Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion blaenorol y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 4
Medi 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy Gorfforaethol 2020-2030. PDF 484 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd ac Cymeradwywyd. . Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Boyer, Arweinydd Grŵp Rheoli'r
Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd dros dro adroddiad a oedd yn ceisio barn a
sylwadau'r Pwyllgor ar Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ddrafft 2020-2030. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y cefndir, polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a
chyd-destun strategol; gweledigaeth, nodau ac amcanion; a sut byddai'r cyngor
yn cyflawni hyn. Amlinellwyd bod y
cynllun gweithredu yn Atodiad A yn darparu map ffordd ar gyfer bodloni'r
amcanion allweddol a amlinellir yn y strategaeth. Roedd yn diffinio'r
fframwaith ar gyfer cyflawni'r canlyniadau sero net drwy nodi mesurau ac
egwyddorion a all achosi newid ymddygiad o ran trafnidiaeth ar dair lefel: ·
Corfforaethol
- mesurau ac egwyddorion sy'n berthnasol ar draws y cyngor; h.y. ar draws yr holl adrannau
a staff. ·
Adrannol
- mesurau ac egwyddorion y dylai pob adran o'r cyngor eu mabwysiadu wrth
ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd sy'n berthnasol i'w
swyddogaeth benodol. ·
Penodol
i drafnidiaeth - mesurau ac egwyddorion penodol i'w defnyddio gan ddwy adran y
cyngor sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am gynllunio a chyflwyno a darparu
trafnidiaeth (h.y. yr Adran Priffyrdd a Chludiant a'r Uned Cludiant Canolog). Ychwanegwyd y
byddai'r Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy yn cael ei hymgorffori yng
Nghynllun Corfforaethol y cyngor a'r broses pennu cyllideb. Byddai'n cael ei
gyfathrebu i holl staff y cyngor drwy'r sianeli arferol, gan gynnwys gwefan y
cyngor, cyfryngau cymdeithasol ac mewn sesiynau briffio staff. Bydd gan
benaethiaid adrannau, ar y cyd ag arweinwyr tîm, gyfrifoldeb i gyflwyno'r
strategaeth yn eu hadrannau. Byddai arolwg teithio blynyddol hyn cael ei gynnal
ar draws y cyngor i fonitro effeithiolrwydd rhoi'r strategaeth ar waith a bydd
yn cael ei ddefnyddio i fireinio neu ddiweddaru'r strategaeth yn ôl yr angen. Gwnaeth y
Cynghorydd A S Lewis, Cyd-ddirprwy Arweinydd/Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau sylwadau o blaid yr adroddiad a thynnodd sylw at y cynnydd i
wella’r isadeiledd gwefru trydan ar gyfer cerbydau’r cyngor a sut roedd y
cyngor hefyd yn monitro cynnydd cerbydau hydrogen fel dewis amgen i gerbydau
trydan. Ychwanegodd y byddai staff a
sefydliadau partner yn rhan o'r strategaeth yn y dyfodol. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol iddynt Penderfynwyd nodi barn y Pwyllgor ar y Strategaeth
Trafnidiaeth Gynaliadwy a'r cynllun gweithredu drafft ac anfon fersiwn derfynol
yr adroddiad at y Cabinet i'w gymeradwyo. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Is-gadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun
Gwaith. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |