Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. PDF 337 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd bod cofnodion Cyfarfod Grŵp Cynghori AHNE Gŵyr yn cael eu cynnal ar 26 Mehefin 2023 gael ei gymeradwyo a'i lofnodi fel cofnod cywir. |
|||||||||
Cynhadledd Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas Genedlaethol AoHNE. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, a Clive Scott adroddiad llafar i'r grŵp
ynghylch Cynhadledd Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas Genedlaethol AoHNE yr
aethant iddi'n ddiweddar ym Mhrifysgol
Caerfaddon. Amlygwyd bod y
gynhadledd yn ddigwyddiad ardderchog, wedi'i drefnu'n dda a oedd yn cynnig
amrywiaeth gwych o ddarlithoedd/gyfarfodydd, gan gynnwys grwpiau allanol ac
roedd yn addysgiadol iawn. Ychwanegwyd bod y
digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn ac anogwyd aelodau'r grŵp i fynd
i'r digwyddiad yn y dyfodol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||
Brandio Cymdeithas Genedlaethol AoHNE. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Hysbysodd Swyddog
AoHNE Gŵyr y grŵp ar lafar fod Cymdeithas Genedlaethol AoHNE yn
trafod ailfrandio sylweddol er mwyn mynd i'r afael â
rhai o'r materion a godwyd yn Adolygiad Glover. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â
chynhwysiant a gweithio gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gwell
cyfathrebu, darparu delwedd fwy unedig, ceisio cyflawni proffil lefel uwch a
mwy o gydnabyddiaeth o'u cyfraniad at agendâu adfer natur a newid yn yr
hinsawdd. Ychwanegodd fod
AoHNE Lloegr ychydig ar y blaen i Gymru, a bod disgwyl i Weinidog Cymru wneud
datganiad ym mis Tachwedd 2023. Yn
ogystal roedd hefyd yn ymwneud â chyfathrebu/gwedd gyhoeddus, gan esbonio rolau
AoHNE. Darperir
diweddariad mwy manwl yn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad. |
|||||||||
Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Hysbysodd Swyddog
AoHNE Gŵyr y grŵp ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
newydd. Eglurwyd y byddai'r broses yn un
hir ac er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp, darparwyd cyflwyniad
ar Adolygiad a Chynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Abertawe. Eglurwyd bod
angen cynnal adolygiad ffurfiol statudol bob 4 blynedd ar gyfer CDLl Abertawe,
a fabwysiadwyd yn 2019, a bod y CDLl newydd yn dechrau yn awr. Amlygwyd cynnydd
a chamau allweddol y broses a nodwyd bod y cyfnod ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisiol i’w datblygu ar agor ar hyn o bryd, hyd at 31
Hydref 2023. Holwyd a allai'r
grŵp wneud sylwadau fel corff ar unrhyw safleoedd ymgeisiol
o fewn yr AoHNE. Cadarnhawyd bod
unigolion yn gallu gwneud sylwadau ar safleoedd a byddai'r swyddog yn egluro a
allai'r grŵp wneud sylwadau. Penderfynwyd: - 1)
nodi
cynnwys yr adroddiad. 2)
gofynnir
am eglurhad gan y Tîm Cynllunio Strategol ynghylch a allai'r grŵp roi
sylwadau ar safleoedd o fewn yr AoHNE. |
|||||||||
Adroddiad am Dîm AoHNE Gwyr. PDF 211 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Paul Meller, Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol, Mike Scott,
Swyddog AoHNE Gŵyr ac Ursula Jones, Swyddog y Prosiect Cymunedau a Natur,
adroddiad diweddaru ‘er gwybodaeth’ ar y cynnydd a wnaed gan Dîm AoHNE
Gŵyr ers y cyfarfod blaenorol, ar y meysydd canlynol: - · Sioe Gŵyr ·
Cais
Cymuned Awyr Dywyll Gŵyr · Awyr Dywyll
