Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cofnodion Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Panel Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Adroddiad TERFYNOL PDF 659 KB (a) Trafod y sylwadau
a dderbyniwyd ar ôl i'r adroddiad
gael ei ddosbarthu
i'r holl gyfranwyr (b) Cytuno ar adroddiad ac argymhellion i'w cyflwyno i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ac yna i'r Cabinet. Cofnodion: Dosbarthodd y Panel eu hadroddiad terfynol
drafft i'r Cabinet, ac i'r holl bobl
a gyfrannodd at yr ymchwiliad er mwyn iddynt wneud sylwadau
arno. Ymatebodd y bobl/sefydliadau canlynol ac roeddent yn bresennol yn
y cyfarfod i fynegi eu barn/rhoi adborth:
Aelod y Cabinet dros Les, Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau. YMCA Heddlu De Cymru Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol Gwasanaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd Trafodwyd yr
holl safbwyntiau a roddwyd gan y Panel ac fe'u hystyriwyd cyn gwneud diwygiadau
terfynol. Cytunodd y Panel ar eu hadroddiad
terfynol ac i’w gyflwyno i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ar 14 Tachwedd 2023 ac yna i’r Cabinet ar 21 Rhagfyr 2023. Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am |