Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cyflwyniad - Cymdeithas 'National Landscapes' - Ailfrandio'r AoHNEau yng Nghymru. (Ruth Colebridge / John Watkins) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd John Watkins,
Cymdeithas Tirweddau Cenedlaethol, gyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth i'r
Grŵp Cynghori ynghylch ail-frandio AoHNE yng Nghymru. Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad
yn cynnwys y canlynol: ·
Pam
nawr? Yr hyn rydym yn gobeithio ei gyflawni. ·
Adeg
dyngedfennol ar gyfer natur a’r hinsawdd. ·
Estyn
croeso cynnes i bawb. ·
Ein
gweledigaeth - tirweddau hardd, ffyniannus rydym i gyd yn teimlo'n rhan
ohonynt. ·
Ein
cenhadaeth - gwarchod ac adfywio ein tirweddau a gwneud yn siŵr bod pawb
yn gallu eu mwynhau. ·
Egwyddorion
ein brand – dod â phobl at ei gilydd; parhau i symud ymlaen; manteisio ar y
daith; gwrando ac ehangu. ·
Bydd
cael hunaniaeth fwy unedig ar draws y rhwydwaith yn dangos yn well ein maint ar
y cyd, ein huchelgais, ein heffaith ac yn creu cydnabyddiaeth ar lawr gwlad i
ymwelwyr. ·
Mewn
rhai grwpiau oedran, mae pobl yn ymwybodol o ddwywaith cymaint o barciau
cenedlaethol nag y maent o AoHNE. ·
Cyfle
i adeiladu teulu cyson o frandiau. ·
Brandio
- creu eiconau ar gyfer AoHNE er mwyn cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, gan
greu hunaniaeth weledol. Cyfeiriodd yn
gadarnhaol hefyd at ail-lansio AoHNE i Dirweddau Cenedlaethol yn Lloegr y
llynedd ac at ei ymweliad diweddar â phenrhyn Gŵyr, lle cyfarfu â Julie
James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Cafwyd trafodaeth
faith ar gynnwys y cyflwyniad, yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer yr AoHNE,
cydweithio, dewisiadau Llywodraeth Cymru, goblygiadau peidio â dod yn Dirwedd
Genedlaethol i'r AoHNE a manteision dod yn Dirwedd Genedlaethol. Dywedodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, y byddai adroddiad yn crynhoi sylwadau ac
ymatebion aelodau’r Grŵp Cynghori yn cael ei gyflwyno i’r Grŵp
Cynghori ar 26 Chwefror 2024.
Ychwanegodd, yn seiliedig ar y sylwadau hynny a thrafodaeth bellach yn y
cyfarfod hwnnw, y byddai adroddiad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i Gyngor
Abertawe. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Tirweddau Cenedlaethol am ei gyflwyniad. |