Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636016
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi
Cofnodion Cyfarfod Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr a
gynhaliwyd ar 25 Medi 2023 a 29 Ionawr 2024 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Adroddiadau a Diweddariadau am Brosiectau. PDF 239 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad diweddaru 'er
gwybodaeth' ar y cynnydd a wnaed gan Dîm AoHNE Gŵyr ers y cyfarfod
diwethaf, ar y meysydd canlynol: - · Cynllun Rheoli
AoHNE Gŵyr. · Cyfryngau
Cymdeithasol. · Prosiectau
Gwrychoedd. · Statws Cymunedol
Awyr Dywyll Gŵyr. · Awyr Dywyll -
prosiectau ôl-osod. · Twyni Porth
Einon. · Eglwys y Santes Fair, Llan-y-tair-mair (Knelston). · Capel Backingstone. · Problemau
parcio. · Castell Pennard. · Rhaglen Adfer
Natur Gŵyr. · Mannau Addoli Gŵyr. · Parc Gwledig
Dyffryn Clun · Arian grant. |
|||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy - Crynodeb Ariannol. PDF 111 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike Scott,
Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi
cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer
2023/24. Hyd yn
hyn, roedd cyllid wedi'i neilltuo i 20 o brosiectau, gyda chais arall ar y
gweill ar hyn o bryd. Roedd un prosiect wedi adrodd nad oedd yn gallu parhau, a
bod y cyllid wedi cael ei ddychwelyd, ac roedd dau arall wedi tynnu'n ôl yn
ystod y cam cyflwyno cais. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.
Ychwanegwyd bod cyfarfod nesaf Panel
Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi'i drefnu ar gyfer 15 Mawrth 2024. Roedd cyllideb y Gronfa Datblygu Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer 2024/25 wedi'i
chadarnhau gan Lywodraeth Cymru, ac roedd rhan helaeth ohoni eisoes wedi'i
neilltuo, gyda £3,000 heb ei neilltuo ar hyn o bryd. |
|||||||||
Bwyd a Chymunedau. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Josh Pike, Summit Good,
gyflwyniad manwl ac addysgiadol am Summit Good, sef Menter Gymdeithasol yn Abertawe a sefydlwyd fel
Cwmni Buddiannau Cymunedol. Esboniwyd
bod y fenter yn cynnwys grŵp o ffrindiau a oedd yn ceisio gweithredu er
gwell. Darparwyd y manylion canlynol:- - ·
Mae
cyfleusterau ar gael ar safle Killan Road, gan
gynnwys y Men's/Women's Shed. ·
Dulliau
a ddefnyddir ar gyfer tyfu, a'r eitemau sy'n cael eu tyfu ar y safle. ·
Y
cynllun Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned sy'n cael ei redeg ar y safle a sut
y mae'n cael ei drefnu. ·
Y
grwpiau / unigolion / plant sy'n defnyddio'r cyfleusterau. ·
Prynu
a defnyddio tir ychwanegol ger y safle. ·
Sicrhau
nad oedd y prosiectau'n canolbwyntio ar wneud elw a'u bod felly'n ymwneud â
garddwriaeth a'r gymuned leol. Gofynnodd y
Grŵp Cynghori nifer o gwestiynau, yr ymatebwyd iddynt gan y cynrychiolydd Summit Good, a diolchodd y
Cadeirydd iddo am ddarparu'r cyflwyniad. |
|||||||||
Cynigion Ailfrandio'r AoHNE. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn ceisio barn y Grŵp
Cynghori mewn perthynas â Chynigion Ailfrandio'r
AoHNE. Amlinellwyd bod y
Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol (y Gymdeithas AoHNEau
Cenedlaethol gynt) yn Lloegr wedi bod yn gweithio gydag Adran yr Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i ddatblygu cynigion i atgyfnerthu'r ymrwymiad
i amddiffyn Ardaloedd o Dreftadaeth Naturiol Eithriadol - eu treftadaeth
naturiol a diwylliannol, ac i lansio targedau uchelgeisiol sy’n mynd i'r afael
â nodau'r teulu AoHNE. Y bwriad oedd codi proffil y tirweddau hyn er mwyn eu
hamddiffyn ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau y gall pawb eu mwynhau. Mae'r
cynigion, sydd eisoes wedi cael eu mabwysiadu yn Lloegr, yn cynnwys: - · Adnabod yr AoHNEau fel Tirweddau Cenedlaethol. · Ailymrwymo i amddiffyn y tirweddau gwerthfawr hyn - eu treftadaeth naturiol
a diwylliannol. · Sicrhau y gall pawb fwynhau'r tirweddau hyn. Ychwanegwyd bod yr AoHNEau
yng Nghymru wedi cael y cyfle i fabwysiadu'r cynigion cyn y cynhelir digwyddiad
dathliadol yn y Senedd ym mis Ebrill, a fyddai'n nodi pen-blwydd y
ddeddfwriaeth carreg filltir yn 75oed, sy'n nodi sefydliad yr AoHNEau - Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn
Gwlad 1949. Amlinellwyd ymhellach, oherwydd y gwaith a
wnaed gan National Landscapes yn Lloegr, y byddai'r
costau o fabwysiadu'r newidiadau yn isel - roedd logo drafft yn gynwysedig yn y
gwaith dylunio a ariannwyd gan DEFRA, pe bai'r cynigion yn cael eu mabwysiadu.
