Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd S J
Rice – Cysylltiad personol â Chofnod 27 - Y Cynllun Datblygu Economaidd Lleol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu
Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 22 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Datblygu Economaidd Lleol. PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol, gyda chymorth y Rheolwr Datblygu
Economaidd, adroddiad a oedd yn manylu ar y broses ar gyfer llunio Cynllun Cyflawni
Economaidd Lleol newydd ar gyfer Abertawe a fyddai'n ategu'r Cynllun Cyflawni
Economaidd Rhanbarthol presennol. Ym mis Ionawr
2022, mabwysiadwyd Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De Orllewin Cymru
(REDP), sy'n cynnwys Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe
fel polisi adfywio economaidd cyffredinol y cyngor. Er mwyn adeiladu ar y
gwaith hwn ac arwain ar weithredu'r REDP mewn cyd-destun lleol, roedd angen
llunio Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol cyflenwol i nodi blaenoriaethau a
chamau adfywio'r economi yn Abertawe. Roedd y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol (REDP) yn darparu’r
fframwaith strategol ar gyfer paratoi'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. Fe'i
datblygwyd yng nghyd-destun amrywiaeth o gynlluniau a strategaethau ar lefel
leol, Cymru a'r DU, yn enwedig Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yr
ymrwymiad i ddatgarboneiddio a chyflawni'r nod o fod yn sero net erbyn 2050, y
cyfleoedd a'r heriau a gyflwynir gan newid technolegol a demograffig, ac
ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Fel sail dystiolaeth ar gyfer datblygu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol,
gellid defnyddio'r dadansoddiad economaidd helaeth a wnaed ar gyfer paratoi'r
REDP ac Asesiad o Les Lleol 2022 yn Abertawe (a lywiodd y Cynllun Lles Lleol). Mae'r rhain yn nodi mai dyma’r heriau economaidd tymor hwy y mae Abertawe
yn eu hwynebu: ·
Yr
angen am gefnogaeth ac adferiad ar ôl COVID. ·
Tyfu'r sylfaen fusnes -
mae maint cymharol y sylfaen fusnes (508 busnes i bob 10,000 o'r boblogaeth) yn is na chyfartaleddau Cymru
(539) a'r DU (718). Mae gan Abertawe lefel iach o fusnesau ac mae cyfraddau
goroesi un flwyddyn a phum mlynedd ar gyfer mentrau wedi gwella'n unol â
chyfraddau Cymru a'r DU, ond mae costau cynyddol nwyddau a gwasanaethau, yn
enwedig costau ynni a chyfraddau llog cynyddol yn creu amodau masnachu heriol
iawn i fusnesau lleol. ·
Mae
98.2% o'r busnesau yn Abertawe naill ai’n ficro neu’n fusnesau graddfa fach.
Mae potensial twf y busnesau hyn yn hanfodol i dwf economaidd y Sir gyfan.
Mae'r busnesau hyn yn ysgogi twf cyflogaeth a swyddi gwerth uwch, sy'n talu'n
well. ·
Wrth
fynd i'r afael â'r bwlch cynhyrchiant parhaus â gweddill y DU - roedd
cynhyrchiant Abertawe (gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd) ar 85.9% o
gyfartaledd y DU yn 2020. ·
Cynyddu
cyfraddau cyflog – yn ystod y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2021, cododd enillion
amser llawn canolrif blynyddol yn Abertawe 5.2%, sy'n fwy na Chymru (+1.2%) a'r
DU (-0.6%). Roedd cyfraddau cyflog amser llawn canolrif blynyddol yn Abertawe
ar 91.6% o gyfartaledd y DU ym mis Ebrill 2021. ·
Mater
parhaus diweithdra ac anweithgarwch a sicrhau
cyflenwad o lwybrau a chyfleoedd gwirioneddol. Mae cyfraddau gweithgarwch
economaidd a chyflogaeth yn Abertawe'n is na
chyfartaledd Cymru ac yn is na chyfraddau cyfatebol y DU. ·
Bylchau
