Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd Lyndon Jones gysylltiad personol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n
cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n
bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i
eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10
munud Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiah Diogelwch ar y Ffyrdd PDF 298 KB Gwahoddwyd: Cllr Andrew Stevens – Aleod y Cabinet
dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Stuart Davies – Pennaeth Priffyrdd a Chludiant Matthew Bowyer – Arweinydd Grŵp, Priffyrdd a Chludiant Alan Ferris – Rheolwr
Diogelwch Ffyrdd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y swyddogion perthnasol yn bresennol i roi trosolwg o'u hadroddiad
briffio ac i ateb cwestiynau gan aelodau'r grŵp. Trafodwyd y materion
canlynol: ·
Mae
Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi’i rwystro am yr ail flwyddyn yn
olynol oherwydd oediadau yn sgîl cyflwyno'r terfyn
cyflymder 20mya. Dyma'r brif gronfa a ddefnyddir i fynd i'r afael ag ardaloedd
lle ceir patrwm o wrthdrawiad ar y cyd â'r rhaglen addysg diogelwch ffyrdd. ·
Nod y
rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yw annog pobl i gerdded neu feicio, gyda
ffocws o amgylch ysgolion. ·
Cyhoeddwyd
canllawiau teithio llesol yn 2013 a'u nod yw cysylltu cymunedau. Bwriad penodol
y grant teithio llesol yw gwella cysylltedd rhwng cymunedau. ·
Mae
Llywodraeth Cymru'n bwriadu gostwng y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd
cyfyngedig sy’n cynnwys ffyrdd lle gosodir goleuadau stryd i 20mya o'r terfyn
30mya presennol, sy'n cael ei fapio ar hyn o bryd. Bydd eithriadau'n cael eu
hystyried fel yr eithriad yn hytrach na'r rheol a chânt eu cyflwyno i'r Cabinet
tua diwedd mis Rhagfyr cyn cael eu rhannu'n ehangach. Dyma dasg sy'n drom o ran
adnoddau. ·
Mae'r
dyraniad cyllideb gymunedol yn mynd i'r afael â materion ward unigol a materion
lleol. ·
Rheolir
priffyrdd mewn partneriaeth â'r heddlu a Gan Bwyll sy'n golygu nad oes gan y
cyngor y pŵer bob amser i weithredu ar bob cwyn a dderbynnir. |
|
Trafodaeth a Chasgliadau Gofynnwyd
i Gynghorwyr drafod casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr
y Cynullydd i Aelod y Cabinet neu, os yw'n briodol, adroddiad i'r Cabinet: a.
Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth
Aelod y Cabinet (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r
sesiwn hon)? b. Oes
gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r sesiwn hon? c.
Oes unrhyw faterion pellach yr hoffech dynnu
sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt sy'n codi o'r sesiwn hon? Cofnodion: Gofynnodd
aelodau'r Gweithgor nifer o gwestiynau yr ymatebodd swyddogion iddynt.
Trafodwyd y prif faterion canlynol: ·
Erbyn
hyn, croesfannau cyfrif yn ôl yw'r arddull safonol o groesfan a chânt eu
cyflwyno pan fydd angen adnewyddu croesfannau neu wrth i arian ddod ar gael. ·
Mae
twmpathau cyflymder yn ffordd effeithiol o gymedroli cyflymder gyrwyr. Nid
bwriad twmpathau cyflymder yw arafu cyflymder bysus a cherbydau ehangach ar
olwynion gan y bydd eu holwynion o boptu i’r twmpath. Gall hyn fod yn broblem
os yw cerbydau'n parcio ar ochr y ffordd gan ei fod yn gorfodi cerbydau
ehangach i fynd dros y twmpath. ·
Cafodd
cyfyngiadau cyflymder ar dir comin Gŵyr eu hadolygu'n helaeth yn 2018 ac
mewn mannau cafodd y terfyn cyflymder ei ostwng o'r terfyn cyflymder
cenedlaethol i 40mya. Mae ymwybyddiaeth o nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu
hanafu a'u lladd gan gerbydau sy'n goryrru, a’r Heddlu a Gan Bwyll sy’n
gyfrifol am orfodi’r cyfyngiadau sydd ar waith. ·
Mae
camerâu cyflymder yn effeithiol iawn o ran rheoli ymddygiad gyrwyr. Gan Bwyll
