Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn 2024-2025. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-gadeiryddar gyfer y Grŵp Cynghori ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024-2025. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Barbara
Parry yn Is-gadeirydd ar gyfer y Grŵp Cynghori ar gyfer blwyddyn ddinesig
2024-2025. |
|||||||||
Datganiadau o fuddiannau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2024 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy - Crynodeb Ariannol. PDF 72 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod
cyllideb y CDC o £100,000 ar gyfer 2024/25 wedi cael ei chadarnhau gan
Lywodraeth Cymru a dyma oedd blwyddyn olaf y cyllid grant 3 blynedd presennol y
cytunwyd arno. Hyd yn hyn, roedd
arian wedi'i neilltuo ar gyfer 13 o brosiectau ac roedd y prosiectau hyn ar
waith, gyda chais arall ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd un prosiect wedi
adrodd am danwariant yn 2023/24, os nad oeddent yn gallu cynyddu gwariant yn
2024/25 byddai ei grant ar gyfer 2024/25 yn cael ei leihau yn unol â hynny. Nodwyd bod ffigwr y cronfeydd neilltuedig yn cynnwys Ffi Rheoli DASA o
£10,000.
Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar
23 Medi 2024. Cadarnhawyd byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei ddosbarthu i'r
grŵp unwaith y byddai'r Panel CDC wedi'i gymeradwyo. |
|||||||||
Adroddiadau a Diweddariadau Prosiectau - Mehefin 2024. PDF 92 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru 'er gwybodaeth' ar y cynnydd
a wnaed gan Dîm AoHNE Gŵyr ers y cyfarfod diwethaf, ar y meysydd canlynol:
- · Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr. · Ailfrandio AoHNE Gŵyr. · Digwyddiad Lansio Tirweddau Cenedlaethol - y Senedd - 24 Ebrill 2024. · Seminar Tirweddau Cymru - 16/17 Mai 2024. · Ynys Goleudy'r Mwmbwls. · Statws Cymunedol Awyr Dywyll Gŵyr. · Awyr Dywyll - prosiectau ôl-osod. · Eglwys y Santes Fair, Knelston. · Capel Backingstone. · Problemau Parcio. · Castell Pennard. · Rhaglen Adfer Natur Gŵyr. · Mannau Addoli Gŵyr. · Parc Gwledig Dyffryn Clun. · Sioe Gŵyr 2024. · Prosiect Tirlunio The Vile. · Cynhadledd Tirweddau Cenedlaethol 2024. · Cyllid Grant. |
|||||||||
Adroddiadau partneriaid a diweddariadau. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparwyd
adroddiadau a diweddariadau partneriaid fel a ganlyn: - 1. Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) Darparodd Hamish Osborn y canlynol i'r grŵp: - ·
Ansawdd dŵr ymdrochi -
cynhelir profion rhwng mis Mai a mis Medi 2024 ac amlinellwyd y broses brofi.
Roedd CNC yn rhagweithiol o ran olrhain llygredd a nodwyd effaith dŵr
wyneb/dŵr ffo o dir amaethyddol ar yr ansawdd. Nodwyd effaith carthffosiaeth
ar yr ansawdd dŵr. ·
Rheolaeth Cadwraeth - a oedd
yn cynnwys SoDdGA o fewn AoHNE, gan gynnwys rheoli
llystyfiant ar diroedd comin, y cyllid sydd ar gael a thendro ar gyfer
arolygu'r tiroedd comin. Nodwyd y cyfyngiad ar recriwtio o fewn CNC ac effaith hynny. 1. Cymdeithas
Gŵyr Darparodd Howard Evans y
canlynol i'r grŵp: - ·
Sioe Gŵyr 2024 - dyma
oedd y prif ffocws o fis Mehefin ymlaen. Ychwanegwyd y byddai'r arddangosfa
Cymdeithas Gŵyr yn cynnwys arddangosfa o gelf plant, ffotograffiaeth a
chystadleuaeth barddoniaeth o dan y thema 'Fy Mhenrhyn Gŵyr'. Tynnwyd sylw
at y ffaith mai'r Gymdeithas oedd un o brif noddwyr Sioe Gŵyr. ·
Comin Clun - Roedd pwyllgor
cynllunio'r gymdeithas yn casglu tystiolaeth ynghylch y datblygiad newydd yng
Nghomin Clun a oedd yn cynnig cyfnewid tir comin am dai y byddai'r gymdeithas
yn ei wrthwynebu. ·
The Vile, Rhosili - Roedd amddiffyn y system gaeau
ganoloesol yn bryder mawr i'r Gymdeithas. ·
Gorfodi Cynllunio - roedd y
Gymdeithas yn parhau i adrodd ar achosion o orfodi a phryderon i'r Adran
Gynllunio. ·
Cyllid grant - Amlinellwyd
manylion y cyllid a dyfarnwyd a thynnwyd sylw at y ffaith bod ysgolion lleol yn
