Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb PDF 91 KB Cofnodion: None |
|
Datganiad o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion a Llythyr(au) yn deillio o'r cyfarfod diwethaf PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion a’r llythyr a oedd yn codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2024. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd grŵp y cynghorwyr fel rhan o'u rhaglen waith i
edrych ar berfformiad un o bedair blaenoriaeth gwahanol Partneriaeth ym mhob
cyfarfod. Felly croesawodd grŵp y
cynghorwyr Rob Phillips, sef Ymgynghorydd Strategol Partneriaeth a Matthew
Stonham o Ysgol Gynradd Tycroes i’r cyfarfod.
Amlinellwyd y cynnydd a wnaed ganddynt o ran blaenoriaeth pedwar:
Darparu llwybrau gyrfa ar gyfer arweinwyr, ymarferwyr a staff cymorth ar bob
lefel o’r system. Trafodwyd y meysydd
canlynol: • Llwybrau Dysgu
Cynorthwywyr Addysgu • Athrawon
Newydd Gymhwyso (ANGau) • Rhaglen
Datblygu Arweinwyr Canol • Rhaglen
Datblygu Uwch-arweinwyr • Rhaglen
Datblygu Darpar Arweinwyr Cododd grŵp y cynghorwyr y pwyntiau a ganlyn: • Gwnaethant
ddiolch i Rob Phillips a Matthew Stonham am eu diweddariad ysbrydoledig ar y
flaenoriaeth hon. • A oes llwybr i
gynorthwywyr addysgu ddod yn athrawon cymwysedig? Eglurwyd nad oes modd iddynt astudio’r cwrs
TAR heb radd. Sut ydym yn gallu denu’r
rhai sy'n dyheu am fod yn athrawon y dyfodol? Clywodd y panel nad yw’r sefyllfa ariannol y mae awdurdodau
lleol, ysgolion a phawb arall yn ei hwynebu ar hyn o bryd yn argoeli’n dda ar
gyfer hyn ar hyn o bryd. Mae cymwysterau cynorthwywyr addysgu lefel uwch yn
cyfrif fel achrediad tuag at radd, ond cytunwyd y byddai'n dda denu mwy o'r
rhai sydd awydd bod yn athrawon. • Cytunodd y
grŵp ei bod yn rhaglen ragorol a gofynnodd a oedd yr hyfforddiant yn
digwydd yn ystod y diwrnod ysgol, neu’n ychwanegol iddo, ac a oes problem o ran
cyflenwi athrawon pan fydd athro yn dymuno cael yr hyfforddiant? Dywedwyd wrthynt fod yr hyfforddiant yn digwydd yn bennaf yn
ystod y diwrnod ysgol. O ran cyflenwi athrawon, clywsant y gallai fod yn
broblem yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac mae hyn yn wir ar gyfer cyflenwi
cynorthwywyr addysgu hefyd. Gall hefyd fod yn fater sy’n creu gwrthdaro ar
adegau. Gall hyd yn oed y rhai sydd ar y rhaglen darpar benaethiaid benderfynu
drostynt eu hunain i ymuno â’r rhaglen, ond efallai nid yw’r ysgol yn cytuno,
neu mae pethau'n codi yn yr ysgol, ac oherwydd hyn, nid oes modd iddynt ymuno
â’r rhaglen. Mae'r sesiynau'n cael eu recordio fel eu bod ar gael i wylio ar
unrhyw adeg, ond nid yw hyn gystal â bod yn bresennol ar y pryd/diwrnod. • A oes unrhyw
dystiolaeth o bobl sydd mewn sefyllfa lle nad ydynt yn gallu gwneud cynnydd yn
eu gyrfa oherwydd nad ydynt wedi gallu cael lle ar y cyrsiau hyn oherwydd nad
oes athrawon cyflenwi, ac ati? Dywedwyd wrth y grŵp na fu unrhyw ymchwil penodol sydd wedi gallu nodi unrhyw dueddiadau o’r fath. Clywir am achosion unigol lle mae pobl wedi dweud bod cymaint yn digwydd yn yr ysgol fel nad oes modd iddynt ymgymryd â’r rhaglen honno ar yr adeg benodol hon. Weithiau maent yn ymuno â'r rhaglen yn ddiweddarach. |
|
Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a Chyfarwyddwyr o bob un o'r Cynghorau PDF 118 KB The Legal agreement states that Directors of Education of
each of the Councils shall all attend together and that the Chair of Joint
Committee shall attend, at least once per annum. With purpose of seeking reassurance and to consider if
the Partneriaeth is operating according to the Legal Agreement, its Business
Plan and that its timetable is being managed effectively. This will done as follows: 1.
