Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd S J Rice – Eitem 6 – Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe – personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd S J
Rice – Eitem 6 – Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe –
personol. |
|||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau (PTG) Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd
ar 5 Mehefin 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|||||||||||||
Defnyddio Cynwysyddion Ailddefnyddiadwy ar gyfer Ailgylchu. PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd 1. Cefnogi'n llawn y symudiad i ffwrdd o ddefnyddio bagiau untro. 2. Cyflwyno adroddiad pellach. Cofnodion: Cyflwynodd
Chris Howell yr adroddiad a oedd yn amlinellu cefndir y ddarpariaeth bresennol
yn Abertawe o'r bagiau amrywiol a ddefnyddir ar gyfer y gwahanol fathau o
ailgylchu a gesglir ar hyn o bryd ar draws y ddinas, a nodir yn y tabl isod:
Manylodd mai
cyfuniad a ffefrir y tîm rheoli gwastraff o hyn ymlaen
fyddai symud i sachau hesian y gellir eu selio ar gyfer papur a chardiau a blwch plastig
gyda dolen gario, ar gyfer gwydr a chaniau. Yna gofynnodd
am farn y pwyllgor ar ddefnyddio cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio yn
hytrach na sachau untro. Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn defnyddio hyd at 10
miliwn o sachau untro'r flwyddyn. Cafodd y
goblygiadau ariannol ar gyfer y posibilrwydd o beidio â defnyddio sachau untro
a'r newidiadau gweithredol y bydd eu hangen eu hamlinellu gan swyddogion.
Efallai bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael i gynorthwyo gyda'r newid. Cynhaliwyd
trafodaethau cychwynnol â staff ar ymarferoldeb gweithredu'r newid. Trafododd yr
aelodau'r gwahanol fathau o flychau/fagiau sydd ar gael, y posibilrwydd y bydd
ardal brawf yn cael ei gweithredu i ddechrau ac y byddai blychau/sachau
ychwanegol ar gael am ddim pe bai eu hangen ar y cyhoedd. Rhoddodd aelod
o'r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ei farn am y mathau o
gynwysyddion i'w defnyddio. Diolchodd y Cynghorwyr
Cyril Anderson ac Andrew Stevens i'r ddau swyddog am eu hadroddiad a'u
cyflwyniad ac i'r cynghorwyr/cyhoedd am eu mewnbwn. Penderfynwyd: - 1. Cefnogi'r syniad
o gyflwyno blwch/sach newydd yn lle defnyddio sachau untro yn llawn. 2. Y bydd
swyddogion yn cynnal ymchwiliadau pellach ar yr opsiynau amrywiol sydd ar gael
ar gyfer y cynhwysydd newydd ac yn cyflwyno adroddiad i gyfarfod o'r PTG yn y
dyfodol. (Sylwer - Wrth ystyried yr eitem uchod: torrodd y Pwyllgor am
2.17-2.19 fel y gellid datrys problemau TG technegol) (Torrodd y Pwyllgor eto am 2.23-2.28 i ganiatáu i'r cynghorwyr, y
swyddogion a'r aelodau hynny o'r cyhoedd a oedd yn gorfforol bresennol yn yr ystafell
weld y gwahanol fathau o focsys/sachau hesian) |
|||||||||||||
Cyflwyniad - Trafnidiaeth Cymru. PDF 4 MB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd Ben
George ddiweddariad llafar a chyflwyniad i gefnogi'r wybodaeth a gylchredwyd
sy'n ymwneud â'r cynigion ar gyfer Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Roedd y
cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â'r meysydd canlynol: ·
Rhaglen
reilffyrdd gan gynnwys Prif Linell De Cymru, Gwasanaethau Gorllewin Cymru a
Metro Ardal Bae Abertawe; ·
Blaenoriaethau
rheilffordd ar gyfer Gorllewin Cymru ac amlder gwasanaethau rhwng Port Talbot
yn y dwyrain i Abergwaun ac Aberdaugleddau yn y gorllewin ar y gwahanol
linellau; ·
Cynigion
rheilffordd Metro Ardal Bae Abertawe ar gyfer gorsafoedd rhwng Porth Tywyn,
Rhydaman, Abertawe a Chastell-nedd; ·
Rhaglen
fysus ac ad-drefnu llwybrau sy'n ceisio lleihau dyblygu a gwella
effeithlonrwydd gwasanaethau; ·
Mae'n
bwriadu integreiddio'n well â dulliau trafnidiaeth eraill trwy gynllunio
gwasanaethau bysus yn well i greu rhwydwaith mwy cydlynol a chyd-drefnedig; ·
Cynigion
datgarboneiddio bysus; ·
Trosolwg
o brosiect bysus hydrogen Bae Abertawe a'r strwythur arfaethedig. Croesawodd y
Cynghorydd David Hopkins y cynigion a'r syniadau a amlinellwyd yn y cyflwyniad
ac amlinellodd y byddai'r datblygiadau sy'n ymwneud â cherbydau hydrogen yn
cael eu croesawu a'u bod yn gyffrous i'r ddinas. Diolchodd y
Cadeirydd i Ben am ei bresenoldeb a'i gyflwyniad a nododd y byddai'r PTG yn
edrych ar y mater eto yn eu cyfarfod ym mis Hydref. |
|||||||||||||
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol ar gyfer Abertawe. PDF 267 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: ymwybyddiaeth
o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl)
drafft ar gyfer Abertawe. Yna rhoddodd
Christina Derrick gyflwyniad Powerpoint i'r pwyllgor i gefnogi'r adroddiad a
gylchredwyd. Dyma'r materion
a drafodwyd yn y cyflwyniad: ·
Trosolwg, cefndir a chynnwys o ran sut y bydd y CGANLl newydd yn cael ei ddefnyddio; ·
Mae'r CGANLl yn nodi
blaenoriaethau lleol ar gyfer adfer natur, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru
yn bwriadu llunio cynllun; ·
Mae gan Bartneriaeth Natur Leol Abertawe (PNL) dros 120+
o wahanol aelodau unigol ac mae dros 50 o sefydliadau'n ymwneud â hi; ·
Mae'r polisi cefndir yn cynnwys offeryn polisi
cenedlaethol dan darged Aichi 17, ac mae'n nodi
ymagwedd genedlaethol at adfer natur a chyfraniad i'r cynllun strategol ar
gyfer Bioamrywiaeth/Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal; ·
Chwe phrif amcan; ·
Pum 'thema ar gyfer gweithredu'; ·
Angen a chefndir datblygiad y cynlluniau; ·
Y broses hyd yn hyn sy'n cynnwys adolygu
dogfennau/polisi, y PNL yn adolygu'r fframwaith cychwynnol, gweithdai'r PNL a
gwaith dilynol, ac yna anfon ail ddrafft i'w adolygu gan y PNL. ·
Cynnwys 1 - adfer natur, trosolwg o natur yn Abertawe a
gosod cyd-destun a'r angen am gynllun; ·
Cynnwys 2 - nodi blaenoriaethau'r themâu ar gyfer
gweithredu, cysoni o dan y chwe amcan yn y CGAN i Gymru, helpu i arwain
gweithredoedd partner ar draws y PNL, peidio ag ymrwymo un partner i unrhyw
gamau penodol; ·
Cynnwys 3 - Gwybodaeth fanylach am natur yn Abertawe gan
gynnwys trosolwg o gynefinoedd â blaenoriaeth ac archwilio rhywogaethau a
safleoedd sy'n 'arbennig' i Abertawe; •
Cynnwys 4 - Beth allwch chi ei wneud, ffeithluniau
er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, awgrymiadau a syniadau ar gyfer cyfrannu at
adfer natur, nid yw'n rhestr gyflawn ·
Sut caiff y CGANLl ei
ddefnyddio yn y dyfodol. Nododd
swyddogion y byddai copïau o'r sleidiau a ddefnyddiwyd yn y cyflwyniad a chopi
o'r cynllun llawn yn cael eu dosbarthu i aelodau'r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod
er mwyn iddynt wneud sylwadau a rhoi adborth, cyn i'r mater gael ei ystyried
eto yng nghyfarfod mis Medi y PTG. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad a
gylchredwyd a'r cyflwyniad a roddwyd yn ystod y cyfarfod. Dywedodd, os yw
amser yn caniatáu, y gellid cynnal gweithdy neu gyfarfod anffurfiol cyn
cyfarfod mis Medi i drafod a choladu ymatebion i'r cynllun drafft. |
|||||||||||||
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith. Penderfynwyd nodi’r cynllun gwaith ar gyfer 2023-2024. |