Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023
a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparwyd cylch
gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau 'er gwybodaeth'. |
|
Trafodaethau Cynllun Gwaith. Penderfyniad: Penderfynwyd:- 1) Cymeradwyo'r pynciau a restrir uchod. 2) Dosbarthu'r Cynllun Gwaith i'r Pwyllgor. Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd ei bod hi a'r Is-Gadeirydd wedi cwrdd â swyddogion ynghylch drafftio
cynllun gwaith bras ar gyfer y Pwyllgor.
Amlygodd y byddai'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar bynciau mwy fel y gellir
gwneud cyfraniad ystyriol a manwl tuag atynt. Roedd y pynciau'n cynnwys Adfer
Natur Leol, Trafnidiaeth Gynaliadwy, Abertawe 2050 / Cynllun Ynni Ardal Leol
a'r Strategaeth Gwastraff. Ychwanegodd y
byddai hefyd yn trafod Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cyhoeddus gyda
swyddogion ac yn diweddaru'r Pwyllgor yn adroddiadau cynllun gwaith y dyfodol. Amlinellodd Geoff
Bacon, Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo, amserlen cynllun gwaith arfaethedig y
Pwyllgor, gan amlygu pynciau/dyddiadau penodol i'w trafod. Penderfynwyd: - 1)
Cymeradwyo'r
pynciau a restrwyd uchod. 2)
Cylchredeg
y cynllun gwaith i'r pwyllgor. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. Penderfyniad: Penderfynwyd bod cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn cychwyn am 3 p.m. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol a ddarparwyd ar yr
agenda. Amlygwyd y byddai'r cyfarfod ym
mis Ebrill 2024 yn cael ei gynnal ar 15 Ebrill, nid 8 Ebrill fel a nodwyd ar yr
agenda. Cynigodd y
Cadeirydd y byddai cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal am 3pm. Penderfynwyd y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor yn y
dyfodol yn dechrau am 3pm. |