Sgiliau – mae angen i waith barhau i wella sgiliau pobl er mwyn manteisio ar gyfleoedd mewn diwydiannau newydd
a rhai sy'n dod i'r amlwg, ac i fynd i'r afael â'r bylchau mewn sectorau megis
gofal, lletygarwch ac adeiladu. ·
Bwlch
Incwm Aelwydydd Cymru - Yn 2019 roedd incwm gwario gros aelwydydd yn Abertawe
yn 75.9% o gyfartaledd y DU. ·
Lleihau
amddifadedd ar draws y sir - Ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019, roedd gan Abertawe gyfran uwch na'r
cyfartaledd o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) a oedd yn golygu ei
bod wedi'i chynnwys yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gydag 17 (11.5%)
o'i 148 ACEHI yn y 191 (10%) mwyaf difreintiedig. Mae angen creu cyflogaeth
gynaliadwy â chyflogau da i helpu i fynd i'r afael â hyn. ·
Mae Cynllun Datblygu Lleol
Abertawe'n nodi prinder swyddfeydd o safon uchel ar
gael i ddiwallu buddsoddiad mewn ac anghenion twf economaidd, ynghyd â
gorgyflenwad o swyddfeydd o ansawdd isel yn ardaloedd canolog ac ar gyrion y
dref. Mae bwlch dichonoldeb ar gyfer datblygu eiddo masnachol felly mae angen
buddsoddiad yn y sector cyhoeddus cyn bod datblygwyr masnachol yn fodlon
buddsoddi. ·
Ymateb
i newid arferion defnyddwyr a gweithwyr drwy ddatblygu ffyrdd newydd o
ddefnyddio canol y ddinas, y rhanbarth a chanolfannau ardal a lleol. Cynnwys
addasu i ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys dulliau trafnidiaeth a
chysylltedd ac effaith gadarnhaol ar leoedd. ·
Yr argyfyngau newid
yn yr hinsawdd a natur, yr angen am addasu'n gyflym a chyflawni uchelgeisiau Sero
Net y cyngor. ·
Ymateb
i'r chwyldro digidol a'r dyfodol cysylltiedig gyda modelau newydd o weithio. Byddai'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol yn nodi'r fframwaith strategol ar
gyfer adfywio economaidd yn lleol a bydd yn amlinellu'r camau allweddol a
fyddai'n cyflawni'r nodau a'r amcanion. Manylwyd ar yr amserlenni dangosol ar gyfer cwblhau'r gwaith a disgwylir
i'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2023. Canolbwyntiodd trafodaethau'r pwyllgor ar y canlynol: ·
Archwilio
galluogwyr ar gyfer busnesau newydd o ran symleiddio'r broses gynllunio a
gwella cludiant cyhoeddus. ·
Cyflawni'r
nod o fod yn Sero Net erbyn 2050 a'r gwaith parhaus mewn perthynas â'r Grant
Lleihau Carbon. ·
Archwilio'r
cyfleoedd a all godi wrth i'r cais am borthladd rhydd fynd yn ei flaen. ·
Rôl a
methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth fesur ffigurau ynghylch y dadansoddiad
economaidd. ·
Lefelau
cymorth, cymhellion a grantiau sydd ar gael ar gyfer y 7930 o fusnesau bach yn
y Sir. ·
Rôl y
Swyddogion Cymorth Busnes. ·
Y
tair tasg ategol sy'n sail i'r uchelgeisiau. ·
Amlder
y cyfarfodydd, aelodaeth a llywodraethu Bwrdd Partneriaeth Adfywio Abertawe. Diolchodd y Cadeirydd i'r
swyddogion am eu hadroddiad addysgol. Penderfynwyd: 1. Y bydd
y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd ar gyfer llunio Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol
newydd. 2. Y
cyflwynir adroddiad diweddaru pellach i'r Pwyllgor ym mis Ebrill 2023. |
|
Cofnodion: . Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Datblygu Corfforaethol Yr Economi ac
Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2022-2023. Nodwyd y pynciau
i'w trafod yn y cyfarfodydd dilynol:- ·
23
Chwefror 2023 – Glannau Afon Tawe a Chodi'r Gwastad a Chyflwyniad Ap Gwobrwyo
Preswylwyr Abertawe. ·
23
Mawrth 2023 – Cyflwyniad i Strategaeth Bae Abertawe. ·
27
Ebrill 2023 - Fframwaith Strategaeth Datblygu Economaidd Drafft. |