Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Ymddiheuriadau am absenoldeb pdf eicon PDF 188 KB

Cofnodion:

None

19.

Datganiad o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant.

20.

Cofnodion a Llythyr(au) yn deillio o'r cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cofnodion a’r llythyr a oedd yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023.

21.

Outline of Partneriaeth Joint Committee Agenda held on 23 June 2023 pdf eicon PDF 46 KB

Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Arweiniol, Helen Morgan-Rees, yr eitemau ar agenda Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Byddai Cyd-bwyllgor Partneriaeth yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn. Byddai'r canlynol yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf:

Y llythyr gan Gadeirydd Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar 13 Chwefror 2023.

Cyllideb ddrafft Partneriaeth ar gyfer 2023-24 a chynllun ariannol tymor canolig drafft ar gyfer 2023-24 i 2026-27

Perfformiad partneriaeth 2022-23

Cynllun Strategol/Cynllun Busnes Partneriaeth 2023-24; a

Chofrestr Risg Partneriaeth

22.

Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a Chyfarwyddwyr o bob Cyngor pdf eicon PDF 347 KB

Mae'r Cytundeb Cyfreithiol yn nodi y dylai Cyfarwyddwyr Addysg pob un o'r

Cynghorau fynychu gyda'i gilydd unwaith y flwyddyn, ac y dylai Cadeirydd y Cyd bwyllgor fynychu o leiaf unwaith y flwyddyn, a hynny i'r diben o geisio sicrwydd ac i ystyried a yw Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol a'i

Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol.

Gwneir hyn fel a ganlyn:

1. Cadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth i roi barn ar y modd y mae pethau'n

mynd rhagddynt yn ei farn ef, ac yna i drafod a darparu sicrwydd bod

Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes,

a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol.

2. Cyfarwyddwr o bob awdurdod lleol i roi barn ar y modd y mae pethau’n

mynd rhagddynt o ran ei Gyngor ef a beth yw’r heriau allweddol i'r Cyngor,

ynghyd â cheisio sicrwydd gan bob Cyngor ei fod yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â’r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei

amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol.

Cofnodion:

Roedd Cytundeb Cyfreithiol Partneriaeth yn pennu y dylai Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a’r tri Chyfarwyddwr Addysg fod yn bresennol yng Ngrŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth o leiaf unwaith y flwyddyn. 

 

Rhoddodd y Panel groeso i'r Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth, i’r cyfarfod. Roedd y Cynghorydd Price hefyd yn siarad ar ran Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin, yn ei absenoldeb. Diolchwyd hefyd i Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg Abertawe, a Steven Richard-Downes, Cyfarwyddwr Addysg Sir Benfro, am fod yn bresennol.

 

Cadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth

 

Yn y lle cyntaf, rhoddodd y Panel wahoddiad i'r Cynghorydd Price roi barn ar y modd y mae'n gweld pethau’n dod yn eu blaen, ac i drafod a rhoi sicrwydd i’r Grŵp Cynghorwyr fod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â’r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol. Dywedodd y Cynghorydd Price y canlynol:

 

         Cyn datblygu Partneriaeth, bu’r partneriaethau rhanbarthol yn rhai cymhleth ac anghyson. Yn y gorffennol, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gydweithio ar draws awdurdodau lleol, a arweiniodd at fodel rhanbarthol. Er hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan y byddai'r haen ganol o wasanaethau cymorth ar gyfer addysg yn cael ei hadolygu’n genedlaethol cyn bo hir ac y byddai Partneriaeth yn rhan o hynny.

         Datblygwyd y Cynllun Busnes a'r chwe blaenoriaeth cyfredol ar y cyd, ac felly roeddent yn seiliedig ar amcanion lleol.

         Byddai'r Cynllun Busnes newydd yn cael ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor ar 23 Mehefin, a byddai gan hwn bedair blaenoriaeth allweddol a fyddai hefyd yn seiliedig ar amcanion lleol.

         Roedd y Gofrestr Risg yn cael ei hadrodd i'r Cyd-bwyllgor a'r Grŵp Cynghorwyr Craffu ar ffurf eitem sefydlog.

