Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny Officer 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Ymddiheuriadau am absenoldeb pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Sam Skyrme-Blackhall i'r Grŵp Cynghorwyr.

28.

Datganiad o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant.

29.

Cofnodion a Llythyr(au) yn deillio o'r cyfarfod diwethaf 19 /06/2023 pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cofnodion a’r llythyr a oedd yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023.

 

30.

Edrych ar Berfformiad Blaenoriaeth 2 Partneriaeth - Ymgorffori egwyddorion a phrosesau sy'n sail i degwch addysgol ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. pdf eicon PDF 151 KB

Y Cyfarwyddwr Arweiniol, y Swyddog Arweiniol a'r Ymgynghorwyr Strategol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn rhan o'i raglen waith, cytunodd y Grŵp Cynghorwyr i edrych ar berfformiad un flaenoriaeth wahanol o blith pedair blaenoriaeth Partneriaeth ym mhob cyfarfod. Felly, croesawodd y Grŵp Cynghorwyr Ian Altman, Dylan Williams, Cressy Morgan ac Andrew Owen (Pennaeth Ysgol Uwchradd Gellifedw) i'r cyfarfod. Aethant ati i roi cyflwyniad ac i amlinellu'r cynnydd mewn perthynas â Blaenoriaeth 2 Cynllun Busnes Partneriaeth ar gyfer 2023-2024.

 

Roedd yr adroddiad a'r drafodaeth yn ystyried y canlynol:

 

Ymgorffori egwyddorion a phrosesau sy'n sail i degwch addysgol ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. Ein nod yw sicrhau nad yw amgylchiadau personol neu gymdeithasol yn rhwystr i gyflawni potensial addysgol, a bod pob ysgol a lleoliad yn anelu'n uchel ar gyfer pob dysgwr. Gwneir hyn trwy: 

 

I.          Barhau i gefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol i ddeall y modd i liniaru effaith tlodi ar ymgysylltiad, cyflawniad a chyrhaeddiad.

II.         Parhau i gefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol i ddeall y modd i liniaru effaith trawma ar ymgysylltiad, cyflawniad a chyrhaeddiad.

III.        Gweithio gyda phartneriaid allweddol i ymgorffori dulliau cyffredinol seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo iechyd a llesiant cadarnhaol.

 

Amlinellodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gellifedw rywfaint o'r gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud mewn perthynas â lliniaru effeithiau tlodi ar ddisgyblion yn yr ysgol.  Dywedodd fod effaith hyn ar yr ysgol wedi bod yn ddramatig. Bod yr ysgol bob amser wedi bod yn gynhwysol ond bod y gwaith diogelu rhag tlodi wedi ei helpu i ystyried hyn mewn ffordd fymryn yn wahanol, a hynny trwy edrych ar yr heriau y mae rhai disgyblion yn eu hwynebu bob dydd. Roedd o'r farn bod yr Archwiliad Diogelu Rhag Tlodi a gynhaliwyd y llynedd wedi bod yn brofiad buddiol a chadarnhaol i'r ysgol.  Amlinellodd rywfaint o'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo oddi ar yr archwiliad mewn perthynas â diogelu rhag tlodi, er enghraifft, athrawon yn dod yn fwy ymwybodol o lawer o lesiant disgyblion, a sicrhau bod y wisg ysgol yn llawer llai rhagnodol ac felly'n fwy economaidd i'w phrynu.

 

Roedd y gwaith a oedd yn mynd rhagddo yn yr ysgol wedi creu argraff ar y Grŵp Cynghorwyr, a diolchwyd i'r Pennaeth am ei fewnbwn gwerthfawr i'r cyfarfod.

 

 

 

31.

