Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb PDF 188 KB Cofnodion: None |
|
Datganiad o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion a Llythyr(au) yn deillio o'r cyfarfod diwethaf PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion a’r llythyr a oedd yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023. |
|
Outline of Partneriaeth Joint Committee Agenda held on 23 June 2023 PDF 46 KB Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth Cofnodion: Amlinellodd y Cyfarwyddwr
Arweiniol, Helen Morgan-Rees, yr
eitemau ar agenda Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd
ar 23 Mehefin 2023. Nodwyd y pwyntiau canlynol: Byddai Cyd-bwyllgor Partneriaeth yn cwrdd deirgwaith
y flwyddyn. Byddai'r canlynol yn cael
eu trafod yn y cyfarfod nesaf: Y llythyr gan
Gadeirydd Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar 13 Chwefror 2023. Cyllideb ddrafft
Partneriaeth ar gyfer
2023-24 a chynllun ariannol
tymor canolig drafft ar gyfer
2023-24 i 2026-27 Perfformiad partneriaeth
2022-23 Cynllun Strategol/Cynllun Busnes Partneriaeth
2023-24; a Chofrestr Risg Partneriaeth |
|
Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a Chyfarwyddwyr o bob Cyngor PDF 347 KB Mae'r Cytundeb Cyfreithiol yn nodi y dylai Cyfarwyddwyr Addysg pob un o'r
Cynghorau fynychu gyda'i gilydd unwaith
y flwyddyn, ac y dylai Cadeirydd y Cyd bwyllgor fynychu o leiaf unwaith y flwyddyn, a hynny i'r diben o geisio
sicrwydd ac i ystyried a yw Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol
a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn
cael ei rheoli
mewn modd effeithiol. Gwneir hyn fel a ganlyn: 1. Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Partneriaeth i roi barn ar
y modd y mae pethau'n mynd rhagddynt yn ei farn
ef, ac yna i drafod a darparu sicrwydd bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb
Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn
cael ei rheoli
mewn modd effeithiol. 2. Cyfarwyddwr o bob awdurdod lleol i roi barn ar y modd y mae
pethau’n mynd rhagddynt o ran ei Gyngor ef
a beth yw’r heriau allweddol i'r Cyngor, ynghyd â cheisio sicrwydd gan bob Cyngor ei fod
yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â’r Cytundeb
Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol. Cofnodion: Roedd Cytundeb
Cyfreithiol Partneriaeth yn
pennu y dylai Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a’r tri Chyfarwyddwr Addysg fod yn
bresennol yng Ngrŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth o leiaf unwaith y flwyddyn. Rhoddodd y Panel groeso i'r Cynghorydd
Darren Price, Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Partneriaeth, i’r cyfarfod.
Roedd y Cynghorydd Price hefyd yn siarad
ar ran Gareth Morgans, Cyfarwyddwr
Addysg Sir Gaerfyrddin, yn ei absenoldeb.
Diolchwyd hefyd i Helen
Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg
Abertawe, a Steven Richard-Downes, Cyfarwyddwr Addysg Sir Benfro, am fod yn bresennol. Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Partneriaeth Yn y lle cyntaf,
rhoddodd y Panel wahoddiad i'r Cynghorydd Price roi barn ar y modd
y mae'n gweld pethau’n dod yn
eu blaen, ac i drafod a rhoi sicrwydd
i’r Grŵp Cynghorwyr fod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â’r Cytundeb
Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn
cael ei rheoli
mewn modd effeithiol. Dywedodd y Cynghorydd Price y canlynol: • Cyn datblygu Partneriaeth, bu’r partneriaethau rhanbarthol yn rhai cymhleth
