Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datgelwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr S J Rice
fuddiannau personol yn yr agenda gyfan. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â'r agenda cyfan. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 16
Hydref 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd - Diweddariadau ar Sero Net 2050. PDF 588 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Jane
Richmond, Rheolwr y Prosiect Newid yn yr Hinsawdd Strategol a Rachel Lewis,
Rheolwr Prosiect y Gyfarwyddiaeth, Gwasanaethau Eiddo adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, gan nodi cynllun cyflawni ar
gyfer sero net 2050 a chyflwynodd weithgarwch Cyngor Abertawe ar y Cynllun
Cyswllt 'Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd'. Amlinellwyd bod
Cyngor Abertawe wedi datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019 ac argyfwng
natur ym mis Tachwedd 2021. Yn 2022 cymeradwywyd Strategaeth a Chynllun
Cyflawni Newid yn yr Hinsawdd a Natur ar gyfer 2022-2030 gan y Cabinet i
gyflawni 30 o gamau gweithredu erbyn 2030. Byddai'r strategaeth a'r cynllun hwn
yn cyflawni sero net ar gyfer ei weithrediadau ei hun erbyn 2030. Roedd y cyngor
hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r strategaeth a'r cynllun mewnol, drwy
gyflawni cynllun ar gyfer sero net 2050, ymagwedd sir gyfan at sero net a
datgarboneiddio. Cydnabu Cyngor Abertawe na all gyflawni sero net ar gyfer
Abertawe fel sir ar ei phen ei hun ac mae angen iddo weithio mewn partneriaeth
ag eraill i alluogi'r canlyniadau gorau posibl. Cydnabuwyd y
byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl adroddiadau cynnydd yn y dyfodol mewn
perthynas â 2050, mewn ffordd debyg i'r adrodd a wneir ar gyfer sero net
2030. Amlinellwyd y gweithgarwch ar
gyfer cynllun ehangach dinas a sir Abertawe ar gyfer sero net 2050 a chreu'r
gweithlu carbon-lythrennog y byddai ei angen i alluogi cyflawni ar draws pob
sector o waith Cyngor Abertawe yn yr adroddiad. Rhoddwyd
diweddariad manwl i'r Pwyllgor ynghylch gweithgarwch Cyngor Abertawe ar gyfer
Sero Net 2050, gan gynnwys Atodiad A - Y Diweddaraf am Gynllun Cyflawni Newid
yn yr Hinsawdd 2022-23; y Grŵp Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr
Hinsawdd a Natur, y Fframwaith Partner Amgylcheddol a'r Bartneriaeth Natur
Leol; Cynllun Cyflawni Mewnol ar gyfer 2030 a 2050, gan gynnwys y Cynllun
Cyfathrebu Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2023-27 yn Atodiad B; a Chynllun
Cyflawni Allanol ar gyfer Sero Net 2050; a chyflwyno Sero Net 2050 ac Adfer
Natur drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Crynhowyd bod y
cynllun cyflawni ar gyfer ymgysylltu ar gyfer Sero Net 2050 yn seiliedig ar 3
phrif faes gwaith. Byddai hyn yn ffurfio sail i rywfaint o'r gwaith sydd i'w
wneud gan y Rheolwr Prosiect Newid yn yr Hinsawdd Strategol drwy gydol Cynllun
Lles presennol Abertawe, er mwyn sicrhau cysondeb â gweithdrefnau adrodd Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Dyma
fyddai'r tri maes ffocws: - ·
Cyflawni
mewnol er mwyn sicrhau gweithlu sy'n llythrennog o ran yr hinsawdd ac Aelodau'r
Cyngor gwybodus i alluogi newid cadarnhaol ac i leihau allyriadau; ·
Darpariaeth
allanol drwy'r Fframwaith Partner Amgylcheddol; a ·
Cyflawni
drwy'r Llofnodwyr Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur a thrwy ymgymryd â
rôl y grŵp cyflawni ar gyfer cam 3 Cynllun Lles Abertawe. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Sut y
bydd pobl yn ymateb pan fyddant yn dioddef effaith gorfforol yn unig a'r angen
i unrhyw newidiadau a gyflwynir fod yn seiliedig ar unigolion ac nid ar
wyddoniaeth. ·
Pwysigrwydd
cwblhau'r sesiynau hyfforddi sydd ar gael. ·
Pwysigrwydd
cyfathrebu syml a grymuso pobl i helpu i wneud y newidiadau y gellir eu
cyflawni. ·
Pwysigrwydd
yr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am yr adroddiad. |
|
Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe (CYAL). PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Andy
Edwards, Rheolwr Prosiect - Gwasanaethau Eiddo, gyda chefnogaeth Anna Lawson,
Prif Ymgynghorydd Ynni, City Science,
adroddiad a oedd yn cynghori'r Pwyllgor ar ddatblygiad Cynllun Ynni Ardal Leol
Abertawe. Eglurwyd mai
Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) yw'r cynllun strategol, o fewn ardal ddaearyddol
ddiffiniedig, ar gyfer sut y byddai'r systemau ynni'n cael eu datgarboneiddio.
Mae'n arwain at gynllun wedi'i gostio'n llawn sy'n nodi'r newid angenrheidiol,
gan fanylu ar 'beth, ble, pryd a chan bwy', gyda'r nod o gyflawni Sero Net
erbyn 2050. Ychwanegwyd bod
CYAL yn mynd i'r afael â rhwydweithiau trydan, gwres a nwy, potensial ar gyfer
hydrogen yn y dyfodol, yr amgylchedd adeiledig (diwydiannol, domestig a
masnachol) ei ffabrig a'i systemau, hyblygrwydd, cynhyrchu a storio ynni a
darparu ynni i drafnidiaeth sydd wedi'i datgarboneiddio e.e. trydan ar gyfer
cerbydau trydan ac isadeiledd gwefru. Ar ben hynny, roedd
Llywodraeth Cymru wedi rhannu cynghorau'n 4 rhanbarth, gydag Abertawe'n rhan o ranbarth de-orllewin Cymru, ynghyd â
Chastell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Roedd Llywodraeth Cymru wedi penodi cwmni
arbenigol i weithio gyda phob rhanbarth, a'r cynghorau unigol, i gynhyrchu eu
CYAL. Penodwyd City Science i weithio gyda
rhanbarth de-orllewin Cymru a byddai'r cynlluniau hyn a ddatblygwyd yn lleol yn
bwydo i mewn i'r strategaethau ynni rhanbarthol a chenedlaethol. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod City Science wedi datblygu proses i
symud materion ymlaen, gan weithio gyda Chyngor Abertawe ac ystod eang o randdeiliaid. Dechreuwyd y broses ym mis Chwefror 2023
gyda'r bwriad o gynhyrchu drafft cyntaf o'r cynllun ym mis Rhagfyr ac roedd
disgwyl i'r ddogfen derfynol gael ei chymeradwyo ym mis Mawrth 2024. Roedd Atodiad B yn darparu trosolwg o Gamau
Datblygu CYAL. Roedd datblygu
CYAL Abertawe wedi ystyried nifer o sefyllfaoedd tebygol ac wedi'u modelu i
nodi llwybr y gallai'r cyngor ei ddilyn i gyflawni Sero Net Abertawe erbyn
2050. O'r sefyllfaoedd, nodwyd
amrywiaeth o gamau gweithredu posib a rannwyd yn gategorïau penodol a chafodd y
rhain eu rhestri. Eglurwyd
ymhellach fod rhanbarth y de-orllewin wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i
gyflogi Rheolwr Prosiect a dau Swyddog Prosiect i oruchwylio'r broses
gychwynnol o roi'r CYAL unigol ar waith a'u hintegreiddio yn y Strategaeth Ynni
Ranbarthol. Byddai'r swyddogion hyn yn
cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Gâr ond byddent yn gweithio ar draws y rhanbarth,
tan fis Tachwedd 2025. Byddai gan bob
cam ei drefniadau llywodraethu ei hun a byddai'r trefniadau llywodraethu
trosgynnol ar gyfer rhoi'r CYAL ar waith yn cael eu hamlinellu yn y cynllun
terfynol. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Posibilrwydd
o gynhyrchu ynni'n lleol, gan gynnwys storio pŵer. ·
Sicrhau
bod cymunedau'n cael eu cynnwys mewn datblygiadau, cynhyrchu cartrefi
ynni-effeithlon a bod yn ymwybodol nad yw opsiynau ynni bioamrywiaeth yn
dominyddu ardaloedd lleol. ·
Pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus gost-effeithiol ac
effeithlon o ran ynni. ·
Prosiectau
peilot system ynni solar a oedd yn mynd rhagddynt o fewn cymunedau a rhai o'r
materion a godwyd gan y cynlluniau. ·
Mae'r
cyngor yn ymwybodol o faint yr oeddent yn gofyn i breswylwyr ei wneud ac
roeddent hefyd am sicrhau bod y newidiadau a wnaed yn gadarnhaol, wedi'u
grymuso ac yn hylaw ar gyfer unigolion. Tynnodd Anna
Lawson, Prif Ymgynghorydd Ynni, City Science,
sylw at bwysigrwydd gweithio'n rhanbarthol, cynnwys busnesau yn y daith a
gwneud datgarboneiddio'n hyfyw yn ariannol. Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad Cynllun
Ynni Ardal Leol Abertawe. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad. 2)
Canslo'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 22 Ionawr 2024 a chynnal sesiwn
weithdy ar Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy - y camau nesaf. |