         Roedd y Cynghorydd Price felly'n hyderus bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a'i fod yn cyflawni'n unol â'i amserlen. Ond byddai yna bob amser le i wella a hoffai weld y canlynol yn cael eu datblygu:

­         Mesur effaith Partneriaeth, a fyddai'n dangos allbwn a gwerth am arian yn eglur.

­         Bod ysgolion yn cael y cyfle i fynegi eu barn ar ei effeithiolrwydd. Hynny wedyn i gael ei ddefnyddio wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Y Cyfarwyddwyr Addysg

Gofynnwyd i bob Cyfarwyddwr roi ei farn ar y modd yr oedd pethau'n mynd o ran ei Gyngor a pha heriau y mae'n eu hwynebu, a gofynnwyd am sicrwydd gan bob Cyngor ei fod yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â’r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol.

 

Helen Morgan-Rees (Cyfarwyddwr Addysg Abertawe)

Roedd yr heriau o safbwynt Abertawe yn cynnwys y canlynol:

         Y modd i wneud y defnydd gorau o'r cyllid a ddeuai i mewn, gan gynnwys rhannu adnoddau fel nad oedd yna unrhyw danwariant.

         Gwerthuso perfformiad fel bod yr effaith a'r allbwn yn cael eu nodi.

         Dwyn pawb ynghyd.

         Llythrennedd a rhifedd: yr angen i ystyried pecyn cynhwysfawr cynhwysol i wella’r sgiliau hyn.

         Cael barn cwsmeriaid a defnyddio hynny i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd o'r farn bod y Cynllun Busnes newydd yn gliriach; bod iddo lai o flaenoriaethau ond bod y rheiny'n rhai priodol, ac y byddai'n cydblethu’n dda â gwaith yr awdurdodau lleol. Roedd yn hapus o weld Partneriaeth yn datblygu ac yn gwrando ar farn pob rhanddeiliad. O safbwynt Abertawe, roedd Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol, ei Gynllun Busnes a'i amserlen.

 

Steven Richard-Downes (Cyfarwyddwr Addysg Sir Benfro)

Roedd Sir Benfro yn wynebu llawer o heriau tebyg i Abertawe, ond soniodd hefyd am y canlynol:

         Bod yr ystod o gymorth a gynigid yn ddefnyddiol ond bod angen mireinio’r arlwy hwnnw ymhellach.

         Bod datblygiad pellach mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd yn faes allweddol.

         Bod 'annibyniaeth disgyblion a gwerthuso eu gwaith eu hunain' wedi bod yn thema mewn arolygiadau diweddar gan Estyn, ac felly ei bod yn ofynnol i ni blethu hynny i'r Cynllun Busnes.

         Bod yn rhaid gwneud yn siŵr bod cyllid yn cael ei ddefnyddio'n dda ac er lles gorau ysgolion. Roedd yn ofynnol datrys unrhyw faterion o ran dyblygu adnoddau.

         Bod y Cwricwlwm newydd yn her barhaus.

         Yr holl amrywiaeth o fentrau a oedd ar gael a'r ymdrech ddi-baid ar gyfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mentrau hynny. Roedd yn rhaid i hyn gael ystyriaeth ofalus neu byddem yn parhau i gael problemau llwyth gwaith.  Roedd yn ofynnol ystyried y modd yr oeddem yn rheoli’r hyn a ddeuai dros y gorwel o du Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn, cyfnod a oedd eisoes wedi gweld newid enfawr, fel na fyddai ysgolion yn cael eu gorlwytho.

         Ei bod yn ofynnol mesur effeithiolrwydd ac effaith Partneriaeth yn uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth.

Cytunai fod y Cyd-gytundeb yn gweithio'n dda a bod Partneriaeth yn gwneud y pethau iawn ar gyfer ysgolion.

 

Roedd y Grŵp Cynghorwyr yn falch o glywed bod gan bawb ddarlun cadarnhaol o Partneriaeth ar y pryd, ond gan hefyd gydnabod bod llawer o heriau'n dal i fodoli i Partneriaeth a phob un o'r tri awdurdod lleol. O'r drafodaeth hon, roedd y Cynghorwyr yn teimlo'n dawel eu meddwl fod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol.

