Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 204 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 fel cofnod cywir.

12.

Diweddariad gan yr Adran Addysg. pdf eicon PDF 2 MB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Darparodd Sarah Hughes, Rheolwr Gwelliant a Monitro'r Gyfarwyddiaeth Addysg, gyflwyniad manwl llawn gwybodaeth ar y cyd-destun ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Abertawe.

 

Roedd y manylion yn cynnwys ysgolion Abertawe; Dysgwyr yn Abertawe; Adeiladau ysgol; a'r gyllideb addysg.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog ac Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Cynhaliwyd trafodaethau ar y canlynol: -

 

·       Sut roedd ysgolion Abertawe'n cymharu ag ysgolion eraill yng Nghymru.

·       Adeiladu ysgol - ysgolion gradd cyflwr A a B : 56%.

·       Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a oedd yn cynnwys yr uchelgais o dyfu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

·       Yr amcan cyffredinol o fodloni anghenion yr holl ddysgwyr yn Abertawe, lle bo'n bosib.

·       Cyflwr ysgolion hŷn yn Abertawe.

·       Cynnal a chadw cyfalaf a rhaglen gwella ysgolion.

·       Darparu manylion ynghylch pa mor ystyriol o'r amgylchedd mae ysgolion Abertawe a chynlluniau'r dyfodol ynghylch y mater hwn.

·       Adeiladau ysgolion - £216m o gynlluniau cyfalaf ysgol ers arolygiad diwethaf Estyn yn 2013, yn enwedig ysgolion hŷn.

·       Canolbwyntio ar addysg yn yr awyr agored, gan gynnwys y cymorth y gall aelodau ward ei ddarparu i ysgolion, e.e. trosglwyddo ardal o barc lleol yng Nglandŵr i ddarparu man gwyrdd i'r ysgol.

·       Darparu niferoedd y staff arlwyo, glanhau, gofal, hamdden a hebryngwyr croesfannau i'r Pwyllgor.

·       Mabwysiadu ymagwedd leol iawn wrth ymdrin â phroblemau a thargedu ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

·       Y canlyniad cadarnhaol iawn o ran nad yw unrhyw ysgolion yn cael eu monitro gan Estyn ar hyn o bryd.

·       Y cyfleoedd a ddarparwyd gan y Fargen Ddinesig.

·       Mabwysiadu ymagwedd gyfannol at fynd i'r afael â thlodi, gan gynnwys darparu cymorth ar gyfer y rheini sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

·       Y cymorth a ddarparwyd i ddisgyblion yn dilyn effaith COVID-19.

·       Yr effaith gadarnhaol y gall chwaraeon ei chael ar blant/ysgolion.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am ymatebion gan swyddogion ynghylch cyflwr ysgolion hŷn yn Abertawe; darparu manylion ynghylch pa mor ystyriol o'r amgylchedd mae ysgolion Abertawe a chynlluniau'r dyfodol ynghylch y mater hwn; a darparu niferoedd y staff arlwyo, glanhau, gofal, hamdden a hebryngwyr croesfannau.

13.

Rhaglen Waith 2022-2023. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwella a Monitro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi amlinelliad drafft i'r Pwyllgor o'r rhaglen waith ar gyfer 2022-2023 ar hyn yr oedd yn ceisio ei gyflawni o ran amcanion polisi.

 

Amlinellwyd, yn dilyn trafodaeth rhwng y Cyfarwyddwr ac Aelodau’r Cabinet, fod y blaenoriaethau a ddarparwyd yn yr adroddiad wedi’u nodi fel eitemau drafft ar gyfer rhaglen waith 2022-23, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau a wnaed gan y Pwyllgor. Roedd y bwrdd hefyd wedi darparu'r allbynnau a chanlyniadau a ragwelwyd o bob eitem ar y cynllun gwaith, yr ymrwymiad polisi y mae pob cynllun gwaith yn helpu i’w ddarparu a'r flaenoriaeth gorfforaethol sy'n cyd-fynd â phob eitem ar y cynllun gwaith.

 

Trafododd y pwyllgor y testunau posib canlynol: -

 

·       Gwella presenoldeb ysgol a chryfhau arweinwyr ysgol a chymunedau.

·       Cefnogi rhieni/gwarcheidwaid o ran gwella presenoldeb ysgol.

·       Effaith negyddol gwaharddiadau ysgol.

·       Darparu'r diweddaraf am y cynnydd o ran y 10 argymhelliad y cytunwyd arnynt yn yr adroddiad Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr wrth Adfer o'r Pandemig i'r Cabinet ar 21 Gorffennaf 2022.

·       Cryfhau arweinwyr ysgol, sicrhau bod polisïau presennol yn addas at y diben a sicrhau bod digon o adnoddau i adeiladu'r ethos ar draws cymunedau ysgol.

·       Datblygu sgiliau rheoli ar draws ysgolion a sicrhau bod gan ysgolion gynlluniau datblygu ar waith.

·       Sut mae Abertawe'n ymdrin â diwygio anghenion dysgu ychwanegol a'r côd newydd.

·       Cefnogi arweinyddiaeth rhenc ganol o fewn ysgolion.

·       Llywodraethu effeithiol o fewn ysgolion.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am ragor o fanylion ynghylch y meysydd a nodwyd yn y rhaglen waith ddrafft yn ystod y cyfarfod nesaf a drefnwyd. Gofynnodd hefyd i'r diweddaraf am y cynnydd gael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2022 mewn perthynas â'r 10 argymhelliad y cytunwyd arnynt o'r adroddiad Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr wrth Adfer o'r Pandemig i'r Cabinet ar 21 Gorffennaf 2022.