Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

56.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

57.

Cofnodion pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023.

58.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

59.

Ymchwiliad Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Adroddiad Canfyddiadau pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel yr adroddiad gan ddangos yr holl dystiolaeth a gasglwyd drwy gydol eu hymchwiliad gan gynnwys gan swyddogion/adrannau y cyngor, sefydliadau partner, pobl ifanc, busnesau lleol a fforymau cydraddoldeb. Prif ffocws y cyfarfod hwn oedd amlygu rhai o'r materion allweddol y byddai'r Panel yn hoffi eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol i'r Cabinet.

 

Trafododd y Panel gwestiynau allweddol yr ymchwiliad a thrafodon nhw bob un o'r llinellau ymchwiliad a nodwyd yn y cylch gorchwyl ar ddechrau'r darn o waith.

 

Bydd y materion a amlygwyd bellach yn cael eu nodi a dangosir tystiolaeth ohonynt mewn adroddiad i'r Cabinet.  Caiff drafft o'r adroddiad hwn ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Panel yn gynnar ym mis Medi.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.37am

 

 

Cadeirydd