Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion gan y panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Jon Tumelty o Gymdeithas Tai Pobl a Serena Jones a Sarah Davies o Gymdeithas
Tai Coastal am fod yn bresennol yng nghyfarfod y
Panel ac am drafod y gyfres o gwestiynau a anfonwyd atynt cyn y cyfarfod, gan
gynnwys: a) Beth yw rôl ac amcanion allweddol eich sefydliad mewn perthynas â mynd i'r
afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i leihau? b) Beth yw'r heriau allweddol sy'n eich wynebu a sut ydych chi'n mynd i'r
afael â'r rhain (beth arall y gellid ei wneud i'ch helpu chi fel sefydliad i
fynd i'r afael â nhw ... yn enwedig o safbwynt y cyngor neu bartneriaeth)? c) Ydych chi’n adrodd yn ôl i
ddioddefwyr/unigolion sy'n adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol am yr hyn sy’n
cael ei wneud i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, naill ai o ran y
digwyddiad penodol y buont yn rhan ohono neu y rhoddwyd gwybod amdano, neu’n
fwy cyffredinol? Ydych chi'n defnyddio'r adborth hwn i lywio a gwella'ch
gwasanaethau? d) Ydy eich sefydliad yn bodloni ei rwymedigaethau rheoleiddiol
mewn perthynas â’r gwasanaethau a gynrychiolir heddiw? Os na, pam hynny a beth
y gellir ei wneud i'ch helpu i wneud hyn o safbwynt cyngor neu bartneriaeth? e) Pa mor dda ydych chi'n teimlo y mae’r cyngor a'i
bartneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn
Abertawe a'i leihau o safbwynt eich sefydliad a'ch partneriaeth? Sut y gellid
ei wella ymhellach? f) Sut mae eich sefydliad yn gweithio gyda'r cyngor a
phartneriaid eraill i fynd i'r afael ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Strategaethau, offer, ymyriadau a gwaith sy'n digwydd mewn cymunedau, rhowch enghraifft ddefnyddiol i roi
cyd-destun. Sut y gellid ei wella ymhellach? Rydym yn edrych
ar faint y mater ar draws Abertawe a byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech
roi rhywfaint o ddata i ni, os yw hynny’n bosib, i’n helpu gyda hyn, yn bennaf:
ar gyfer y blynyddoedd 2019, 2020, 2021, 2022: ·
Sawl adroddiad o ymddygiad
gwrthgymdeithasol y maent wedi'i dderbyn gan denantiaid? ·
Faint o achosion y maent
wedi'u symud ymlaen drwy eu prosesau? ·
Sawl hysbysiad troi allan
a roddwyd ganddynt? ·
Faint o denantiaid sydd
wedi gadael eu heiddo mewn gwirionedd? Bydd y nodiadau llawn a gymerwyd o'r drafodaeth hon yn llunio rhan o Adroddiad Canfyddiadau'r Ymchwiliad. Bydd yr Adroddiad Canfyddiadau'n cael ei gyflwyno i'r Panel eto ar ddiwedd cam casglu tystiolaeth yr ymchwiliad. Yna caiff tystiolaeth heddiw ei hystyried ynghyd â'r holl dystiolaeth arall a gasglwyd pan fydd y Panel yn cwrdd i drafod a llunio casgliadau ac argymhellion yr ymchwiliad i'r Cabinet. |
|
Cofnodion: Nodwyd Cynllun y
Prosiect/y Flaenraglen Waith. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |