Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Ap Residents' Reward (Arddangosiad). Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Strategaeth Digidol a Gwasanaethau gynrychiolwyr o AGB Abertawe a
Vindico a ddarparodd arddangosiad o'r ap 'Residents Rewards'. Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau i'r Swyddogion a chynrychiolwyr AGB/Vindico a ymatebodd yn
unol â hynny. Siaradodd
Aelodau'r Cabinet dros Gyllid a'r Economi a Thrawsnewid Gwasanaethau o blaid yr
ap, a diolchwyd i bawb a oedd wedi helpu i ddatblygu'r ap. Diolchodd y
Cadeirydd i'r holl fynychwyr am yr arddangosiad llawn gwybodaeth. |