Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

28.

Cofnodion. pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

29.

Presenoldeb a Chynhwysiant.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Rhoddodd Helen Howells a Kate Phillips gyflwyniad ar lafar/Powerpoint a oedd yn ymwneud â Strategaeth Cynhwysiad ddrafft 2022-2027.

 

Mae'r strategaeth yn gysylltiedig â'r blaenoriaethau corfforaethol ar gyfer addysg.

 

Mae gan y strategaeth 5 maes blaenoriaeth allweddol:

·         Hybu presenoldeb

·         Hybu cynhwysiad

·         Gwreiddio darpariaeth gyffredinol effeithiol wrth gefnogi digon o leoedd arbenigol

·         Gwreiddio ethos o gynhwysiad a rennir

·         Iechyd emosiynol a lles seicolegol (ymagwedd ysgol gyfan)

 

Presenoldeb - yn hanesyddol, mae presenoldeb Abertawe wedi bod yn dda iawn, a chyn y pandemig y presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd oedd 95%, a 94.3% ar gyfer ysgolion uwchradd. Rhestrwyd Abertawe fel y nawfed orau yng Nghymru o ran presenoldeb.

 

Mae’r pandemig yn amlwg wedi effeithio ar y ffigurau hyn, ac ni fesurodd Llywodraeth Cymru ysgolion ar eu presenoldeb yn ystod y cyfnod ac ni chyhoeddwyd hysbysiadau cosb benodedig ychwaith a chynghorwyd plant i beidio â mynychu os oeddent yn teimlo’n sâl.

 

Ar ôl y pandemig 90.1% oedd y ffigurau presenoldeb ar gyfer cynradd ac 86.6% ar gyfer uwchradd, er taw Abertawe oedd y chweched orau yng Nghymru. Serch hynny, mae'r ffigurau hyn wedi gwella ymhellach yn ystod y tymor academaidd diweddar ac mae hyn i'w groesawu, a gellir eu cadarnhau unwaith y daw'r tymor i ben. Mae'r gostyngiad mewn ffigurau presenoldeb yn fater cenedlaethol ac nid yw'n rhywbeth sy'n berthnasol i Abertawe yn unig.

 

Mae hysbysiadau cosb benodedig bellach wedi’u hailgyflwyno gan Lywodraeth Cymru hefyd.

 

Mae’r problemau a achosir gan y pandemig sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc fel colli trefn arferol, profedigaeth, mwy o bryder a phroblemau iechyd meddwl, cynnydd mewn ymddygiadau heriol wedi effeithio ar bresenoldeb. Mae'r cynnydd mewn tlodi a'r argyfwng costau byw hefyd yn effeithio ar ffigurau presenoldeb.

 

Yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol:

·         Adolygu proses y Gwasanaeth Lles Addysg

·         Cyfarfodydd strategaeth presenoldeb misol

·         Newid ein hymagwedd o strategaethau presenoldeb traddodiadol

·         Cynhyrchu polisi presenoldeb wedi'i ddiweddaru ar y cyd

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth a amlygwyd yn y cyflwyniad ac ymatebodd y Swyddogion, y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn briodol iddynt.

 

Yn ystod y drafodaeth, manylwyd ar y potensial a’r posibilrwydd i’r strategaeth newydd gynnwys a bod yn seiliedig ar glystyrau presennol, cyfranogiad cyrff llywodraethu a phobl ifanc er mwyn datblygu a hyrwyddo’r fenter, y defnydd ehangach o arian cyllido allanol i gyflogi staff ychwanegol mewn rhai ysgolion, enghreifftiau o arfer da sydd ar waith ar hyn o bryd mewn ysgolion y gellir eu rhannu.

 

Gyda'r pwysau cyllidebol presennol y mae pob awdurdod lleol yn eu hwynebu, mae cynnydd mawr mewn cyllid yn annhebygol a gallai ffyrdd diwygiedig/gwahanol/callach o weithio o fewn cyllidebau presennol fod yr ateb wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd swyddogion y byddent yn archwilio'r holl feysydd hyn a drafodwyd ac a amlygwyd cyn dod ag adroddiad pellach yn ôl i'r pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

 

30.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 120 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Siaradodd y Cadeirydd ymhellach am y cynllun gwaith drafft a ddosbarthwyd ac amlinellodd y byddai'r cyfarfod nesaf yn canolbwyntio eto ar bresenoldeb a chynhwysiad gydag adroddiad/cyflwyniad yn adeiladu ar yr wybodaeth a ddarparwyd a thrafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod heddiw.