Amlinelliad o gyfarfod Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023, ac unrhyw adborth pdf eicon PDF 107 KB

Y Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth

 

Cofnodion:

Rhoddodd Helen Morgan Rees ddiweddariad i'r Grŵp Cynghorwyr ar ganlyniadau Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023.  Nodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Penderfynodd y Cyd-bwyllgor ddiwygio ei ddewis o aelod â phleidlais ar Gyd-bwyllgor Partneriaeth. Bydd hyn yn darparu hyblygrwydd ar gyfer y tri awdurdod lleol ac yn rhoi'r dewis iddynt enwebu eu haelod o'r Cabinet sydd â'r portffolio addysg, yn lle eu Harweinydd, fel eu haelod â phleidlais. Bydd yn rhaid i bob Awdurdod Lleol gytuno i hyn.

·         Daeth y llythyr o gyfarfod diwethaf y Grŵp Cynghorwyr i law'r Pwyllgor.

·         Edrychodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ariannol, gan gynnwys cyfraniadau gan bob awdurdod lleol, cytundebau lefel gwasanaeth, trefniadau monitro'r gyllideb, incwm grant ac unrhyw risgiau cysylltiedig.

·         Ystyriwyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol lle bu i adolygiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol roi dyfarniad sicrwydd cymedrol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheoli risg, a rheolaeth ariannol sydd ar waith. Roedd pob agwedd a godwyd wedi cael ei rhoi ar waith, yn cynnwys gwella a chryfhau'r cynllun busnes.

·         Daeth Rhaglen Waith Archwilio Mewnol Partneriaeth ar gyfer 2023-24 i law'r Cyd-bwyllgor i'w chymeradwyo. Roedd y Rhaglen Waith wedi cael ei pharatoi'n unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

·         Daeth adroddiad i law'r Cyd-bwyllgor yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth a pherfformiad cynllun busnes blwyddyn ariannol 2023-24. Caiff y cynllun busnes ei fonitro bob chwarter, a nodwyd bod bron pob cam gweithredu ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni'n llawn erbyn mis Mawrth 2024.

·         Daeth adroddiad i law'r Cyd-bwyllgor yn cynnwys ymateb i arolwg barn rhanddeiliaid Partneriaeth oddi ar dymor yr haf 2023. Mynegodd y Cyd-bwyllgor siom ynghylch nifer isel y Penaethiaid a lenwodd yr arolwg. Mewn ymateb, dywedwyd wrth y pwyllgor fod hyn yn ganlyniad i nifer o resymau, yn cynnwys y camau gweithredu heb fod yn bell o streicio. Cafodd hyn effaith negyddol ar y gyfradd lenwi, a phenderfynwyd estyn yr arolwg yn achos grwpiau penodol.

32.

Y Proffil Risgiau Diweddaraf pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Ian Altman wrth y Grŵp Cynghorwyr mai dim ond ychydig bach y mae'r adroddiad a ddarparwyd wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r cynllun busnes newydd a'i flaenoriaethau.

 

33.

Diweddariad ar Cwricwlwm i Gymru pdf eicon PDF 115 KB

Y Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Altman adroddiad i'r Grŵp Cynghorwyr yn rhoi trosolwg o'r cymorth cyfredol ar gyfer ysgolion mewn perthynas â Cwricwlwm i Gymru. Clywsant fod pob lleoliad cynradd a hanner y lleoliadau uwchradd wedi mabwysiadu Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, a bod pob ysgol arall wedi ei fabwysiadu ym mis Medi 2023. Roedd yr adroddiad yn cwmpasu gofynion y cwricwlwm, heriau o ran cynnydd ac asesu, gweithio mewn clwstwr, a'r ysgolion sy'n cael y cymorth mwyaf. Cafodd y pwyntiau canlynol eu codi a'u trafod:

·         Yr angen i fynd â phob athro ar y daith gyda ni

·         Yr heriau o ddiwallu anghenion clystyrau unigol o ysgolion

·         Gweithio ar y cyd â chlystyrau

·         Meithrin ymwybyddiaeth llywodraethwyr ysgolion o'r gwasanaethau a ddarperir gan Partneriaeth.

34.

Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth br/a fyddai'n deillio o'r cyfarfod hwn

Cofnodion:

Cytunodd y Grŵp Cynghorwyr i ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor yn dilyn cyfarfod heddiw.

 

35.

Rhaglen Waith Craffu Partneriaeth 2023-2024 pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Rhaglen Waith Craffu.