Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu
Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Glannau Afon Tawe a Chodi'r Gwastad. PDF 416 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Prif
Reolwr Adfywio at yr adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi
ac Isadeiledd (PDC) ym mis Rhagfyr 2022 a oedd yn nodi'r cyd-destun polisi
cynllunio ar gyfer ardal datblygu strategol Glannau Afon Tawe a’r Hafod-Morfa,
ac a oedd yn adlewyrchu ar y gwaith a wnaed ar Strategaeth Glannau Afon Tawe
ddrafft (2019). Er bod y ddogfen
strategaeth ddrafft wedi arwain datblygiad a buddsoddiad anffurfiol yn yr
ardal, cytunwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r PDC yn ystod
gwanwyn 2023 i ystyried blaenoriaethau, cyfleoedd ariannu, cyflwyniad a chamau
nesaf mewn perthynas â chamau gweithredu tymor hwy. Roedd y prosiectau a nodwyd yn y Strategaeth Glannau Afon
Tawe ddrafft wedi'u cynnwys yn y cais Codi'r Gwastad llwyddiannus ar gyfer Cwm
Tawe Isaf yn 2023. Mae'r ail adroddiad diweddaru hwn felly yn amlinellu'r
prosiectau allweddol a gynhwysir yn y cais ariannu hwnnw, ynghyd â chynnydd hyd
yma gyda chynlluniau adfywio eraill yng nghoridor yr afon Tawe. Bwriedir i'r
adroddiad fod yn adroddiad dros dro gydag adolygiad pellach o gamau gweithredu
a rhaglenni maes o law, ar ddyddiad i'w gytuno. Cyflwynodd y Prif Reolwr Archwilio, gyda chymorth y
Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol, luniau a chynlluniau mewn
perthynas ag: · Ardal Adfywio
Strategol Glannau Afon Tawe. · Cais 2023 i Gronfa
Codi'r Gwastad mewn perthynas â Chwm Tawe Isaf (prosiectau 1, 2 a 3). · Prosiect 1A
Gwaith Copr yr Hafod-Morfa: Melin Rholio. · Prosiect 1B - Y
Labordy. · Prosiect 1C -
Tai Injan Musgrove a Vivian. · Prosiect 2 -
Hygyrchedd Mannau Cymunedol a Dŵr · Pontynau newydd
yn y Morfa a Morfa Road/Glan yr Afon. · Prosiect 2 -
Bwâu Y Strand · Prosiect 3 -
Amgueddfa Abertawe Cyfeiriodd
y Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol at yr amserlenni a manylodd ar
y buddion i'r ddinas o ganlyniad i'r cais Codi'r Gwastad. Manylodd y Prif Reolwr Adfywio ar raglen ehangach
Gwaith Copr yr Hafod-Morfa a oedd yn cynnwys y cynnig hamdden Ceir Llusg Skyline, Pontŵn yr afon, Ardal Adfywio Morfa Road a
Rhodfa Newydd Glan yr Afon, Cwm Tawe Isaf a Llwybrau Treftadaeth yr
Hafod-Morfa. Nododd y byddai cyllid Codi'r Gwastad yn rhoi hwb sylweddol i gymorth yn
y camau adfywio nesaf ar gyfer nifer o brosiectau ar hyd coridor yr afon.
Byddai'r prosiectau hynny'n gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygiad ac
adfywio pellach yn y man wrth i ni weithio tuag at yr amcan o ddarparu cyrchfan
newydd yar gyfer glannau afon Abertawe. O
ran y camau nesaf ar gyfer y prosiect a nodwyd yn y cais Codi'r Gwastad, byddai
adnoddau'n cael eu dyrannu i greu dyluniadau a dichonoldeb lle bo angen a
byddai rhaglenni'n cael eu datblygu i sicrhau y gellir cyflawni hyn. Roedd y
rhain yn feysydd gwaith sylweddol gyda dyddiad gorffen rhagweledig
o 31 Mawrth 2025. Roedd angen gwaith pellach i ddatblygu a mireinio'r uwchgynllun
ar gyfer Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, i ymateb i'r allbynnau o astudiaethau
technegol a chynnwys nifer o ofynion datblygu a oedd yn dod i'r amlwg ar gyfer
y safle. Byddai'r cyngor yn parhau i weithio gyda phrosiect ceir llusg Skyline ac Urban Splash i sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd ag amcanion
cynllunio strategol a chreu lleoedd ac yn ymateb i ymgynghoriad cynlluniedig ac
adborth gan randdeiliaid a chymunedau. Nodwyd
nifer o brosiectau eraill yn y Strategaeth Glannau Afon Tawe ddrafft (2019) y
gellir eu harchwilio ymhellach, a gall fod mentrau newydd eraill y gellir eu
hychwanegu at y cynigion a'r camau gweithredu hyn. Fodd bynnag, byddai
problemau adnoddau ac ariannu sy'n golygu y byddai angen ystyried
blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer y Tîm Adfywio a Chyllid Allanol, a fyddai'n
arwain ar gyflwyno nifer o'r rhain ynghyd â'r ymrwymiadau a fydd yn ymddangos
o'r cais diweddar a gymeradwywyd gan Gronfa Codi'r Gwastad. Byddai
adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r PDC yn hwyrach yn y gwanwyn i
werthuso'r cwmpas ar gyfer prosiectau eraill ac adrodd yn ôl ar gynnydd gyda
phrosiectau Codi'r Gwastad Cwm Tawe Isaf ac adfywio safleoedd allweddol. Roedd trafodaethau'r aelodau'n canolbwyntio ar: · Lwybr Cerdded Ochr Orllewinol
Glan yr Afon - mae gwaith yn parhau mewn perthynas ag ymchwilio'r safle, gwaith
dichonoldeb, dyluniadau, caniatâd cynllunio posib, cyllid (wedi'i gynnwys yn
Adran 106), gyda thendrau a gwaith adeiladu ar ddiwedd y flwyddyn nesaf. Bydd Swyddogion yn rhoi'r diweddaraf i'r
Pwyllgor maes o law. · Llwybr Cerdded Glan yr
Afon/ymgynghoriad llwybrau cerdded natur/ymgysylltu â grwpiau buddiant lleol ac
ysgolion. · Potensial i gynhyrchu refeniw o
ganlyniad i brydlesu man masnachol yn yr adeiladau arfaethedig. · Cyllid mewn perthynas â'r
cynllun Skyline. · Y gwaith sensitif o ehangu
cyfleusterau storio a mannau arddangos yn Amgueddfa Abertawe i sicrhau bod yr
adeilad yn cadw ei swyn wreiddiol. · Cyfleoedd i grwpiau buddiant
lleol ymgymryd â phrosiectau adfywio ar gyfer darnau o gyfarpar sydd mewn man
storio ar hyn o bryd (e.e. peirannau locomotif etc.) Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: · y dylid nodi'r adroddiad; ac · y bydd Swyddogion yn datblygu
cynllun gweithredu mewn perthynas â blaenoriaethau/gwelliannau a chyfleoedd
grant yn y dyfodol. |
|
Cofnodion: The Chair introduced the ‘for information’ Economy &
Infrastructure CDC Work Plan 2022-2023. The topics for discussion at the following meeting were
noted:- ·
23 March 2023 – Introduction to Swansea Bay
Strategy. |