Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Gyngor 2023-2024. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-Gadeirydd y Grŵp Ymgynghorol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-2024. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-gadeirydd ar
gyfer y Grŵp Cynghori ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-2024. |
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 fel cofnod
cywir. |
|||||||||||||||||
Adroddiad Tîm AHNE Gwyr. PDF 218 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Paul Meller, Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol, Mike Scott,
Swyddog AoHNE Gŵyr ac Ursula
Jones, Swyddog Prosiect Cymunedau a Natur y diweddaraf 'er gwybodaeth' am y
canlynol: - ·
Sioe
Gŵyr – byddai gan Bartneriaeth AoHNE Gŵyr
babell fawr fel arfer, gan gynnal nifer o bartneriaid. ·
Cais
am Ddyfarniad Cymuned Awyr Dywyll Gŵyr -
cyflwynwyd cais drafft am statws "Cymuned Awyr Dywyll" ym mis
Ionawr a disgwylir ymateb gan y Pwyllgor Awyr Dywyll Rhyngwladol. Roedd y cais
wedi'i gydnabod, ac roedd swyddog prosiect newydd ei benodi wedi bod mewn
cysylltiad. · Awyr Dywyll
Gŵyr – Prosiectau Ôl-osod – Roedd Tŷ Rhosili wedi'i arolygu ac mae'r
goleuadau wedi'u huwchraddio i fodloni gofynion defnydd yr adeilad, yn ogystal
â chadw at safonau awyr dywyll. Roedd y prosiect cydweithredol ledled Cymru yn
mynd rhagddo, ac mae’r ymgynghorwyr goleuadau, Ridge,
wedi cynnal arolwg o AoHNE Gŵyr. Byddai adroddiad gydag argymhellion ar gyfer
gwelliannau goleuo a chostau amcangyfrifedig yn cael
ei ddarparu yn y misoedd nesaf. ·
Twyni
Bae Porth Einon- roedd gwaith yn cael ei gynllunio ar gyfer mis Medi ac ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan y Cynghorau Cymuned. · Comin Fairwood – Cwblhawyd gwaith i osod cysylltiad dŵr
newydd yng Nghoed Moorlakes ym mis Mawrth 2023, gan ddarparu
dŵr yfed ar gyfer anifeiliaid sy'n pori ar y Comin. Roedd arolygon
pathewod yn cael eu cynnal i ganfod eu presenoldeb mewn cynefin addas ar y
Comin. · Castell Pennard
– Gosodwyd paneli dehongli yn 2022 a 2023. Roedd Cam 1 o'r gwaith tynnu iorwg
yn mynd rhagddo, roedd hadau planhigion prin wedi'u casglu a'u tyfu yn y Celtic
Wildflower Nurseries, ac
roedd cais am Gydsyniad Heneb Gofrestredig wedi'i gyflwyno. Roedd contractwr ar
waith i ymgymryd â gwaith ymchwilio fel y gellid llunio dogfen dendro ar gyfer
Cam 2 y gwaith (tynnu iorwg a rhywfaint o waith adfer) ar gyfer contractwyr
sy'n gwneud cynigion. · Mannau Addoli
Gŵyr – Cwblhawyd arolygon cychwynnol o ddeuddeg eglwys yn 2022. Roedd rhai
argymhellion wedi'u rhoi ar waith. Roedd
drysau tŵr newydd wedi'u gosod yn Oxwich a
Llanrhidian er mwyn caniatáu mynediad parhaus i ystlumod sy'n clwydo. Roedd
arolygon arbenigol ar gyfer ystlumod a blychau gwenoliaid yn cael eu cynnal ar
gyfer sawl eglwys. ·
Parc Gwledig
Cwm Clun - Yn dilyn ymweliad safle gyda'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol,
byddai gwaith sefydlogi'n dechrau'r hydref hwn ar y Tŵr Iorwg. Roedd
gwaith hefyd yn cael ei gynllunio ar brif adeiladau Gwaith Arsenig Coed Clun,
yn dilyn arolwg amgylcheddol. Roedd cais
cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer gosod arwyddion newydd yn Blackpill. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i wneud yr
adeiladau yn Fferm New Mill yn ddiogel. Gosodwyd dehongliad
bioamrywiaeth a llwybr natur yn 2022.
