Chynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe. Nododd Mark
Barber, Swyddog Bioamrywiaeth, fod y camau gweithredu parhaus yn ddibynnol ar
adnoddau staff a chyllid Llywodraeth Cymru, a fyddai'n cael ei ddarparu hyd at
2025 ar hyn o bryd. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Yr angen i gynnwys gweithio gydag
ysgolion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth ac isadeiledd
gwyrdd ar diroedd ysgolion. · Gwneud Cynghorau Cymuned a Thref yn
ymwybodol o'r adroddiad. Nodwyd bod cyflwyniad yn cael ei wneud i'r Fforwm
Cynghorau Cymuned a Thref ar 4 Mawrth 2024 a bod pob cyngor yn gyfrifol am
lunio'i gynllun ei hun. . · Cyfrifoldebau cyfreithiol y Cyngor
mewn perthynas â llygredd dŵr, pridd ac aer, sut mae'n cydweithio â
sefydliadau eraill, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a sut y byddai cynnwys
materion o fewn y cynllun gyda lwc yn darparu rhagor o gyllid tuag at fynd i'r
afael â llygredd. · Cynnwys teithio llesol o fewn y
cynllun, sy'n gam cadarnhaol. · Darparu cynllun manylach sy'n
cysylltu'r holl gamau gweithredu eang â'i gilydd a fydd yn cynnwys cyfrannu at
dargedau bioamrywiaeth 30 x 30 Llywodraeth Cymru. · Pwysigrwydd allweddol adfer natur. · Pwysigrwydd ei gynnwys o fewn y
Cynllun Corfforaethol a chydweithio yn y dyfodol. · Newid deddfwriaeth sy'n cael ei
chyflwyno i gryfhau bioamrywiaeth o ran y broses gynllunio. · Pwysigrwydd draenio cynaliadwy. · Y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno o
fewn y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Penderfynwyd: - 1) Cymeradwyo Cynllun Gweithredu drafft Adran 6 y
Ddyletswydd Bioamrywiaeth ar gyfer Cyngor Abertawe a'i gyflwyno i'r Cyngor i'w
fabwysiadu. 2) Ychwanegu
gweithio gydag ysgolion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwelliannau bioamrywiaeth
ac isadeiledd gwyrdd ar diroedd ysgolion at y Cynllun sy'n cael ei gyflwyno i'r
Cyngor. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith. Nododd fod y
Strategaeth Codi Tâl CT Cyhoeddus yn parhau i fod yn eitem sy'n weddill ac y
byddai'n cadarnhau a oedd Craffu yn edrych ar y pwnc. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad. |