ac anghyson. Yn y gorffennol,
roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gydweithio
ar draws awdurdodau lleol, a arweiniodd at fodel rhanbarthol. Er hynny, roedd Llywodraeth
Cymru wedi datgan y byddai'r haen ganol
o wasanaethau cymorth ar gyfer addysg
yn cael ei
hadolygu’n genedlaethol cyn bo hir ac y byddai Partneriaeth yn rhan o hynny. • Datblygwyd y Cynllun Busnes a'r chwe
blaenoriaeth cyfredol ar y cyd, ac felly roeddent yn seiliedig
ar amcanion lleol. • Byddai'r Cynllun Busnes newydd yn
cael ei gymeradwyo
gan y Cyd-bwyllgor ar 23 Mehefin, a byddai gan hwn
bedair blaenoriaeth allweddol a fyddai hefyd yn seiliedig
ar amcanion lleol. • Roedd y Gofrestr Risg yn cael
ei hadrodd i'r Cyd-bwyllgor a'r Grŵp Cynghorwyr
Craffu ar ffurf eitem sefydlog. • Roedd y Cynghorydd Price felly'n hyderus bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb
Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a'i fod yn
cyflawni'n unol â'i amserlen. Ond
byddai yna bob amser le i wella a hoffai weld y canlynol yn cael eu
datblygu: Mesur effaith Partneriaeth, a fyddai'n dangos allbwn a gwerth am arian yn eglur. Bod ysgolion yn cael
y cyfle i fynegi eu barn ar ei
effeithiolrwydd. Hynny wedyn i gael ei
ddefnyddio wrth gynllunio ar gyfer
y dyfodol. Y Cyfarwyddwyr Addysg Gofynnwyd i bob Cyfarwyddwr roi ei farn ar
y modd yr oedd pethau'n mynd
o ran ei Gyngor a pha heriau y mae'n
eu hwynebu, a gofynnwyd am sicrwydd gan bob Cyngor ei fod yn
credu bod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â’r Cytundeb Cyfreithiol
a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael
ei rheoli mewn modd effeithiol. Helen Morgan-Rees (Cyfarwyddwr Addysg Abertawe) Roedd yr
heriau o safbwynt Abertawe yn cynnwys y canlynol:
• Y modd i wneud y defnydd gorau o'r
cyllid a ddeuai i mewn, gan gynnwys
rhannu adnoddau fel nad oedd
yna unrhyw danwariant. • Gwerthuso perfformiad fel bod yr effaith
a'r allbwn yn cael eu
nodi. • Dwyn pawb ynghyd. • Llythrennedd a rhifedd: yr angen i ystyried
pecyn cynhwysfawr cynhwysol i wella’r sgiliau hyn. • Cael barn cwsmeriaid a defnyddio hynny i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Roedd o'r
farn bod y Cynllun Busnes newydd yn
gliriach; bod iddo lai o flaenoriaethau ond bod y rheiny'n rhai priodol, ac y byddai'n cydblethu’n dda â gwaith yr
awdurdodau lleol. Roedd yn hapus o weld
Partneriaeth yn datblygu ac
yn gwrando ar farn pob
rhanddeiliad. O safbwynt
Abertawe, roedd Partneriaeth yn
gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol,
ei Gynllun Busnes a'i amserlen. Steven Richard-Downes (Cyfarwyddwr
Addysg Sir Benfro) Roedd Sir Benfro
yn wynebu llawer o heriau tebyg i Abertawe, ond soniodd hefyd am y canlynol: • Bod yr ystod o gymorth
a gynigid yn ddefnyddiol ond bod angen mireinio’r arlwy hwnnw ymhellach. • Bod datblygiad pellach mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd yn faes allweddol. • Bod 'annibyniaeth disgyblion a gwerthuso eu gwaith
eu hunain' wedi bod yn thema
mewn arolygiadau diweddar gan Estyn, ac felly ei bod yn ofynnol
i ni blethu hynny i'r Cynllun
Busnes. • Bod yn rhaid gwneud
yn siŵr bod cyllid yn cael
ei ddefnyddio'n dda ac er lles gorau ysgolion. Roedd yn ofynnol
datrys unrhyw faterion o ran dyblygu adnoddau. • Bod y Cwricwlwm newydd yn her barhaus. • Yr holl amrywiaeth
o fentrau a oedd ar gael a'r
ymdrech ddi-baid ar gyfer Llywodraeth
Cymru mewn perthynas â'r mentrau hynny.
Roedd yn rhaid i hyn gael
ystyriaeth ofalus neu byddem yn parhau
i gael problemau llwyth gwaith. Roedd yn ofynnol ystyried
y modd yr oeddem yn rheoli’r
hyn a ddeuai dros y gorwel o du Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn, cyfnod a oedd
eisoes wedi gweld newid enfawr,
fel na fyddai
ysgolion yn cael eu gorlwytho. • Ei bod yn ofynnol mesur
effeithiolrwydd ac effaith
Partneriaeth yn uniongyrchol
yn yr ystafell
ddosbarth. Cytunai fod
y Cyd-gytundeb yn gweithio'n dda a bod Partneriaeth
yn gwneud y pethau iawn ar
gyfer ysgolion. Roedd y Grŵp Cynghorwyr yn falch o glywed bod gan bawb ddarlun cadarnhaol o Partneriaeth ar y pryd, ond gan hefyd gydnabod bod llawer o heriau'n dal i fodoli i Partneriaeth a phob un o'r tri awdurdod lleol. O'r drafodaeth hon, roedd y Cynghorwyr yn teimlo'n dawel eu meddwl fod Partneriaeth yn gweithredu'n unol â'r Cytundeb Cyfreithiol a'i Gynllun Busnes, a bod ei amserlen yn cael ei rheoli mewn modd effeithiol. |
|
Y Proffil Risgiau Diweddaraf PDF 45 KB Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd y Cyfarwyddwr
Arweiniol, Helen Morgan-Rees, yr
eitemau ar agenda Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd
ar 23 Mehefin 2023. Nodwyd y pwyntiau canlynol: Byddai Cyd-bwyllgor Partneriaeth yn cwrdd deirgwaith
y flwyddyn. Byddai'r canlynol yn cael
eu trafod yn y cyfarfod nesaf: Y llythyr gan
Gadeirydd Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar 13 Chwefror 2023. Cyllideb ddrafft
Partneriaeth ar gyfer
2023-24 a chynllun ariannol
tymor canolig drafft ar gyfer
2023-24 i 2026-27 Perfformiad partneriaeth
2022-23 Cynllun Strategol/Cynllun Busnes Partneriaeth
2023-24; a Chofrestr Risg Partneriaeth |
|
Y Cyfarwyddwr Arweiniol, y Swyddog Arweiniol a'r Ymgynghorwyr Strategol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn rhan o'i raglen
waith, cytunodd y Grŵp Cynghorwyr i edrych ar berfformiad un flaenoriaeth
wahanol o blith chwe blaenoriaeth wreiddiol Partneriaeth ym mhob cyfarfod. O
ganlyniad, rhoddodd y Grŵp Cynghorwyr groeso i Gwennan Schiavone,
Ymgynghorydd Strategol Partneriaeth, i'r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad a oedd
yn amlinellu’r cynnydd o ran Blaenoriaeth 2: Datblygu darpariaeth addysg o
safon uchel – gwella'r addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion. Ymdriniwyd â’r
pwyntiau canlynol yn y drafodaeth: ·
Dysgu
proffesiynol, ymholi ac ymchwil i wireddu’r cwricwlwm a bod dan arweiniad yr
ysgol. ·
Dysgu
proffesiynol ar gyfer datblygu ymarfer a myfyrdod. ·
Y
grant llythrennedd a rhifedd/Cynllun Llafaredd Cynradd i Gymru. ·
Cymorth
rhanbarthol ar gyfer ieithoedd modern/i feithrin gallu yn y sector cynradd. ·
Y
Fframwaith Cymhwysedd Digidol/sgiliau codio a digidol. ·
Y
Gymraeg mewn Addysg. ·
Gwelliant
ôl-16. Mynegodd y
Grŵp Cynghorwyr y pwyntiau a ganlyn: ·
Hanfod
y Prosiectau Ymholiad Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP). Clywodd y Cynghorwyr
mai ysgolion yn gwneud eu darn eu hunain o ymchwil, gan weithio gyda'r
Prifysgolion a Partneriaeth, oedd y prosiectau hyn. Roedd canlyniad y rhain hefyd yn cael ei
rannu ar Hwb fel y gellid sicrhau budd ehangach. Gofynnodd y Grŵp
Cynghorwyr am gael gweld rhai o’r rhain, a byddent yn cael eu cynnwys yn
rhaglen waith y Grŵp Cynghorwyr o fis Chwefror 2024 ymlaen. |
|
Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth I'w chytuno gan y Grŵp Cynghorwyr Craffu Cofnodion: Cytunodd Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar ei gynllun gwaith ar gyfer y 12 mis canlynol, ynghyd â’r diwygiadau i’w gysoni â blaenoriaethau Cynllun Busnes newydd Partneriaeth, a chytunodd i brosiect ymchwil ac ymholi NPEP gael ei gynnwys ym mhob cyfarfod. |
|
Rhaglen Waith Craffu Partneriaeth 2023-2024 PDF 108 KB I'w chytuno gan y Grŵp Cynghorwyr Craffu Cofnodion: 26
Trafod y pwyntiau ar
gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth a fyddai'n deillio o'r
cyfarfod hwn Cytunodd y
Grŵp Cynghorwyr Craffu i gynnwys eu barn ar yr eitemau a drafodwyd yn y
cyfarfod hwn mewn llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.00
am |