Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

50.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

51.

Cofnodion pdf eicon PDF 203 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gan y Panel.

52.

Cofnodion

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

53.

Cyfarfod Bord Gron gyda Fforymau/Grwpiau Cydraddoldeb yn Abertawe pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Panel gynrychiolwyr o fforymau cydraddoldeb i'r cyfarfod i drafod y cwestiynau canlynol:

 

1.     Sut ydych chi'n teimlo am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe? (canfyddiadau)

2.     Ydych yn credu yr ymdrinnir ag ef yn briodol ac yn effeithiol yn Abertawe?

3.     Ydych chi'n meddwl bod y cyngor a'i bartneriaid yn cydweithio'n effeithiol i atal a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

4.     Sut hoffech chi weld Cyngor Abertawe a'i bartneriaid yn gwella sut mae'n atal ac yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe?

 

Diolchodd y Panel i'r bobl hynny a oedd yn bresennol yn y cyfarfod a hefyd y rheini a gymerodd amser i anfon cyflwyniad ysgrifenedig.

 

Bydd y dystiolaeth o’r cyfarfod hwn yn rhan o adroddiad canfyddiadau’r ymchwiliad, a fydd yn cael ei drafod gan y Panel ar 29 Mehefin 2023.

54.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun prosiect gan y bwrdd.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am

 

 

Cadeirydd