Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny Officer 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Y Cyng. Carys Jones (Cadeirydd Pwyllgor Craffu ar Addysg a Phlant Sir Gaerfyrddin)

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant.

11.

Cofnodion a Llythyrau o'r cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cofnodion a’r llythyr a oedd yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2022.

12.

Amlinelliad o Gyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2023 ac unrhyw Adborth pdf eicon PDF 46 KB

Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Altman ddiweddariad i'r Grŵp Cynghorwyr ar ganlyniadau cyfarfod Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2023. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·       Penodwyd Martin Nicholls, Prif Weithredwr yn Abertawe yn Brif Weithredwr Arweiniol ar gyfer Partneriaeth.

·       Penodwyd Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg yn Abertawe yn Gyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Partneriaeth.

·       Roedd y Cynghorydd Lyndon Jones yn bresennol yn rôl Cadeirydd y Grŵp Cynghorwyr Craffu a siaradodd am lythyr y Grŵp Cynghorwyr a oedd yn deilio o’r cyfarfod ar 24 Hydref 2022.

·        Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad ariannol Partneriaeth ar gyfer 2022-23. Roedd hwn yn rhoi diweddariad ar sefyllfa ariannol Partneriaeth ddiwedd mis Rhagfyr 2022, a nodwyd ei fod yn rhoi gwybodaeth am gytundebau lefel gwasanaeth â’r awdurdodau lleol. Cafodd yr adroddiad ariannol ei nodi, a chymeradwywyd y gyllideb ddiwygiedig a'r incwm a dyraniad grant ar gyfer 2022-23.

·       Darparwyd trosolwg o raglen waith yr archwiliad mewnol ar gyfer 2022-23, a rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i'r amcanion, y cwmpas, y dull gweithredu a'r trefniadau adrodd. Nodwyd y cynnydd a wnaed. Byddai rhagor o waith yn cael ei gyflawni rhwng misoedd Mawrth a Mai 2023 ac, yn dilyn hynny, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor yn ystod tymor yr haf.

·       Darparwyd trosolwg a oedd yn cyflwyno'r cynnydd o ran y cynllun busnes, y broses o'i gyflawni, a meysydd i’w datblygu o hyd.

·       Eglurwyd y byddai dogfen werthuso fanwl yn cael ei pharatoi a fyddai'n cynnwys effaith y gwaith a wnaed hyd hynny.

·       Cryfhawyd un elfen o'r asesiad risg.

13.

Materion ariannol a threfniadau Rheoli Risgiau a Llywodraethu y Cyd-bwyllgor pdf eicon PDF 118 KB

(Mae'r Cytundeb Cyfreithiol yn nodi y dylai'r Grŵp Cynghorwyr adolygu, asesu a chraffu ar drefniadau rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Cyd-bwyllgor, ac adolygu ac asesu pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y defnyddiwyd adnoddau.) Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaet

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Altman ddiweddariad i'r Grŵp Cynghorwyr ar ganlyniadau cyfarfod Cyd-bwyllgor Partneriaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2023. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Penodwyd Martin Nicholls, Prif Weithredwr yn Abertawe yn Brif Weithredwr Arweiniol ar gyfer Partneriaeth.

Penodwyd Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg yn Abertawe yn Gyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Partneriaeth.

Roedd y Cynghorydd Lyndon Jones yn bresennol yn rôl Cadeirydd y Grŵp Cynghorwyr Craffu a siaradodd am lythyr y Grŵp Cynghorwyr a oedd yn deilio o’r cyfarfod ar 24 Hydref 2022.

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad ariannol Partneriaeth ar gyfer 2022-23. Roedd hwn yn rhoi diweddariad ar sefyllfa ariannol Partneriaeth ddiwedd mis Rhagfyr 2022, a nodwyd ei fod yn rhoi gwybodaeth am gytundebau lefel gwasanaeth â’r awdurdodau lleol. Cafodd yr adroddiad ariannol ei nodi, a chymeradwywyd y gyllideb ddiwygiedig a'r incwm a dyraniad grant ar gyfer 2022-23.

