Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol cadeirydd ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2022 - 2023. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-gadeirydd ar
gyfer y Grŵp Cynghori am weddill blwyddyn ddinesig 2022-2023. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Barbara Parry yn Is-gadeirydd ar
gyfer y Grŵp Cynghori am weddill blwyddyn ddinesig 2022-2023. |
|||||||||
Datganiadau o fuddiannau. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. PDF 222 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi
cofnodion cyfarfod Grwp Cynghori AoHNE Gŵyr a
gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd Cylch
Gorchwyl Grŵp Cynghori AoHNE Gŵyr ‘er gwybodaeth’. |
|||||||||
Cronfa Datblygu Cynaliadwy - Penodi Paneli. PDF 217 KB Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
ethol y canlynol fel aelodau'r Panel Cronfa
Datblygu Cynaliadwy: - ·
Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd) ·
Y Cynghorydd Andrew Stevens ·
Y Cynghorydd Lynda James ·
Y Cynghorydd Sara Keeton ·
David Cole ·
John France ·
Cari Jones ·
Francis Morgan 2)
ethol
y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: - ·
Barbara
Parry (Cadeirydd) ·
Y
Cynghorydd David Hopkins ·
Y
Cynghorydd Paxton Hood-Williams ·
Hamish
Osborn ·
Peter
Lanfear ·
Clive
Scott ·
Anthony
Thomas ·
Judith
Doyle Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn gofyn am benodi aelodaeth i
Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) a’r Panel Apeliadau. Eglurwyd
bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol ar gyfer cynllun grant y CDC (£100,000
y flwyddyn ar hyn o bryd). Rheolir y
cynllun yn lleol gan Dîm AoHNE Gŵyr, gyda phanel grantiau a phanel
apeliadau i ystyried a chymeradwyo ceisiadau grant. Mae’r Panel CDC a Phanel Apeliadau'r CDC yn cael eu penodi gan Grŵp
Cynghori AoHNE Gŵyr, y mae gan bob un 8 aelod, fel y nodir yn y ddogfen
Cylch Gorchwyl. Nodwyd sylwadau Carrie Townsend
Jones mewn perthynas ag aelodaeth Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Eglurwyd bod Cynghorwyr yn cael eu penodi yng
Nghyfarfod Blynyddol y cyngor a bod yn rhaid i'r cyngor gytuno ar unrhyw
newidiadau i'w haelodaeth. Penderfynwyd: - 1)
ethol y canlynol fel aelodau'r Panel Cronfa
Datblygu Cynaliadwy: - ·
Y Cynghorydd Paul Lloyd (Cadeirydd) ·
Y Cynghorydd Andrew Stevens ·
Y Cynghorydd Lynda James ·
Y Cynghorydd Sara Keeton ·
David Cole ·
John France ·
Cari Jones ·
Francis Morgan 2)
ethol
y canlynol fel aelodau Panel Apeliadau'r Gronfa Datblygu Cynaliadwy: - ·
Barbara
Parry (Cadeirydd) ·
Y
Cynghorydd David Hopkins ·
Y
Cynghorydd Paxton Hood-Williams ·
Hamish
Osborn ·
Peter
Lanfear ·
Clive
Scott ·
Anthony
Thomas ·
Judith
Doyle |
|||||||||
Crynodeb Ariannol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 107 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Mike
Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr, adroddiad ariannol cryno Panel y Gronfa
Datblygu Cynaliadwy (CDC) 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllideb CDC ar gyfer 2022/23 sef
£100,000. Hyd yma, mae 11 o brosiectau wedi’u cefnogi, gyda £54,378 wedi'i
neilltuo. Roedd 8 cais arall ar waith,
yn gofyn am £45,622. Pe bai'r rhain yn cael eu cymeradwyo, byddai hyn yn neilltuo'r cyllid yn
llawn ar gyfer 2022/23. Ychwanegwyd bod ffigwr y cronfeydd neilltuedig yn cynnwys Ffi Rheoli DASA o
£10,000.
Byddai adroddiad manwl yn cael ei lunio ar ôl mis Ebrill a'i ddosbarthu i
aelodau'r Grŵp Cynghori, gan dynnu sylw at y gwaith a wnaed gan y
prosiectau a gefnogwyd. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gyllideb
o £100,000 ar gyfer 2023/24 Penodwyd Panel Grantiau CDC newydd a byddai’n cyfarfod ar 27 Chwefror 2023. |
|||||||||
Diweddariad ar Raglen Waith AHNE Gwyr. PDF 252 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Paul
Meller, Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith tîm
AoHNE Gŵyr ers cyfarfod diwethaf y Grŵp Llywio ym mis Mawrth
2022. Ychwanegwyd y byddai
adroddiadau diweddaru manylach yn dilyn maes o law wrth i waith prosiect fynd
rhagddo. Rhagwelwyd y byddai is-grwpiau
y Grŵp Cynghori yn cael eu sefydlu i weithio gyda Thîm AoHNE Gŵyr i
helpu i ddatblygu'r rhain a phrosiectau eraill/Camau Gweithredu Cynllun Rheoli
AoHNE fel y bo'n briodol. Roedd yr
adroddiad yn darparu manylion ynghylch y meysydd canlynol: - ·
Cylch
Gorchwyl newydd ar gyfer y Grŵp Cynghori AoHNE. ·
Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr. ·
Mapio Asesiad Sylfaen Cadernid Ecosystemau Lleol ar gyfer
Abertawe. ·
Asesiad Sylfaen ar Garbon ym Mhenrhyn Gŵyr (gweithio
tuag at gyflawni Sero Net) ·
Awyr Dywyll Gŵyr ·
Seminar Tirweddau Cymru yn Down to Earth, Cilybion, Gŵyr 9/10 Mawrth 2023. ·
Parc Gwledig Dyffryn Clun ·
Datblygiad glannau Porth Einon ·
Twyni Tywod Porth Einon - Asesiad Geomorffaidd
a Rheoli Opsiynau Arfarnu ·
Gwaith Archaeoleg a Henebion cofrestredig (amrywiol). ·
Gwaith prosiect arall sy’n parhau – Mannau Addoli
Gŵyr / Comin Fairwood / Cefn Bryn / Prosiect Waliau Sych Gŵyr. ·
Diweddariad am gyllid grant. Ychwanegodd Mike Scott, Swyddog AoHNE Gŵyr y byddai'r Grŵp
Cynghori yn cael diweddariadau rheolaidd rhwng cyfarfodydd. Gofynnodd y Grŵp Llywio i gyfarfodydd y dyfodol gychwyn am 6.30pm. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |