Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

18.

Cofnodion: pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

19.

Ap Residents' Reward. pdf eicon PDF 277 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid ddiweddariad ar yr ap Gwobrwyo i Breswylwyr.

 

Amlinellwyd bod cyflwyno gostyngiadau, pwyntiau teyrngarwch a gwobrau ar gyfer preswylwyr Abertawe yn ymrwymiad polisi. Gyda chynllun o'r math hwn, byddai angen cysylltiadau agos ag ystod eang o fanwerthwyr a sefydliadau sector preifat eraill ledled Abertawe. Roedd y cyngor felly'n partneru ag Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe. Roedd gan yr AGB y cysylltiadau, y perthnasoedd a'r isadeiledd i fusnesau lleol a chynllun cerdyn rhoddion sydd eisoes yn bod sef "Calon Fawr Abertawe".

 

Eglurwyd mai ap yw'r ffordd hawsaf a mwyaf cost-effeithlon i breswylwyr ddefnyddio'r cynllun, gan fod gostyngiadau a gwobrau'n newid yn gyson. Gall ap hefyd ddarparu manteision ychwanegol defnyddiol ynghyd â nodweddion pan fydd preswylwyr yn mynd o le i le yn Abertawe, e.e.

 

·       Y gallu i adrodd am becynnau amheus;

·       Sganio codau QR i gael gwybodaeth ychwanegol sydd i'w chael o fewn yr ap;

·       Proffilio personol fel y gall yr ap wthio cynnwys a gostyngiadau perthnasol yn seiliedig ar eu lleoliad.

 

Byddai'r ap yn cynnwys y canlynol:

 

·       Cynllun Teyrngarwch (Cam 1):

 

·       Y gallu i fanwerthwyr roi gostyngiad (Cam 1);

 

·       Y gallu i gynnal cystadlaethau (Cam 1). Bydd rhoi pethau am ddim bob mis yn yr AGB yn rhan o'r rhaglen deyrngarwch;

 

·       Dadansoddi data. e.e. nifer yr ymwelwyr etc. (Cam 1);

 

·       Proffiliau personol e.e. gellir defnyddio hoffterau bwyd i argymell lleoedd newydd i fwyta gyda gostyngiad/cherdyn rhodd/phwyntiau teyrngarwch ar gael. (Cam 1);

 

·       Dolen i ostyngiadau ar rai digwyddiadau/gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor lle nad oes cynllun o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd ac os na fydd y cyngor yn colli incwm a glustnodwyd o ganlyniad i hyn. Y dybiaeth yw yr adenillir y gost lawn (Cam 2);

 

·       Dolen i ostyngiadau teithio ar fysus ac olrhain hyn (Cam 2);

 

·       Nodwedd côd QR i gael gafael ar wybodaeth bellach (Cam 3);

 

·       Hysbysiadau e.e. pecyn amheus wedi'i ganfod, argyfyngau yng nghanol y ddinas (Cam 3);

 

Nodwyd bod cynhwysiad digidol yn uchel yn Abertawe, fodd bynnag, mae'n bwysig y gall pob preswyliwr gael mynediad at yr Ap. Mae swyddogion a'r AGB yn archwilio ffyrdd o gefnogi preswylwyr i gofrestru ar gyfer yr Ap a chael mynediad ato, a datblygu cynhwysiad digidol.

 

Mae manteision disgwyliedig yr ap yn cynnwys:

 

·       Gwobrau a gostyngiadau teyrngarwch i breswylwyr y gellir eu cronni a'u defnyddio'n hwyrach;

 

·       Rhagor o bobl yn ymweld â chanol y ddinas yn ystod y cam cyntaf;

 

·       Llwyfan ac isadeiledd i gyflwyno'r ap i strydoedd mawr a wardiau eraill ledled Abertawe;

 

·       Gostyngiadau a phwyntiau teyrngarwch i breswylwyr i rai lleoliadau sy'n eiddo i'r cyngor; Fel y soniwyd yn flaenorol, lle nad oes cynllun o'r fath yn bodoli eisoes ac ni fydd y cyngor yn colli unrhyw incwm a glustnodwyd o ganlyniad i hyn. Y dybiaeth fydd yr adenillir y gost lawn;

 

·       Cyflwyno'r ap i ddinasoedd eraill yn y dyfodol a fyddai o fudd i breswylwyr Abertawe y tu allan i'r sir;

 

·       Mesurau diogelwch ychwanegol, gyda nodwedd yn yr ap sy'n tynnu sylw at unrhyw faterion brys e.e. pecynnau amheus;

 

·       Adrannau penodol e.e. harddwch Abertawe a'r gallu i hyrwyddo twristiaeth, lle nad oes unrhyw wrthdaro wedi'i nodi â chynlluniau eraill ar gyfer hyrwyddo twristiaeth, er enghraifft yn lleol;

 

·       Llwyfan i ychwanegu mentrau, buddion a hyrwyddiadau pellach ar gyfer preswylwyr Abertawe yn hawdd, sy'n cyd-fynd â chynlluniau presennol a lle mae bylchau neu gyfleoedd.

 

Gallai cam un y system ddechrau'n syth, wedi'i gyflwyno cam wrth gam. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gamau pellach. Y nod yw lansio cam un mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid:

 

·       nad oedd dim ar gael 'yn barod' ac nad yw cynlluniau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill yn cyd-fynd â'r meini prawf sy'n ofynnol gan Abertawe

 

·       bod yr AGB ar gam cynnar trafod y cynllun â masnachwyr er bod masnachwyr yn ymwybodol ei fod yn cael ei ddatblygu.  bod materion megis ysgogiadau i fasnachwyr yn cael eu datblygu o hyd.

 

·       Rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei lansio'n swyddogol.

 

·       Pwysigrwydd y fath gynllun o ran annog mwy o bobl i ymweld â chanol y ddinas.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid am yr adroddiad gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Y darperir adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ym mis Ionawr, gyda gwahoddiad yn cael ei estyn i'r AGB ddod i'r cyfarfod a chymryd rhan yn y trafodaethau.

20.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Cyflawni Corfforedig yr Economi ac Isadeiledd 'er gwybodaeth'.

 

Nodwyd y byddai'r pynciau canlynol yn cael eu trafod ar 24 Tachwedd 2022:

 

·       Cyflwyniad i Strategaeth Bae Abertawe (Geoff Bacon).

·       Cyflwyniad i Strategaeth Coridor Glannau'r Tawe (Gail Evans).