Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforedig Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022 fel cofnod cywir.

 

21.

Cryfhau Arweinwyr Ysgol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Siaradodd Helen Morgan-Rees a'r Cynghorydd Robert Smith ymhellach am yr adroddiad, y cyflwyniad a'r drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol a rhoddodd drosolwg byr a oedd yn ymwneud â chefndir y gwaith a wnaed yn Abertawe i ddatblygu ac adeiladu'r rhaglen cryfhau arweinwyr ysgolion.

 

Amlinellwyd yr ymagwedd gyflenwol a ddefnyddiwyd yn Abertawe sy'n gweithio ochr yn ochr â rhaglenni arweinyddiaeth Partneriaeth rhanbarthol a mentrau Llywodraeth Cymru.

 

Mae llawlyfr yn cael ei ddatblygu sy'n canolbwyntio ar ddatblygu arweinwyr newydd a gweithredol yn Abertawe.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl gan David Thomas a Rhodri Jones a oedd yn amlinellu ac yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

·         Perthynas waith a chysylltiadau rhagorol â Phartneriaeth/Llywodraeth Cymru a chefnogaeth i ddulliau rhanbarthol a chenedlaethol o wella;

·         Gwaith yr ymgynghorwyr gwella ysgolion;

·         E-bost/cylchlythyr wythnosol yr Adran Addysg i bob ysgol sy'n ymdrin â phynciau a gwybodaeth amrywiol ac sydd bellach ar gael i holl staff ysgolion;

·         Agenda ymweliadau cymorth ar gyfer ysgolion – cynllunio ar gyfer dysgu proffesiynol ar gyfer staff newydd a datblygu staff presennol yn arweinwyr canol;

·         Mae pob ysgol yn cael un y tymor gan yr ymgynghorwyr gwella ysgolion;

·         Ffocws allweddol yr ymweliadau hyn sy’n seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar arweinyddiaeth, addysgu a lles;

·         Adborth a data o'r ymweliadau hyn a all gynnwys ymgynghori â disgyblion unigol a grwpiau disgyblion;

·         Cynllun arweinyddiaeth wasgaredig a ffocws a nodau’r cynllun i uwch-arweinwyr ddatblygu ac annog datblygiad arweinwyr canol ar draws yr ysgol a fydd yn cynorthwyo wrth ledaenu gwybodaeth ac arbenigedd;

·         Gweithio gyda gweithwyr addysg proffesiynol i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddilyniant a phrofiad dysgu, gyda ffocws allweddol ar gwricwlwm newydd i Gymru;

·         Effaith y pandemig ar archwiliadau ac adolygiadau staff a chroesawu ailddechrau'r rhain mewn ysgolion, sy'n ceisio nodi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ar gael a'r bylchau y mae angen mynd i'r afael â hwy;

·         Cysylltiadau rhagorol â Phartneriaeth drwy gynlluniau rhannu swydd rhwng cydweithiwr y Tîm Gwella Ysgolion ac yn arbennig y nifer uchel sy'n manteisio'n lleol ar y rhaglen arweinwyr canol ac uwch, yn ogystal â'r cymhwyster darpar benaethiaid a phenaethiaid cenedlaethol;

·         O ran nifer yr arweinwyr sefydledig sydd am gymryd rhan yn y rhaglenni cenedlaethol, mae mwy o ddiddordeb yn Abertawe, sy'n amlinellu bod mwy o gryfder yn ein hardal;

·         Mae cyfle secondiad newydd yn cael ei ddatblygu’n lleol sy’n galluogi arweinwyr canol a darpar benaethiaid i gael mynediad at gyfle secondiad ac mae hefyd gyfle iddynt "gyfnewid" ysgolion am gyfnod;

·         Manylwyd ac amlinellwyd y modd y caiff y cynllun secondiad ei weithredu a'i arwain gan uwch-bennaeth gyda chymorth yr adran, gan gynnwys y cyfleoedd a'r manteision ar gyfer dysgu, arfer dda a rennir a syniadau a chyfleoedd ôl-lenwi i staff;

·         Manylwyd ar fanteision proffesiynol a phersonol y cynllun hwn i athrawon sydd wedi'u secondio ac sy'n rhan o'r cynllun cyfnewid ysgolion;

·         Cynllun mentora a chronfa ymgynghori sy'n gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan arweinwyr profiadol i gynorthwyo a rhoi cymorth ac arweiniad i ysgolion eraill;

·         Edrych i ddatblygu panel llywodraethwyr yn debyg i'r cynllun mentora;

·         Rôl yr ymgynghorwyr gwella ysgolion a chysylltiadau rhagorol â rhwydweithiau UCA a SCASH wrth gefnogi ysgolion yn eu proses hunanwerthuso;

·         Mae ymgynghorwyr gwella ysgolion hefyd yn cynorthwyo cyrff llywodraethu i recriwtio uwch-arweinwyr;

·         Mae dysgu proffesiynol a'r cymwysterau sydd ar gael i arweinwyr canol ac uwch yn bennaf drwy Partneriaeth, ond mae PCYDDS a’r Brifysgol Agored yn datblygu cynnig ehangach i athrawon;

·         Materion sy'n ymwneud â nifer yr athrawon sy’n dymuno symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth ganol ac uwch, sy’n fater cenedlaethol, nid lleol;

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor nifer o gwestiynau a gwnaethant sylwadau ynghylch yr wybodaeth a amlygwyd yn y cyflwyniad cynhwysfawr ac ymatebodd y Swyddogion a'r Aelod Cabinet yn unol â hynny.

 

22.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 120 KB

Penderfyniad:

Cytunwyd

Cofnodion:

Siaradodd y Cadeirydd ymhellach am y cynllun gwaith drafft a ddosbarthwyd.

 

Mae’r cyfarfod nesaf hefyd i fod i dderbyn diweddariad ar Gryfhau Arweinwyr Ysgol ac awgrymwyd y dylai’r pwyllgor dderbyn rhagor o wybodaeth am adolygiadau gan gymheiriaid a’r gefnogaeth a’r cyfnod sefydlu ar gyfer penaethiaid ac arweinwyr ysgol newydd ac, os yw amserlenni’n caniatáu, eu bod hefyd yn derbyn gwybodaeth am y llwybrau gyrfa posib sydd ar gael ar gyfer athrawon newydd drwy Partneriaeth.

 

Nodwyd y bydd y pwyllgor craffu addysg yn edrych ar effaith y ddeddfwriaeth newydd ar y ddarpariaeth ADY, ond byddai’n ddefnyddiol pe bai’r pwyllgor hwn yn cael gweld canlyniadau eu hymchwiliadau.