Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb PDF 92 KB Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Sam Skyrme-Blackhall i'r Grŵp Cynghorwyr. |
|
Datganiad o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion a Llythyr(au) yn deillio o'r cyfarfod diwethaf 19 /06/2023 PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y
cofnodion a’r llythyr a oedd yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref
2023. |
|
Y Cyfarwyddwr Arweiniol, y Swyddog Arweiniol a'r Ymgynghorwyr Strategol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn rhan o'i raglen waith, cytunodd y Grŵp Cynghorwyr i
edrych ar berfformiad un flaenoriaeth wahanol o blith pedair blaenoriaeth
Partneriaeth ym mhob cyfarfod. Felly, croesawodd y Grŵp Cynghorwyr Ian
Altman, Dylan Williams, Cressy Morgan ac Andrew Owen (Pennaeth Ysgol Uwchradd
Gellifedw) i'r cyfarfod. Aethant ati i roi cyflwyniad ac i amlinellu'r cynnydd
mewn perthynas â Blaenoriaeth 2 Cynllun Busnes Partneriaeth ar gyfer 2023-2024.
Roedd yr adroddiad a'r drafodaeth yn ystyried y canlynol: Ymgorffori egwyddorion a phrosesau sy'n sail i degwch
addysgol ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. Ein nod yw sicrhau nad yw
amgylchiadau personol neu gymdeithasol yn rhwystr i gyflawni potensial
addysgol, a bod pob ysgol a lleoliad yn anelu'n uchel ar gyfer pob dysgwr.
Gwneir hyn trwy: I. Barhau i
gefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol i ddeall y modd i liniaru effaith tlodi
ar ymgysylltiad, cyflawniad a chyrhaeddiad. II. Parhau i
gefnogi ysgolion a lleoliadau addysgol i ddeall y modd i liniaru effaith trawma
ar ymgysylltiad, cyflawniad a chyrhaeddiad. III. Gweithio
gyda phartneriaid allweddol i ymgorffori dulliau cyffredinol seiliedig ar
dystiolaeth i hyrwyddo iechyd a llesiant cadarnhaol. Amlinellodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gellifedw rywfaint o'r
gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud mewn perthynas â lliniaru effeithiau tlodi ar
ddisgyblion yn yr ysgol. Dywedodd fod
effaith hyn ar yr ysgol wedi bod yn ddramatig. Bod yr ysgol bob amser wedi bod
yn gynhwysol ond bod y gwaith diogelu rhag tlodi wedi ei helpu i ystyried hyn
mewn ffordd fymryn yn wahanol, a hynny trwy edrych ar yr heriau y mae rhai
disgyblion yn eu hwynebu bob dydd. Roedd o'r farn bod yr Archwiliad Diogelu
Rhag Tlodi a gynhaliwyd y llynedd wedi bod yn brofiad buddiol a chadarnhaol i'r
ysgol. Amlinellodd rywfaint o'r gwaith
sydd wedi bod yn mynd rhagddo oddi ar yr archwiliad mewn perthynas â diogelu
rhag tlodi, er enghraifft, athrawon yn dod yn fwy ymwybodol o lawer o lesiant
disgyblion, a sicrhau bod y wisg ysgol yn llawer llai rhagnodol ac felly'n fwy
economaidd i'w phrynu. Roedd y gwaith a oedd yn mynd rhagddo yn yr ysgol wedi creu argraff ar y Grŵp Cynghorwyr, a diolchwyd i'r Pennaeth am ei fewnbwn gwerthfawr i'r cyfarfod. |
|
Y Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog
Arweiniol Partneriaeth Cofnodion: Rhoddodd Helen
Morgan Rees ddiweddariad i'r Grŵp Cynghorwyr ar ganlyniadau Cyd-bwyllgor
Partneriaeth a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2023.
Nodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Penderfynodd y Cyd-bwyllgor ddiwygio ei ddewis o aelod â
phleidlais ar Gyd-bwyllgor Partneriaeth. Bydd hyn yn darparu hyblygrwydd ar
gyfer y tri awdurdod lleol ac yn rhoi'r dewis iddynt enwebu eu haelod o'r
Cabinet sydd â'r portffolio addysg, yn lle eu Harweinydd, fel eu haelod â
phleidlais. Bydd yn rhaid i bob Awdurdod Lleol gytuno i hyn. ·
Daeth y llythyr o gyfarfod diwethaf y Grŵp
Cynghorwyr i law'r Pwyllgor. ·
Edrychodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ariannol, gan
gynnwys cyfraniadau gan bob awdurdod lleol, cytundebau lefel gwasanaeth,
trefniadau monitro'r gyllideb, incwm grant ac unrhyw risgiau cysylltiedig. ·
Ystyriwyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol lle bu i
adolygiad y gwasanaeth Archwilio Mewnol roi dyfarniad sicrwydd cymedrol
ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rheolaeth
fewnol, rheoli risg, a rheolaeth ariannol sydd ar waith. Roedd pob agwedd a
godwyd wedi cael ei rhoi ar waith, yn cynnwys gwella a chryfhau'r cynllun
busnes. ·
Daeth Rhaglen Waith Archwilio Mewnol Partneriaeth ar
gyfer 2023-24 i law'r Cyd-bwyllgor i'w chymeradwyo. Roedd y Rhaglen Waith wedi
cael ei pharatoi'n unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
·
Daeth adroddiad i law'r Cyd-bwyllgor yn darparu
gwybodaeth am ddarpariaeth a pherfformiad cynllun busnes blwyddyn ariannol
2023-24. Caiff y cynllun busnes ei fonitro bob chwarter, a nodwyd bod bron pob
cam gweithredu ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni'n llawn erbyn mis Mawrth
2024. · Daeth adroddiad i law'r Cyd-bwyllgor yn cynnwys ymateb i arolwg barn rhanddeiliaid Partneriaeth oddi ar dymor yr haf 2023. Mynegodd y Cyd-bwyllgor siom ynghylch nifer isel y Penaethiaid a lenwodd yr arolwg. Mewn ymateb, dywedwyd wrth y pwyllgor fod hyn yn ganlyniad i nifer o resymau, yn cynnwys y camau gweithredu heb fod yn bell o streicio. Cafodd hyn effaith negyddol ar y gyfradd lenwi, a phenderfynwyd estyn yr arolwg yn achos grwpiau penodol. |
|
Y Proffil Risgiau Diweddaraf PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Ian
Altman wrth y Grŵp Cynghorwyr mai dim ond ychydig bach y mae'r adroddiad a
ddarparwyd wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r cynllun busnes newydd a'i
flaenoriaethau. |
|
Diweddariad ar Cwricwlwm i Gymru PDF 115 KB Y Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Ian
Altman adroddiad i'r Grŵp Cynghorwyr yn rhoi trosolwg o'r cymorth cyfredol
ar gyfer ysgolion mewn perthynas â Cwricwlwm i Gymru. Clywsant fod pob lleoliad
cynradd a hanner y lleoliadau uwchradd wedi mabwysiadu Cwricwlwm i Gymru ym mis
Medi 2022, a bod pob ysgol arall wedi ei fabwysiadu ym mis Medi 2023. Roedd yr
adroddiad yn cwmpasu gofynion y cwricwlwm, heriau o ran cynnydd ac asesu,
gweithio mewn clwstwr, a'r ysgolion sy'n cael y cymorth mwyaf. Cafodd y
pwyntiau canlynol eu codi a'u trafod: ·
Yr
angen i fynd â phob athro ar y daith gyda ni ·
Yr
heriau o ddiwallu anghenion clystyrau unigol o ysgolion ·
Gweithio
ar y cyd â chlystyrau · Meithrin ymwybyddiaeth llywodraethwyr ysgolion o'r gwasanaethau a ddarperir gan Partneriaeth. |
|
Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth br/a fyddai'n deillio o'r cyfarfod hwn Cofnodion: Cytunodd y
Grŵp Cynghorwyr i ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor yn dilyn
cyfarfod heddiw. |
|
Rhaglen Waith Craffu Partneriaeth 2023-2024 PDF 111 KB Cofnodion: Nodwyd y Rhaglen Waith Craffu. |