23.

Y Proffil Risgiau Diweddaraf pdf eicon PDF 45 KB

Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Arweiniol, Helen Morgan-Rees, yr eitemau ar agenda Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Byddai Cyd-bwyllgor Partneriaeth yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn. Byddai'r canlynol yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf:

Y llythyr gan Gadeirydd Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar 13 Chwefror 2023.

Cyllideb ddrafft Partneriaeth ar gyfer 2023-24 a chynllun ariannol tymor canolig drafft ar gyfer 2023-24 i 2026-27

Perfformiad partneriaeth 2022-23

Cynllun Strategol/Cynllun Busnes Partneriaeth 2023-24; a

Chofrestr Risg Partneriaeth

24.

Edrych ar Berfformiad Blaenoriaeth 2 Partneriaeth – Datblygu proffesiwn
addysg o safon uchel – gwella'r addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion pdf eicon PDF 86 KB

Y Cyfarwyddwr Arweiniol, y Swyddog Arweiniol a'r Ymgynghorwyr Strategol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn rhan o'i raglen waith, cytunodd y Grŵp Cynghorwyr i edrych ar berfformiad un flaenoriaeth wahanol o blith chwe blaenoriaeth wreiddiol Partneriaeth ym mhob cyfarfod. O ganlyniad, rhoddodd y Grŵp Cynghorwyr groeso i Gwennan Schiavone, Ymgynghorydd Strategol Partneriaeth, i'r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnydd o ran Blaenoriaeth 2: Datblygu darpariaeth addysg o safon uchel – gwella'r addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion.

 

Ymdriniwyd â’r pwyntiau canlynol yn y drafodaeth:

·       Dysgu proffesiynol, ymholi ac ymchwil i wireddu’r cwricwlwm a bod dan arweiniad yr ysgol.

·       Dysgu proffesiynol ar gyfer datblygu ymarfer a myfyrdod.

·       Y grant llythrennedd a rhifedd/Cynllun Llafaredd Cynradd i Gymru.

·       Cymorth rhanbarthol ar gyfer ieithoedd modern/i feithrin gallu yn y sector cynradd.

·       Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol/sgiliau codio a digidol.

·       Y Gymraeg mewn Addysg.

·       Gwelliant ôl-16.

 

Mynegodd y Grŵp Cynghorwyr y pwyntiau a ganlyn:

·       Hanfod y Prosiectau Ymholiad Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP). Clywodd y Cynghorwyr mai ysgolion yn gwneud eu darn eu hunain o ymchwil, gan weithio gyda'r Prifysgolion a Partneriaeth, oedd y prosiectau hyn.  Roedd canlyniad y rhain hefyd yn cael ei rannu ar Hwb fel y gellid sicrhau budd ehangach. Gofynnodd y Grŵp Cynghorwyr am gael gweld rhai o’r rhain, a byddent yn cael eu cynnwys yn rhaglen waith y Grŵp Cynghorwyr o fis Chwefror 2024 ymlaen.

 

 

 

 

25.

Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth

I'w chytuno gan y Grŵp Cynghorwyr Craffu

Cofnodion:

Cytunodd Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar ei gynllun gwaith ar gyfer y 12 mis canlynol, ynghyd â’r diwygiadau i’w gysoni â blaenoriaethau Cynllun Busnes newydd Partneriaeth, a chytunodd i brosiect ymchwil ac ymholi NPEP gael ei gynnwys ym mhob cyfarfod.

26.

Rhaglen Waith Craffu Partneriaeth 2023-2024 pdf eicon PDF 108 KB

I'w chytuno gan y Grŵp Cynghorwyr Craffu

Cofnodion:

26             Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth a fyddai'n deillio o'r cyfarfod hwn

 

Cytunodd y Grŵp Cynghorwyr Craffu i gynnwys eu barn ar yr eitemau a drafodwyd yn y cyfarfod hwn mewn llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 am