Roedd ail rownd o driniaeth Canclwm Japan wedi'i threfnu ar gyfer hydref
2023. Roedd y cyngor yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar arolwg o Afon
Clun i benderfynu pa fesurau adfer a lliniaru llifogydd y gellid eu rhoi ar
waith gyda chymorth PCDC. ·
Canclwm
Japan Parkmill – Roedd trydedd flwyddyn o driniaeth
wedi'i threfnu ar gyfer hydref 2023. Byddai arolwg yng ngwanwyn 2024 yn pennu a
oes angen am unrhyw driniaeth bellach. ·
Panel
y Gronfa Datblygu Cynaliadwy – Cadarnhawyd dyddiadau Panel Grant y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2023/24 (30 Mehefin, 22 Medi, 8 Rhagfyr a 15
Mawrth 2024). ·
Grŵp
Cynghori AoHNE – Cadarnhawyd dyddiadau'r Grŵp
Cynghori ar gyfer 2023/24 (26 Mehefin, 25 Medi a 26 Chwefror 2024). · Ailfrandio CGAoHNE – Roedd
Cymdeithas Genedlaethol yr AoHNE yn trafod ailfrandio sylweddol i fynd i’r afael â rhai o’r materion a
godwyd yn Adroddiad Marsden – yn bennaf ynghylch
cynhwysiant a gweithio gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gwell
cyfathrebu, darparu delwedd fwy unedig, ceisio cyflawni proffil lefel uwch a
mwy o gydnabyddiaeth o'u cyfraniad at agendâu adfer byd natur a newid yn yr
hinsawdd. ·
Staffio
Tîm AoHNE – Roedd swydd "Swyddog Natur a
Chymunedau AOHNE" yn cael ei hysbysebu, a fyddai'n darparu trydydd aelod o
staff o fewn tîm AOHNE, gan alluogi mwy o waith prosiect i gael ei wneud. Roedd
y gwaith o ailstrwythuro Adran yr Amgylchedd Naturiol yn parhau. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am yr adroddiad. |
|||||||||||||||||
Arwyddion Ffyrdd a Phentref. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Tynnodd Howard
Evans, Cymdeithas Gŵyr, sylw at nifer ac amrywiaeth yr arwyddion ffyrdd
ledled Gŵyr. Dosbarthodd nifer o
enghreifftiau o'r arwyddion i'r grŵp, a oedd yn pwysleisio diffyg cysondeb
cynnwys, gwahaniaethau mewn arddull/dyluniad ac mewn rhai achosion, eu
lleoliadau gwael a oedd yn effeithio ar welededd. Trafododd y
Grŵp yr opsiynau sydd ar gael i ddatblygu'r mater, gan gynnwys materion
priffyrdd/cynllunio, gorfodi. Cynigiwyd y dylid
rhoi cyfle i Briffyrdd ymateb i'r materion a godwyd. Penderfynwyd: - 1)
rhoi'r
cyfle i Briffyrdd ymateb i'r materion a godwyd. 2) Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf. |
|||||||||||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy - Crynodeb Ariannol. PDF 110 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol
cryno Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Nodwyd bod y gyllideb o £100,000 ar gyfer 2022/23 wedi'i gwario'n llawn a
bod cyfanswm o 19 prosiect wedi'u cefnogi. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.
Ychwanegwyd y byddai adroddiad manwl yn cael ei lunio dros yr haf a'i ddosbarthu
i'r Grŵp Llywio, gan dynnu sylw at y gwaith a wnaed gan y prosiectau a
gefnogwyd. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy o £100,000 ar gyfer 2023/24. Hyd yn hyn, roedd arian wedi'i neilltuo ar gyfer
14 o brosiectau, gyda 4 cais arall ar y gweill. Roedd ffigur y Cronfeydd Neilltuedig yn cynnwys ffi reoli DASA sef £10,000.
Cadarnhawyd y byddai cyfarfod nesaf Panel Grantiau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cael ei gynnal ar 30 Mehefin 2023. |