Darparwyd trosolwg o raglen waith yr archwiliad mewnol ar gyfer 2022-23, a rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i'r amcanion, y cwmpas, y dull gweithredu a'r trefniadau adrodd. Nodwyd y cynnydd a wnaed. Byddai rhagor o waith yn cael ei gyflawni rhwng misoedd Mawrth a Mai 2023 ac, yn dilyn hynny, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor yn ystod tymor yr haf.

Darparwyd trosolwg a oedd yn cyflwyno'r cynnydd o ran y cynllun busnes, y broses o'i gyflawni, a meysydd i’w datblygu o hyd.

Eglurwyd y byddai dogfen werthuso fanwl yn cael ei pharatoi a fyddai'n cynnwys effaith y gwaith a wnaed hyd hynny.

Cryfhawyd un elfen o'r asesiad risg.

 

14.

Y Proffil Risgiau pdf eicon PDF 46 KB

Diweddaraf Cyfarwyddwr Arweiniol a Swyddog Arweiniol Partneriaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Ian Altman wrth y Grŵp Cynghorwyr mai dim ond un newid a oedd wedi'i wneud i'r ddogfen a welwyd yn flaenorol gan y Grŵp. Roedd y newid hwn yn ymwneud â chryfhau'r sylw ynghylch y risg gynyddol mewn perthynas â Blaenoriaeth 1, a'r ffaith nad oedd ysgolion yn cael cymorth digonol i roi'r cwricwlwm ar waith.

 

Holodd y Grŵp Cynghorwyr ynghylch y canlynol:

·       Yr eitem ar y gofrestr risgiau ynglŷn â chyllid Llywodraeth Cymru ddim yn cyrraedd mewn pryd, a chymaint yr oeddid yn dibynnu arno. Clywodd y Grŵp fod hon yn risg fawr gan fod y mwyafrif helaeth yn y sefydliad yn dibynnu ar y lefelau hynny o arian grant. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal y llinellau grant hyn am dros dair blynedd. Fodd bynnag, roedd yr arian yn tueddu i gyrraedd mewn pryd.

·       Beth oedd y risgiau o ran y cwricwlwm newydd, a sut yr oedd cynnig Llywodraeth Cymru i athrawon mewn perthynas â thâl llwyth gwaith yn effeithio ar y gwaith hwn? Dywedodd Ian Altman y byddai dysgu proffesiynol yn cael ei ystyried yn elfen a oedd yn ychwanegu gwerth at y system yn hytrach na rhywbeth a oedd yn amharu ar y llwyth gwaith. Lle bynnag yr oedd modd, dywedodd Ian Altman fod Partneriaeth yn ceisio sicrhau bod pethau ar gael yn anghydamserol fel y gallai staff ddewis o amrywiaeth o amseroedd, ac nad oedd yna ddisgwyliad chwaith i'r gwaith gael ei gyflawni y tu allan i oriau craidd. Fodd bynnag, o ran y llwyth gwaith, dywedodd Ian Altman fod yna ddisgwyliadau sylweddol ar staff. Dywedodd mai mater i Partneriaeth, yn ei farn ef, oedd gwneud y cynnig dysgu proffesiynol mor hyblyg â phosibl.

·       Effeithiolrwydd cynnal sesiynau datblygiad proffesiynol ar y cwricwlwm mewn clystyrau, a'i obaith y byddai'r cyllid i ysgolion ryddhau staff i fynychu yn parhau.

15.

