Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2022 a 24 Mai 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth). PDF 118 KB Cofnodion: Nodwyd. |
|
Trawsnewid ein Heconomi a'n Seilwaith - Adroddiad Statws. PDF 341 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd diweddar o ran Amcanion Lles Corfforaethol
'Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd'. Nododd yr
Aelodau'r cefndir, cyflawni adferiad economaidd tymor hwy a chyflwyno rhaglenni
a phrosiectau sy'n ymwneud â'r economi ac isadeiledd. Mewn ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, 1)
Mabwysiadwyd
y Cynllun Datblygu Economaidd Rhanbarthol yn ddiweddar gan y cyngor a'r cyd-bwyllgor, felly does dim cynlluniau di-oed i gynnal
adolygiad. Mae'r cynllun yn ddogfen
'fyw' a all fod yn ymatebol a hyblyg. 2)
Mae'r
cynllun yn adlewyrchu prosiectau sy'n ymwneud â buddsoddwyr mawr. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r
adroddiad. 2)
Datblygu
blaengynllun ar gyfer gweithgarwch ar gyfer 2022-2023 i gyd-fynd â chyflawni’r
Amcan Lles Corfforaethol. |
|
Cynllun Gwaith Cofnodion: Trafododd yr
Aelodau eitemau posib i'w cynnwys yng nghynllun gwaith 2022-23; 1)
Safleoedd
Hydro. 2)
Strategaeth
y Bae. 3)
Cynllun
Adfer Economaidd Rhanbarthol ac a oedd cynllun yn benodol i Abertawe. 4)
Fferm
Drydan/Rhwydweithiau Gwefru. 5)
Cerbydlu Gwyrdd/Cerbydlu Llwyd. 6)
Rhagor
o Gartrefi a Datgarboneiddio. 7)
Eiddo
Gwag. 8)
Defnydd
o oleuadau LED ar gyfer goleuadau stryd. 9)
Y
Fargen Ddinesig 10) Lleoedd gwaith a rennir. 11) Economi dim gwastraff. Dywedodd y
Cadeirydd y gall rhai eitemau fod yn gyfrifoldeb ar Bwyllgorau Datblygu
Corfforaethol eraill a'i bod yn bwysig osgoi dyblygu. Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn trafod yr eitemau
posib ymhellach gyda'r Swyddogion a'r Aelodau Cabinet perthnasol. |
|
Dyddiad ac Amser Y Cyfarfodydd. Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y dyfodol. |