gallu gwneud cais. ·
Y Tîm Gwyrdd - Roedd y Tîm
Gwyrdd wedi parhau i gynnal gweithgareddau gan gynnwys casglu sbwriel ar draeth
Oxwich, teithiau cerdded tegeirian yn Oxwich a gwylio adar ym Moryd Llwchwr. ·
Menter Awyr Dywyll - Roedd y
Gymdeithas yn gefnogol iawn o'r fenter. ·
Rhaglen o deithiau
cerdded/sgyrsiau - Roedd y rhain yn parhau. Diolchodd y
Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am eu hadroddiadau. |
|||||||||
Digwyddiadau ac Ymgysylltu. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Jake
Cosgrove, Swyddog Prosiect Cymunedau a Natur gyflwyniad manwl, llawn gwybodaeth
ynghylch digwyddiadau ac ymgysylltiadau. Roedd y manylion a ddarparwyd yn
cynnwys: - · Lansio Tirweddau Cenedlaethol. · Awyr Dywyll. · Parc Gwledig Dyffryn Clun. · Cefnogaeth gan y Gweinidog - Huw Iranca Davies. · Seminar Tirweddau Cymru 2024. · Bodloni Sero Net ar ffermydd Cymru. · OGWEN. · Y ras i Sero Net. · Fframwaith defnydd tir amlswyddogaethol. · Diwrnod Amgylchedd y Byd - Natur a Ni CNC. · Cyfrif Instagram newydd, diweddaru'r dudalen
Facebook a'r broses o sefydlu gwefan newydd. · Syllu ar yr haul yn ystod Heuldro'r Haf yn Rhosili. · Llygredd golau - taflenni. · Her Natur y Ddinas - Llwyddiant Partneriaeth Evelyn Luge.
· Wythnos Natur Cymru - 29 Mehefin i 7 Gorffennaf 2024. · Cynhadledd Flynyddol Tirweddau Cenedlaethol. Roedd Howard
Evans wedi canmol y swyddog am y cyflwyniad ac ychwanegodd fod y cynnydd yn
nifer y swyddogion newydd yn y timau AoHNE/Cadwraeth Natur wedi cyflwyno
'newydd-deb' i'r maes gwaith. Cadarnhawyd bod y
swyddogion yn agored i ddod i gyfarfodydd grŵp lle gellid tynnu sylw at eu
gwaith. |
|||||||||
Grwp Cynghori – Blaenoriaethau a Chyllid y Dyfodol. PDF 105 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Adroddodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, fod Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr 2017 yn
darparu gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer Penrhyn Gŵyr, a gefnogir gan 12
thema a 39 o amcanion. Ychwanegwyd bod y cynllun rheoli'n ymwneud â phawb sy'n
rhan o waith Penrhyn Gŵyr ac nad oedd yn ddogfen y Cyngor yn unig. Nodwyd, o'r
amcanion hyn, aethpwyd i'r afael â 13 ohonynt drwy waith a wnaed gan Dîm
Tirweddau Naturiol Gŵyr, er, roedd ychydig o orgyffwrdd gydag amcanion
eraill. Mabwysiadwyd y cynllun rheoli gan Gyngor Abertawe fel Canllawiau
Cynllunio Atodol (CCA) gan sicrhau y gellid cyfeirio atynt yn y broses
gynllunio, yn enwedig y Cynllun Datblygu Lleol. Yn ogystal â hyn,
roedd y cynllun yn ddogfen statudol, i'w adolygu bob pum mlynedd, gyda'r arolwg
nesaf wedi'i drefnu i ddechrau eleni. Tynnwyd sylw at y ffaith mai dyma
fyddai'r adolygiad cyntaf ers datgan yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur gan
Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe a byddai angen y cynllun er mwyn mynd i'r
afael â'r problemau hyn fel blaenoriaeth. Amlinellwyd
manylion y weledigaeth, cyllid, cyfeiriad y dyfodol a blaenoriaethau. Gofynnwyd
i'r pwyllgor ystyried y weledigaeth, blaenoriaethau ac amcanion y Cynllun
Rheoli a thrafodwyd y canlynol: - ·
Ymgynghoriad â'r diwydiannau
ffermio a thwristiaeth ac ymgynghoriad ehangach. ·
Effaith bosib yr Adolygiad o
Ffiniau sydd ar waith ar hyn o bryd, ar gynghorau tref a chymuned. ·
Pwysigrwydd ymgynghori a
chynnwys y grwpiau cywir a'i gysylltu â'r Cynllun Rheoli. ·
Sicrhau bod y Cynllun Rheoli,
cyllid ac amcanion ar gael yn ehangach wrth symud ymlaen. ·
Pwysigrwydd cysylltu'r
Cynllun Rheoli a'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). ·
Pwysigrwydd sicrhau bod y
Cynllun Rheoli'n gynhwysol. ·
Cydnabod bod y weledigaeth 20
mlwydd oed a'i aralleirio, gan sicrhau ei fod yn gyfredol. ·
Yr amserlenni sy'n rhan o'r
broses, yn enwedig y broses ymgynghori. ·
Cydnabod maint y dasg sy'n
wynebu'r tîm, a chyflogaeth a chost ymgynghorwyr. Penderfynwyd nodi cynnwys y
trafodaethau. |