Edrych ar Berfformiad Blaenoriaeth 1 Partneriaeth - Cwricwlwm ac Asesu Y Cyfarwyddwr Arweiniol pdf eicon PDF 46 KB

Y Swyddog Arweiniol a'r Cynghorwyr Strategol perthnaso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn rhan o'i raglen waith, cytunodd y Grŵp Cynghorwyr i edrych ar berfformiad un flaenoriaeth wahanol o blith chwe blaenoriaeth Partneriaeth ym mhob cyfarfod.  Felly, rhoddodd y Grŵp Cynghorwyr groeso i Ian Altman a Cressy Morgan, Ymgynghorydd Strategol Partneriaeth, i’r cyfarfod. Rhoddodd y Grŵp gyflwyniad ac amlinelliad o'r cynnydd o ran Blaenoriaeth 1: Cwricwlwm ac Asesu – Cefnogi cwricwlwm cenedlaethol sydd â thegwch a rhagoriaeth yn greiddiol iddo ac sy'n gosod safonau uchel i bob dysgwr. Aeth y Grŵp ati i ymdrin â’r pwyntiau canlynol:

 

·       Y Cynllun Busnes

·       Argaeledd gwybodaeth ar wefan Partneriaeth

·       Y Cynnig Dysgu Proffesiynol

·       Y modd yr oedd clystyrau gwahanol yn wynebu heriau gwahanol, ac felly na fyddai'r un peth yn addas i bawb, a phwysigrwydd mabwysiadu agwedd hyblyg ac ystwyth wrth ddarparu cymorth i bob clwstwr

·       Roedd cymysgedd o gymorth cyffredinol a phwrpasol i'w weld yn effeithiol

·       Rhoddwyd tair enghraifft o waith gweithio mewn clwstwr.

 

Mynegodd y Grŵp Cynghorwyr y pwyntiau a ganlyn:

·       Natur ragnodol yr hen gwricwlwm, a'r sgiliau a oedd yn ofynnol ar gyfer y cwricwlwm newydd. Teimlai'r Grŵp Cynghorwyr ei bod yn bwysig mynd â holl staff yr ysgolion gyda Partneriaeth ar y daith i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru, ac, er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, dylai Partneriaeth ofalu bod cymorth yn cael ei roi i'r rhai a allai fod yn cael trafferth o ran y pontio.

 

 

 

 

 

16.

Partneriaeth Cynllun Gwaith 2022 - 2023 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Rhaglen Waith Craffu.

17.

Trafod y pwyntiau ar gyfer y llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth sy'n deillio o'r cyfarfod hwn

Y Grŵp Cynghorwyr i drafod

Cofnodion:

Cytunodd aelodau'r Grŵp Cynghorwyr i fynegi eu barn o ran y canlynol er mwyn iddi gael ei chynnwys yn eu llythyr at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth:

·       Bod aelodau'r Grŵp yn falch o weld bod yr adroddiad effaith cyntaf ar gyfer Partneriaeth wrthi'n cael ei lunio, a'u bod yn edrych ymlaen at ei weld ym mis Mehefin.

·       Bod pryder wedi cael ei fynegi ynghylch canlyniad dyfarniad tâl llwyth gwaith Llywodraeth Cymru a’i effaith ar amser addysgu. Deallai'r Grŵp nad oedd gan Partneriaeth unrhyw fanylion ar y pryd ond y byddai'n falch o roi diweddariad i'r Cynghorwyr wrth i'r mater fynd rhagddo.

·       Y tynnwyd sylw at y risg na fyddai cyllid grant Llywodraeth Cymru yn cyrraedd mewn pryd, a pha mor ddibynnol yr oedd Partneriaeth ar y llif arian hwn.

·       Bod y Grŵp Cynghorwyr am gydnabod a diolch i Partneriaeth am ei waith caled yn datblygu ethos gwaith tîm gyda'r ysgolion mewn perthynas â chyflwyno'r cwricwlwm newydd.

·       Bod y Grŵp Cynghorwyr hefyd am bwysleisio pwysigrwydd mynd â phob athro ar hyd y daith i roi Cwricwlwm i Gymru ar waith.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 am

 

 

Cadeirydd