Chair of the Partneriaeth Joint Committee to give a
view on how he believes things are going and then to discuss and provide
reassurance that Partneriaeth is operating according to the Legal Agreement,
its Business Plan and that its timetable is being managed effectively. 2. Director from each local authority to give views on how it is going for their Council, what they are finding the key challenges and to seek reassurance from each council that they believe Partneriaeth is operating according to the Legal Agreement, its Business Plan and that its timetable is being managed effectively. Cofnodion: Mae'r
cytundeb cyfreithiol yn nodi y dylai’r holl gyfarwyddwyr addysg o bob un o'r
cynghorau fod yn bresennol gyda'i gilydd a dylai cadeirydd y cyd-bwyllgor fod
yn bresennol, o leiaf unwaith y flwyddyn. Er mwyn ceisio sicrwydd ac
ystyried a yw Partneriaeth yn gweithredu yn unol â'r cytundeb cyfreithiol, ei
chynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n effeithiol gwnaed y
canlynol: 1. Rhoddodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Partneriaeth ei farn ar sut mae pethau’n mynd yn eu blaen. Croesawodd grŵp y
cynghorwyr Glynog Davies. Yna, amlinellodd ei farn fel a
ganlyn: · Mae angen arweinyddiaeth gref
ar draws y rhanbarth ac rydym yn gwerthfawrogi'r rhaglen hon a hyrwyddo'r
gwaith hwn. Byddwn yn annog pob ymarferwr i ymwneud ag un o'r rhaglenni hyn. · Mae’n bwysig sylweddoli bod
Partneriaeth yn dal yn gymharol newydd ac ar daith. · Rwy’n hapus ac yn hyderus bod
yr hyn sy’n digwydd yn cyd-fynd â’r cynllun busnes a’r cytundeb cyfreithiol a’i
fod yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng y tri chyngor. Gofynnodd grŵp y cynghorwyr: · A ydym yn mynd ag athrawon
gyda ni ar y daith hon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?
Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn gwricwlwm diddorol iawn, ond yn y
gorffennol rhoddwyd cynllun i athrawon ei ddilyn. Mae mor wahanol yn awr, ond
rwy’n cael adroddiadau rhagorol.
Dywedodd Gareth Morgans (Sir Benfro) ei fod yn cael adborth rheolaidd
oherwydd y berthynas waith agos rhwng ei swyddogion a swyddogion Partneriaeth.
Mae hyn wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chanlyniad hyn yw bod y
ddarpariaeth yn llawer mwy pwrpasol ac yn llawer mwy perthnasol i ysgolion
unigol.
Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Arweiniol). Mae hefyd yn bwysig
cydnabod bod Partneriaeth yn addasu i ofynion ac anghenion lleol.
Ian Altman (Swyddog Arweiniol). Bu symudiad yn awr o gymorth lefel
uchel i ddull mwy pwrpasol i ddiwallu anghenion ysgolion unigol ac mae hefyd yn
ymwneud â’r math o gymorth sydd ar gael i athrawon a’r math a’r lefel gywir
ohono. · Beth yw’r prif wahaniaeth
rhwng sut mae Partneriaeth yn gweithredu nawr a sut yr oedd y bartneriaeth
flaenorol yn gweithredu? Clywodd y grŵp fel a ganlyn:
Mae’n broses llawer mwy cydweithredol.
Mae maint y sefydliad bellach yn llawer llai sy'n ei wneud yn llawer haws
i'w reoli.
Mae'r sefydliad yn gwrando ar randdeiliaid ac, yn bwysig, yn ymateb yn
bwrpasol.
Mae’n addasu ac yn newid i ddiwallu’r
angen lleol.
Ceir sgyrsiau anffurfiol a ffurfiol gyda’r cyfarwyddwyr bob mis.
Mae’n agored, yn dryloyw ac yn barod i ymateb.
Glynir at y cytundeb cyfreithiol a’r cynllun busnes.
Mae ein hathrawon a’n harweinwyr wedi gwir werthfawrogi canolbwyntio ar ddilyniant
sgiliau disgyblion ac mae cael yr arbenigedd hwnnw o fewn Partneriaeth, hy
canolbwyntio’n benodol ar lythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth, ac ati, wedi magu
hyder gwirioneddol ar draws y system ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n
fawr. Wrth gwrs, mae addysgu da yn cefnogi cwricwlwm da ac mae’r rhaglen
‘addysgu â phwrpas’ wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran dychwelyd i’r pethau
sylfaenol gan wneud yn siŵr bod addysgeg dda yn arwain at gynnydd da gan
ddisgyblion. Mae'r rhaglen wedi bod o gymorth mawr i ymarferwyr fyfyrio ar eu
hymarfer ac i adeiladu arno. Mae’r gefnogaeth i ysgolion uwchradd wedi’i
hatgyfnerthu ymhellach ac wedi’i theilwra ymhellach ac mae’n fwy pwrpasol fyth.
