Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

40.

Cofnodion. pdf eicon PDF 227 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2023 fel cofnod cywir.

 

41.

Adolygiad Llywodraethu Ysgolion - Gwanwyn 2023. pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Fish adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau'r pwyllgor ynghylch llunio cynllun gweithredu sy'n bwriadu rhoi'r gefnogaeth orau i lywodraethu ysgolion yn y dyfodol a gwireddu blaenoriaethau'r cyngor i sicrhau bod arweinyddiaeth yn cefnogi cynnydd dysgwyr.

 

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar yr adroddiad a'r trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol a oedd wedi adolygu a chyfeirio at yr adroddiad craffu blaenorol ynghylch y pwnc.

 

Roedd y sylwadau a'r trafodaethau yn y cyfarfod diwethaf yn sail ar gyfer y cynllun gweithredu drafft a oedd yn ynghlwm wrth yr adroddiad. Esboniodd y swyddog y byddai polisi'n cael ei ddatblygu ar gyfer recriwtio a chadw llywodraethwyr yn effeithiol a bod y camau gweithredu yn y cynllun drafft wedi'u dylunio i gefnogi'r bwriad polisi hwnnw.

 

Roedd y prif feysydd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu drafft yn cynnwys:

·       Recriwtio a chadw llywodraethwyr;

·       Ffyrdd newydd a gwell o rannu arfer gorau;

·       Problemau ynghylch gwasanaeth e-bost Hwb;

·       Datblygu cronfa 'rhagoriaeth' o lywodraethwyr profiadol i gefnogi llywodraethwyr newydd a phresennol;

·       Datblygu mwy o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio rhwng llywodraethwyr;

·       Mwy o gyfathrebiadau wedi'u targedu ac wedi'u personoli ar gyfer llywodraethwyr;

·       Datblygu cronfa ddata cefnogi llywodraethwyr newydd;

·       Gwella Arweinwyr;

·       Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a grwpiau partner;

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a oedd wedi adeiladu ar yr un a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf ac a oedd wedi cynnwys meysydd a nodwyd yn ystod y sylwadau a'r adborth a roddwyd gan aelodau'r pwyllgor yn ystod y sesiwn.

 

Nododd fod yr adroddiad wedi datblygu a chynnwys y meysydd hynny a nodwyd ac a drafodwyd o fewn cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynghylch yr wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad, cyflwyniad y swyddog a'r cynllun gweithredu, yn enwedig mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

·       Cymorth/help/cefnogaeth ar gyfer llywodraethwyr newydd pan fyddant yn dod yn llywodraethwyr;

·       Yr angen i sicrhau bod llywodraethwyr newydd yn teimlo bod croeso iddynt a'u bod yn rhan o 'deulu' o lywodraethwyr;

·       Cyflwyno system 'cyfeillio' o bosib;

·       Problemau ynghylch yr angen am negeseuon e-byst Hwb ar gyfer cynghorwyr a'r angen i hwyluso'r broses o dderbyn gwybodaeth yn electronig,

·       Mae cyfarfodydd ar-lein yn gweithio'n dda ond mae angen ehangu cyfarfodydd a hyfforddiant wyneb yn wyneb; byddai hyn yn helpu gydag integreiddio llywodraethwyr newydd yn well wrth symud ymlaen;

·       Yr angen am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer Cadeiryddion llywodraethwyr;

·       Y posibilrwydd o ddatblygu canllaw fideo byr ar gyfer llywodraethwyr newydd;

 

Ymatebodd y swyddog, y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn briodol i'r problemau a'r pwyntiau a godwyd uchod.

 

42.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 120 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd mai'r cyfarfod nesaf oedd y cyfarfod olaf ar gyfer y flwyddyn ddinesig hon.

 

Amlinellodd gynnig i ymgysylltu â swyddogion o'r Adran ac adolygu'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn a llunio adroddiad sy'n cyfuno'r holl wybodaeth, y dystiolaeth a’r adroddiadau a dderbyniwyd a'r gwaith a wnaed ar y tri phrif faes, sef Cryfhau Arweinwyr Ysgolion, Presenoldeb a Chynhwysiad a Llywodraethu Ysgol Cryfach a Mwy Effeithiol mewn un adroddiad.

 

Gall y pwyllgor drafod yr adroddiad yn ystod y cyfarfod nesaf.