sy'n gyfrifol am weithrediad y camerâu a'r cyngor sy'n gyfrifol am y pyst a'r
marciau o amgylch safleoedd y camerâu. Mae Gan Bwyll yn cymryd rhan mewn
prosesau tendro i sicrhau bod camerâu newydd yn cyd-fynd â'u systemau
presennol. ·
Ymgynghorir
â grwpiau anabl ar bob gorchymyn rheoleiddio traffig. Y cyngor ddylai awdurdodi
rhwystrau i'r droedffordd, fel byrddau a chadeiriau. ·
Mae
llwybrau defnydd a rennir wedi'u cynllunio’n unol â'r canllawiau teithio llesol
ac maent yn dibynnu ar gydnabyddiaeth defnyddwyr i osgoi gwrthdrawiadau. Mae
hwn yn fater y mae'r cyngor yn ymwybodol ohono. ·
Mae
cynlluniau gwylio cyflymder cymunedol yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr; nid
yw gwybodaeth am y rhain yn cael ei chasglu'n ganolog felly mae eu llwyddiant
yn anodd ei nodi ac yn aml yn ddibynnol ar nifer y gwirfoddolwyr. ·
Mae
traffig o gwmpas ysgolion yn broblem hysbys; ym Mhontarddulais
mae prawf ar waith lle mae rhan o stryd ger ysgol yn cael ei chyfyngu ar
amserau ysgol. Gall hyn wthio cerbydau ymhellach allan ac mae hyn o bosib ond
yn symud y broblem parcio i rywle arall. ·
Rhoddwyd
4,197 o docynnau parcio’r llynedd rhwng 2.45pm a 3.45pm. Mae'r tîm priffyrdd yn
gallu cymryd adborth ar ardaloedd i'w targedu ar yr adeg hon. ·
Gellir
adrodd am fysus ysgol sy'n parcio am gyfnodau hir sy'n achosi niwsans i
breswylwyr a bwydo'n ôl i'r cwmnïau bysus. ·
Mae
cydbwysedd i reoli risg ganfyddedig yn erbyn risg go
iawn. Ymchwilir i bob pryder. ·
Gall
ychwanegu mesurau arafu cyflymder fel twmpathau cyflymder gael effaith andwyol
ar gynnal a chadw ffyrdd. Mae gwaith atgyweirio ffyrdd yn cael ei wneud yn ôl
blaenoriaeth atgyweirio. ·
Mae
parhau i edrych ar lwybrau cerdded diogel i ysgolion yn rhaglen barhaus ochr yn
ochr â hyfforddiant Kerbcraft a beicio mewn ysgolion.
Bydd llwybrau teithio llesol hefyd yn cefnogi hyn. Bydd Kerbcraft
yn hyfforddi tua 1,200 o ddisgyblion eleni. ·
Mae'r
adrannau priffyrdd a chynllunio’n gweithio ar ganllaw dylunio strydoedd sy'n
canolbwyntio mwy ar ddatblygiad lle na datblygiad strydoedd a'r briffordd. Yna, trafodwyd cynnydd gan Aelodau'r
Gweithgor a daethpwyd i'r casgliadau canlynol a gwnaethpwyd yr argymhellion
canlynol: 1. Nid
oedd yr aelodau’n hapus fod Grantiau Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi’u
rhwystro oherwydd y cynllun gostwng cyflymder o 20mya. 2. Creu rhaglen waith ar annog cerdded i'r ysgol, gellid ychwanegu hyn at gynlluniau
cyfredol fel Kerbcraft. 3. Mae angen i ragor o wybodaeth, arwyddion ac arweiniad fod ar gael er mwyn
osgoi ymddygiad gwael ar lwybrau a rennir. 4.
Ystyried
dylunio rhaglen addysg fel Kerbcraft a allai gael ei lanlwytho i Hwb er mwyn i blant edrych arni gyda rhieni a
gwarcheidwaid gartref. 5.
Cynhelir
hyfforddiant beicio mewn ysgolion a byddai gan aelodau ddiddordeb mewn gwybod
pa mor aml y cynhelir hyn ac mewn faint o ysgolion. 6.
Gofyn i Benaethiaid annog eu staff ysgol eu
hunain i beidio â pharcio ar ffyrdd ger ysgolion. 7. Gwella
prosesau ymgynghori ag aelodau ward ar ddiogelwch ffyrdd gan ganolbwyntio'n
benodol ar ysgolion. Weithiau nid yw aelodau ward yn ymwybodol o ymgynghoriadau
sy'n cael eu cynnal. Ymgysylltu mwy â Chynghorwyr pan fydd ymgynghoriadau'n
digwydd yn eu wardiau fel y gallant helpu i'w
cyfathrebu i'w haelodau ward. 8. A
all yr Aelod Cabinet sy'n aelod o Bartneriaeth Gan Bwyll apelio at y
bartneriaeth i fod yn fwy rhagweithiol yn ardal tiroedd comin Gŵyr. 9. Cynyddu'r
arwyddion a'r baneri y tu allan i ysgolion fel rhwystr i atgoffa gyrwyr i yrru
a pharcio'n ddiogel o amgylch ysgolion. Yn dilyn y cyfarfod hwn: Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y
gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau
ac argymhellion y gweithgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.23pm. |
|