2. Gofynnwyd i gyfarwyddwyr unigol pob
awdurdod lleol roi eu barn ar sut mae pethau yn mynd eu blaen o ran eu cyngor hwythau,
beth yw’r heriau allweddol y maent yn eu hwynebu, a gofynnwyd am sicrwydd gan
bob cyngor eu bod yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu yn unol â’r cytundeb
cyfreithiol, ei gynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n
effeithiol. Gareth Morgan – Cyfarwyddwr Addysg Sir
Gaerfyrddin · Mae ystod eang o gyrsiau'n
cael eu cyflwyno. Mae’r heriau’n ymwneud â chyllid rhai ysgolion neu’r gallu i
gael staff cyflenwi er mwyn rhyddhau ymarferwyr fel bod modd iddynt fynychu’r
digwyddiadau. · Cafwyd digwyddiad ymarfer ar y
cyd ac mae un arall wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. · Cafwyd trafodaethau rheolaidd
â chyfarwyddwyr. · Gall Partneriaeth fod o fudd a
gall helpu awdurdodau lleol unigol i gyflawni eu hamcanion. · Ymchwil – gwaith da yn y maes
hwn i gefnogi ein dysgwyr, mae’n bwysig rhannu’r arfer da hwnnw. · Mae darpariaeth leol yn cael
ei thrafod; rydym i gyd yn gweithio'n agos gyda'n gilydd. · Rwy’n gadarnhaol ynglŷn â
ble mae’r arian yn cael ei wario a’i fod yn dryloyw. Helen Morgan Rees, Cyfarwyddwr Addysg
Abertawe · Ategaf yr hyn y mae Gareth
wedi’i ddweud a byddwn yn amlinellu rhai meysydd cyffredinol i’w gwella
Ni ddylai’r adran Adnoddau Dynol ddefnyddio brand Partneriaeth yn ddiangen
Llai o theori i alluogi athrawon i wneud pethau ymarferol yn yr ystafell
ddosbarth sydd o ddefnydd ac o werth i athrawon.
Rhaid i’r gwaith o ddatblygu arweinwyr y dyfodol o ansawdd uchel barhau fel
elfen hanfodol ar gyfer cefnogi ein hysgolion yn y dyfodol.
Mae Swyddogion Gwella Ysgolion yn yr awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn
allweddol o ran gallu gwella cymorth ar gyfer addysgu a dysgu yn ein hysgolion. |
|
Y Proffil Risg Diweddaraf PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Ian
Altman drosolwg i grŵp y cynghorwyr o broffil risg cyffredinol y rhanbarth
o ran cyflawni ei nodau a blaenoriaethau yn haf 2024. Bydd yn cael ei
ddiweddaru o ystyried swyddogaethau newydd Partneriaeth o fis Medi 2024. Mae'r
map gwres yn nodi'r risgiau canlynol fel rhai sy'n sgorio “tebygolrwydd
canolig” ac “effaith uchel” · Diffyg eglurder ynglŷn â
swyddogaethau Partneriaeth · Canfuwyd nad yw Partneriaeth yn cynnig
gwerth am arian Seiliwyd y
proffil risg ar gynllun busnes 2023/2024. Bydd y risg yn cael ei ailysgrifennu
yn unol â’n cyflawniad busnes, ond mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r
argymhellion o archwiliad y llynedd a hefyd y ffaith bod holl gyllid
Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gan
gynnwys unrhyw amrywiadau disgwyliedig. Felly, mae hynny’n golygu bod y risg
ariannol o ran cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn brydlon wedi’i leihau. Bydd yn edrych
rhywfaint yn wahanol wrth symud ymlaen, oherwydd bydd ein cyllid ar ffurf grant
awdurdod lleol oddi wrth ein hawdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni, yn
hytrach na chael grant rhanbarthol. Felly, mae'r risg yn dangos bod
tebygolrwydd canolig ac effaith uchel o'r diffyg eglurder hwnnw ynglŷn â
swyddogaethau Partneriaeth eto. Mae'n bwysig iawn felly ein bod yn glir
ynghylch ein cyflawniad craidd, yn enwedig yng ngoleuni'r ailstrwythuro, yn
ogystal â bod ein negeseuon yn cyd-fynd â negeseuon ein cydweithwyr yn yr
awdurdod lleol. Soniodd grŵp
y cynghorwyr: · mae'r ailstrwythuro yn creu ansicrwydd i'r
staff sy'n cyflwyno'r hyfforddiant, ac felly mae hynny'n risg oherwydd mae’n
ddigon posibl y gallai rhai o'r staff hynny adael i gael cyflogaeth fwy
sefydlog. Dywedodd y Cyfarwyddwr Arweiniol eu bod yn lliniaru'r risg hon drwy fod yn
agored iawn gyda'r staff ynghylch y newid hwn a'r amserlen. Mae'r holl
staff bellach yn gwybod ble y byddant ym mis Medi. Bydd gostyngiad o 30%
yn y tîm erbyn hynny. |
|
Diweddariad ar Cwricwlwm i Gymru PDF 63 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae’r adroddiad a
ddarparwyd gan Swyddog Arweiniol Partneriaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
am y cymorth a’r ddarpariaeth ranbarthol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru yn ystod
2023-2024 yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu ysgolion o ran cynnydd ac asesu.
Amlinellodd: · Cefnogaeth cwricwlwm · Heriau o ran cynnydd ac asesu |
|
Rhaglen Waith Craffu Partneriaeth 2023-2024 Cofnodion: Cytunodd grŵp y cynghorwyr i gynnwys eu barn ar yr agenda heddiw mewn llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth. |
|
Cofnodion: Nodwyd y cynllun
gwaith craffu. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.15am. |
|