Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. |
|
Arolygiad Estyn. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ganlyniadau gwych arolygiad diweddar Estyn a gynhaliwyd yn
Abertawe. Canmolodd Aelod y Cabinet, y Cyfarwyddwr a'i holl staff am y gwaith caled a wnaed a'r canlyniadau gwych a gafwyd |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyfeiriodd Sarah
Hughes at yr adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol
gynhwysfawr i'r pwyllgor yn ymwneud â'r Adran fel y gofynnwyd amdani yn y
cyfarfod blaenorol. Siaradodd Helen
Morgan-Rees a Rhodri Jones o blaid yr adroddiad a ddosbarthwyd gan ddweud, yn
dilyn arolygiad rhagorol Estyn, fod yr wybodaeth yn yr adroddiad yn sail i
symud ymlaen a gwneud cynnydd yn unol â mentrau a syniadau lleol, rhanbarthol a
chenedlaethol. Yn dilyn y
trafodaethau yn y cyfarfod blaenorol amlinellwyd gwybodaeth ganddynt am feysydd
posib ychwanegol i’w cynnwys yn y rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2022-2023, yn
enwedig ynghylch y sefyllfa bresennol yn ymwneud â rhaglenni sydd â’r nod o
gryfhau arweinyddiaeth ysgolion a datblygiad proffesiynol ar gyfer holl staff
yr ysgol. Mae’r ddarpariaeth gref a’r rhaglenni sydd eisoes ar waith, yn rhai y
gellid adeiladu arnynt a’u gwella yn y dyfodol. Amlinellwyd a
thrafodwyd yr heriau sy'n wynebu llawer o ysgolion o ran cadw staff uwch ac
annog staff i ymgeisio am y swyddi uchaf. Hefyd yn
gynwysedig yn yr adroddiad roedd gwybodaeth fanwl yn ymwneud â chyflwr ysgolion
hŷn yn Abertawe, categorïau gwahanol o ysgolion (A-C), nifer yr ysgolion
ym mhob categori, materion amgylcheddol a strategaeth lleihau carbon,
buddsoddiad mewn ysgolion newydd a rhaglen cynnal a chadw cyfalaf barhaus,
sefydlu fforwm ysgolion ar newid hinsawdd a manylion nifer y staff
arlwyo/glanhau a staff patrolio croesfannau ysgolion a gyflogir ar draws y
ddinas. Siaradodd y
Cynghorydd Robert Smith ymhellach am yr adroddiad a ddosbarthwyd ac am
sylwadau'r swyddogion, a dywedodd fod yr adroddiad yn crynhoi sefyllfa
bresennol yr awdurdod yn dda o ran datblygu staff ac arweinyddiaeth. Gofynnodd
aelodau’r pwyllgor gwestiynau amrywiol i’r Swyddogion ac Aelod y Cabinet yn
ymwneud â’r wybodaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ymwneud â materion
ynghylch meysydd pwnc gan gynnwys cymorth gwell i lywodraethwyr, yr argyfwng
ynni a goblygiadau i gyllidebau ysgolion, cadw staff a llenwi rolau
arweinyddiaeth uwch, y potensial ar gyfer cael gwared ar fiwrocratiaeth
ddiangen, cael adborth gan benaethiaid neu arolwg posib a/neu bresenoldeb a
chasglu tystiolaeth mewn cyfarfodydd yn y dyfodol gan benaethiaid, rhannu arfer
da cyfredol gan glystyrau ysgolion, defnyddio grwpiau a fforymau presennol ac
sydd eisoes yn bodoli i geisio adborth gan uwch-staff. Ymatebodd Aelod y
Cabinet a Swyddogion yn briodol gan amlinellu y derbynnir adborth yn rheolaidd
gan ysgolion ar feysydd fel ADY, CLGau a chytundebau
TG. Byddai angen rhagor o waith a manylion ynghylch pa wybodaeth y byddai'r
pwyllgor yn ei cheisio o unrhyw arolwg posib. Dywedodd Aelod y
Cabinet y byddai ef a Swyddogion yn adrodd eto ar lafar yn y cyfarfod nesaf ar
y materion yn ymwneud â gwella arweinyddiaeth ysgolion. |
|
Penderfyniad: Cytunwyd Cofnodion: Siaradodd y
Cadeirydd ymhellach am y cynllun gwaith drafft a ddosbarthwyd. Cynigiodd y
diwygiadau canlynol i’r cynllun: Hydref a Tachwedd
- Cryfhau Arweinwyr Ysgolion. Rhagfyr -
Presenoldeb a Chynhwysiad. cyfeirio adborth
ar adroddiad blaenorol y PDP i'r Panel Craffu Perfformiad Addysg. Ionawr -
Presenoldeb a Chynhwysiad. Chwefror a Mawrth
- Llywodraethu ysgol cryfach a mwy effeithiol. Cefnogodd aelodau'r Pwyllgor y cynllun gwaith diwygiedig a chytunwyd arno |