Er bod y cynigion yn canolbwyntio ar AoHNEau yn
Lloegr yn wreiddiol, byddai eu mabwysiadu nhw yng Nghymru yn arwain at y
buddion canlynol ar gyfer y 4 AoHNE yng Nghymru: - · Helpu i wellau'n proffil cyhoeddus. · Pwysleisio'r rhan maent yn ei chwarae mewn
teulu cenedlaethol o dirweddau a warchodir, wrth gadw eu hunaniaethau unigol. · Pwysleisio'u pwysigrwydd wrth ymateb i'r
argyfyngau natur a hinsawdd. · Helpu i feithrin perthnasoedd cryf a
chynhwysol. Mae'r cynigion yn
cefnogi blaenoriaethau corfforaethol Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe, gan
sicrhau bod AoHNE Gŵyr yn aros yn berthnasol ac yn ganolog i gamau
gweithredu ar argyfyngau natur a hinsawdd yn y dyfodol, yn ogystal ag anghenion
ein tirweddau a'n cymunedau. Cefnogwyd y cynigion ailfrandio
gan ganllawiau brand, sy'n nodi hunaniaeth gweledol a thôn llais, gan sicrhau
bod yr holl Dirweddau Cenedlaethol yn cael eu cydnabod fel rhan o deulu
cenedlaethol cryf, sy'n rhannu'r un gwerthoedd. Briffiwyd AoHNE
Gŵyr ar y cynigion gan John Watkins (Prif Weithredwr NLA) ar 29 Ionawr
2024, gyda thrafodaeth yn dilyn y cyflwyniad. Gofynnwyd i
aelodau'r Grŵp Cynghori gyflwyno ymatebion ysgrifenedig i'r cynigion, a
darparwyd y rhain yn Atodiad A. Cyflwynodd Mike

darparwyd y rhain yn Atodiad A. Cafwyd trafodaeth
faith ar gynnwys y adrodd, yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer yr AoHNE,
cydweithio, dewisiadau Llywodraeth Cymru, goblygiadau peidio â dod yn Dirwedd
Genedlaethol i'r AoHNE a manteision dod yn Dirwedd Genedlaethol. Penderfynwyd y bydd Grŵp
Cynghori AoHNE Gŵyr yn argymell bod y Cynigion Ailfrandio
AoHNE yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor. |
|||||||||
Digwyddiad dathliadol - Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. PDF 205 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, 'er gwybodaeth' fod y Gymdeithas Tirweddau
Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad dathliadol yn y Senedd ar 24 Ebrill 2024,
wedi'i gyflwyno gan Julie James AS, Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd. Byddai hyn yn
nodi pen-blwydd y Ddeddf Mynediad i Gefn Gwlad, a oedd wedi sefydlu'r Parciau
Cenedlaethol a'r AoHNEau, yn 70 oed. Gwahoddwyd AoHNE
Gŵyr i fod yn bresennol, ac i gynnwys partneriaid y prosiect er mwyn
arddangos yr effaith rydym yn ei chael ar ein tirweddau a'n cymunedau, fel rhan
o'r dathliadau. |
|||||||||
TAaCh ac Argyfyngau Natur a'r Hinsawdd. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyfeiriodd Mike
Scott, AoHNE Gŵyr, at yr hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a
Chynhwysiad ac Argyfyngau Natur a Hinsawdd diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth
Cymru. Ychwanegodd bod dolen ar gyfer recordiadau o'r hyfforddiant wedi cael ei
dosbarthu a'i bod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd fod y
Grŵp Cynghori wedi gofyn am drafodaethau pellach ar y ddau bwnc. Penderfynwyd trefnu sesiwn gweithdy wyneb yn wyneb yn
unig i drafod y ddau bwnc. |