Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Nodwyd cofnodion y cyfarfod anffurfiol a gynhaliwyd ar 9 Mai 2023. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cyfarfod Bord Gron gyda'r Gymuned Fusnes Leol a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe PDF 198 KB Cofnodion: Gwahoddodd y Panel
gynrychiolwyr o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a chynrychiolwyr
busnesau lleol i’r cyfarfod i drafod y cwestiynau canlynol: 1.
Sut
ydych chi'n teimlo am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe? (eich
canfyddiadau chi) 2.
Ydych
yn credu yr ymdrinnir ag ef yn briodol ac yn effeithiol yn Abertawe? 3.
Ydych
chi'n meddwl bod y cyngor a'i bartneriaid yn cydweithio'n effeithiol i atal a
mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? 4.
Sut
hoffech chi weld Cyngor Abertawe a'i bartneriaid yn gwella sut mae'n atal ac yn
mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe? Diolchodd y Panel
i'r bobl hynny a oedd yn bresennol yn y cyfarfod a hefyd y rheini a gymerodd
amser i anfon cyflwyniad ysgrifenedig. Bydd y dystiolaeth o’r cyfarfod hwn yn rhan o adroddiad canfyddiadau’r ymchwiliad, a fydd yn cael ei drafod gan y Panel ar 29 Mehefin 2023. |
|
Cofnodion: Nodwyd y cynllun
prosiect diweddaraf. Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 am |