Gŵyr - Prosiectau Ôl-osod twyni tywod Porth Einon ·
Treftadaeth
adeiledig · Comin Fairwood · Castell Pennard ·
Mannau
Addoli Gŵyr ·
Parc
Gwledig Dyffryn Clun · Canclwm Japan
Parkmill · Panel y CDC · Grŵp
Cynghori AoHNE · Ailfrandio CGAoHNE ·
Staffio
Tîm AoHNE Nodwyd y byddai “Swyddog Natur a
Chymunedau AoHNE” yn dechrau ym mis Hydref 2023, fel trydydd aelod o staff y
tîm AoHNE, gan alluogi i fwy o waith prosiect gael ei wneud. Roedd y gwaith o
ailstrwythuro Adran yr Amgylchedd Naturiol yn parhau. Nodwyd hefyd y byddai Julie James, y
Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymweld â Pharc Gwledig Dyffryn Clun ar 9 Hydref
2023. Byddai’r Cadeirydd, Paul Meller,
Mike Scott, Ursula Jones a Barbara Parry yn cwrdd â’r Gweinidog i amlinellu’r
gwaith a gwblhawyd yn y parc a chyfleoedd ariannu. |
|||||||||
Crynodeb Ariannol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 111 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer 2023/24. Hyd yn hyn, roedd cyllid wedi'i ymrwymo i 18 o brosiectau, gyda 4 cais
arall ar y gweill ar hyn o bryd. Roedd un prosiect wedi adrodd nad oedd yn
gallu bwrw ymlaen, a dychwelwyd yr arian, gydag ail brosiect yn annhebygol o
fynd ymlaen. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.
|
|||||||||
Grwp Cynghori AHNE Gwyr - Newidiadau i Aelodaeth. PDF 202 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn amlinellu bod Anthony Thomas wedi ymddiswyddo
o'r grŵp ers y cyfarfod diwethaf, gan adael swydd wag ar gyfer Grŵp
Cynghori AoHNE. Ychwanegwyd nad
oedd gan y Grŵp Cynghori lais archaeolegol, ac
am y 6 mis diwethaf roedd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent
(GGAT) arsylwr fel aelod o'r grŵp, sef Judith Doyle, Swyddog Stiwardiaeth,
yn ogystal â’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol. Cynigiwyd bod
Judith Doyle yn cael ei hethol i'r grŵp fel cynrychiolydd Ymddiriedolaeth
Archeolegol Morgannwg Gwent/archaeoleg/treftadaeth. Penderfynwyd ethol Judith Doyle, Ymddiriedolaeth
Archeolegol Morgannwg Gwent, yn aelod o'r Grŵp Cynghori. |
|||||||||
Fformat Cyfarfodydd y Dyfodol - Trafod Fformat Cyfarfodydd y Dyfodol. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Amlygodd Swyddog
AoHNE Gŵyr yr angen i sicrhau cynhyrchiant a budd cyfarfodydd y dyfodol ac
i'r grŵp fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn yr AoHNE. Ychwanegodd mai
dim ond y Tîm AoHNE oedd wedi darparu adroddiadau mewn cyfarfodydd diweddar a chynigiwyd bod aelodau'r grŵp yn darparu adroddiadau
diweddaru yng nghyfarfodydd y dyfodol, ar ran y corff y maent yn ei gynrychioli
neu fel unigolion. Yn ogystal, cynigiodd
fod pob cyfarfod yn derbyn cyflwyniad ar bwnc perthnasol er mwyn cynyddu
ymwybyddiaeth. Cynigiodd Barbara
Parry fod cyflwyniad yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar
gynhyrchu/amrywiaeth bwyd ym Mhenrhyn Gŵyr. Ychwanegwyd ymhellach
y disgwylir cyfleoedd hyfforddi gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â
chynwysoldeb ac adfer natur. Byddai
manylion yn cael eu dosbarthu ar ôl eu derbyn. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad. 2)
Darparu
cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gynhyrchu/amrywiaeth bwyd ym
Mhenrhyn Gŵyr. 3)
Aelodau'r
grŵp i ddarparu adroddiadau diweddaru i gyfarfodydd y dyfodol. 4)
Bydd
manylion y cyfleoedd hyfforddi yn cael eu dosbarthu unwaith y byddant wedi'u
derbyn gan Lywodraeth Cymru. |