Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorydd S J Rice fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 17 - Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorydd S J Rice gysylltiad personol â Chofnod Rhif 17 - Cynllun Gweithredu
Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 17
Gorffennaf 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe. PDF 359 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Deborah Hill, Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur, adroddiad a oedd yn gofyn am
gefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol drafft ar
gyfer Abertawe. Amlinellwyd bod
Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur Lleol yn gynlluniau partneriaeth anstatudol a
gynhyrchir gan y Partneriaethau Natur Lleol (PNLlau)
yn yr awdurdod lleol neu'r Parc Cenedlaethol perthnasol yng Nghymru. Mae pob
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol yn cyd-fynd â, ac yn cael ei lywio gan
bolisi bioamrywiaeth cenedlaethol Cymru sef y Cynllun Adfer Natur. Cynllun
Gweithredu Adfer Natur Cymru yw'r Strategaeth Bioamrywiaeth a'r Cynllun
Gweithredu ar gyfer Cymru ac mae'n disgrifio sut yr eir i'r afael â Chynllun
Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth Confensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd
Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (a'r Targedau Bioamrywiaeth Aichi
cysylltiedig ar gyfer 2011-20 yng Nghymru) yng Nghymru. Roedd yr
adroddiad yn darparu manylion cefndir a'r argyfwng natur. Ychwanegwyd bod Cynllun Gweithredu Adfer
Natur Lleol Abertawe yn nodi blaenoriaethau ar gyfer mynd ati i adfer natur yn
Abertawe fel themâu gweithredu. Fe'u llywiwyd ar y
lefel uchaf gan y chwe amcan a'r pum thema gweithredu yng Nghynllun Gweithredu
Adfer Natur Cymru, ond roedd gwybodaeth a blaenoriaethau lleol yn sail iddynt,
yn ogystal â'r themâu a amlygwyd yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru a'r
Datganiad Ardal Morol. Roedd 25 o themâu
gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol
drafft Abertawe: Bwriedid i'r themâu gweithredu fod yn fwy cul o ran ffocws
na'r chwe amcan yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru i arwain camau gweithredu
partneriaid PNL, ond hefyd yn ddigon eang i weithredu fel ymbarél ar gyfer
camau gweithredu partneriaid gan fod PNL Abertawe yn bartneriaeth
amrywiol. Darparwyd amserlen ddatblygu
ar gyfer Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe hefyd. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Llygredd
mewn afonydd, dŵr ffo yn mynd i mewn i afonydd a'r sicrwydd a ddarparwyd
yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). ·
Gweithio
mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am y gwaith a wnaed wrth lunio'r adroddiad. Penderfynwyd: - 1)
Bod y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau (PTG) Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur yn
nodi pwysigrwydd Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Abertawe fel fframwaith
partneriaeth hollgynhwysol er mwyn mynd ati i Adfer Natur. 2) Bod y PTG yn cymeradwyo'r Cynllun
Gweithredu Adfer Natur Lleol drafft cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cyngor am
gymeradwyaeth. |
|
Strategaeth Gwastraff y dyfodol. PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Cyng. Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, a Chris Howell, Pennaeth
Gwastraff, Glanhau a Pharciau, a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor mewn perthynas
â strategaethau gwastraff yn y dyfodol. Amlinellwyd
cefndir Strategaeth Gwastraff 2022-2025 ac amlygwyd bod yr holl gamau
gweithredu i wella gwasanaethau sy'n gynwysedig yn strategaeth bresennol wedi cael eu rhoi ar
waith. Roedd hyn yn golygu bod y cyngor wedi cyflawni cyfradd ailgylchu o dros
70% yn 2022/23, ddwy flynedd yn gynt na'r hyn sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.
Yn ogystal â chyflawni lefel uchel o ailgylchu, roedd y meincnodi ariannol
mwyaf diweddar gan CLlLC o 2021/22 yn dangos bod y cyngor wedi darparu'r
gwasanaeth rheoli gwastraff mwyaf cost-effeithiol yng Nghymru (h.y. y cost net
isaf fesul aelwyd). Ychwanegwyd bod y
gwasanaeth rheoli gwastraff yn archwilio sut y gellid datblygu strategaeth
gwastraff ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod y cyngor yn parhau i gyflwyno
gwasanaeth hynod effeithiol a chost-effeithiol a hefyd leihau allyriadau carbon
ymhellach. Disgwylid y
byddai'r cyngor yn llwyddo i leihau carbon yn bennaf drwy leihau gwastraff
gweddilliol drwy gynyddu ailgylchu, newidiadau i ffynhonnell bŵer a/neu
ddefnyddio cerbydau casglu a lleihau'r defnydd o sachau ailgylchu plastig. Byddai lleihad
mewn gwastraff gweddilliol yn cael ei gyflawni drwy ddargyfeirio mwy o wastraff
o driniaeth thermol (egni o wastraff) i ailddefnyddio neu ailgylchu drwy ehangu
nifer y ffrydiau ailgylchu a gasglwyd wrth ymyl y ffordd. Ar ben hynny, yn unol
â Strategaeth Llywodraeth Cymru, byddai casglu deunyddiau ailgylchu ychwanegol
o ymyl y ffordd, fel deunydd lapio plastig, cartonau a thecstilau yn cael ei
dreialu i asesu ar gyfer symiau, ansawdd, marchnadoedd ailgylchu a
chynaladwyedd. Ychwanegwyd ymhellach
y gallai allyriadau cerbydau gael eu lleihau o bosib drwy: - ·
Gyflwyno
casgliadau gardd tymhorol a fyddai'n lleihau'r milltiredd a deithiwyd; ·
Ystyried
newid i gerbydau allyriadau isel amgen (e.e. trydan neu hydrogen). Roedd y pwyllgor
wedi gofyn i'r maes gwasanaeth i ymchwilio i ddichonoldeb darparu cynwysyddion
â chloriau ar gyfer casgliadau gwydr a chaniau. Darparwyd enghraifft. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Y cam cadarnhaol i ychwanegu deunyddiau ailgylchu at
gasgliadau ymyl y ffordd. ·
Y broses wahanu fwriadedig sy'n
cael ei hystyried gan y maes gwasanaeth. ·
Y cynnig i atal casgliadau gwastraff gardd ym mis
Rhagfyr/Ionawr. ·
Adborth ar ôl treialu'r cerbyd casglu a bwerir gan drydan a'r ffocws ar leihau milltiredd. ·
Adborth ynghylch y bin enghreifftiol a ddarparwyd. ·
Sut nad oedd biniau ailgylchu sefydlog yn ffynhonnell
ailgylchu dda oherwydd halogiad. ·
Byddai cynllun dychwelyd ernes Llywodraeth Cymru yn annog
y cyhoedd i ddychwelyd cynnyrch ac felly lleihau gwastraff. Penderfynwyd: - 1)
Mewn
egwyddor y byddai'r Pwyllgor yn gefnogol o'r potensial ar gyfer strategaethau
gwastraff y dyfodol i anelu at leihau gwastraff gweddilliol, a fyddai yn ei dro
yn arwain at gyfraddau ailgylchu uwch a'r arbedion carbon canlyniadol. 2)
Mewn
egwyddor, fod y Pwyllgor yn cefnogi'r opsiynau i leihau'r defnydd o danwydd yn
y dyfodol ar gyfer cerbydau casglu gwastraff. 3)
Bod y
pwyllgor yn cefnogi'r defnydd o'r cynhwysydd ailddefnyddiadwy
a ddarparwyd, ar yr amod bod teuluoedd mwy yn cael sawl blwch. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad diweddaredig am y Cynllun Gwaith. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |