Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd Paul Lloyd gysylltiad personol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf.
Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â
chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Derbyniwyd y cwestiynau canlynol gan aelodau o'r cyhoedd: CWESTIWN 1: Yng Nghyfrifiad 2011, Abertawe oedd â'r gyfran isaf o
deithiau byr a wnaed gan gludiant cyhoeddus yn y DU gyfan. Mae gennym rwydwaith
bysus nad yw'n gwneud llawer mwy na mynd â phobl i
ganolfan siopa sydd ag ychydig iawn o siopau, y mae llai a llai o bobl am fynd
iddynt. Mae'n costio £2 i barcio yng nghanol y ddinas drwy'r dydd ond mae'n
costio £5 i 1 person fynd yno ar fws. Mae'n costio £4 i barcio yn y Mwmbwls am 3 awr, ac eto mae'n costio £5 i 1 person fynd yno ar fws. Nid oes gan y rhan fwyaf o'r ddinas wasanaethau bysus
uniongyrchol i'r orsaf drenau na Stadiwm Liberty ar
ddiwrnodau gêm. Mae arnom angen gwasanaethau bysus uniongyrchol sy'n cysylltu
gwahanol rannau o'r ddinas. Rhaid i ni symud oddi wrth
y syniad bod yn rhaid i bob bws fynd i'r Cwadrant. Mae'r Iseldiroedd wedi cynnal arolwg teithio cenedl bob
blwyddyn ers 1978. Gofynnir i ddinasyddion gofnodi pob taith maent yn mynd
arni, a defnyddir yr wybodaeth hon i helpu i sicrhau bod dewisiadau amgen
dichonadwy ar gael yn lle teithio mewn car. Yn hytrach na chanolbwyntio ar
brofiad defnyddwyr bysus, dylai'r cyngor newid ei ffocws i'r mwyafrif llethol
nad ydynt yn ddefnyddwyr bysus, a phenderfynu pa newidiadau sydd eu hangen er
mwyn i fwy o bobl ddewis cludiant cyhoeddus. Mae angen i'r cyngor gynnal astudiaeth
i asesu pa wasanaethau sydd eu hangen ar breswylwyr mewn gwirionedd, ac ymrwymo
i ddarparu dewisiadau amgen cystadleuol i deithio mewn car, wrth nodi targedau
i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysus (a theithio llesol) a thargedau i
leihau nifer y teithiau ceir ar ein ffyrdd. YMATEB - Aelod y Cabinet: "Mae gwasanaethau bysus i ganol y ddinas yn rhedeg ar
sail fasnachol. Nid ydynt yno i fynd â
phobl i'r siopau yn unig. Fe'u defnyddir
hefyd i gyrraedd y gwaith etc. Mae cymharu taliadau parcio ychydig yn annheg gan fod y
prisiau a ddyfynnir o ganlyniad i gynigion parcio ceir ar hyn o bryd. Mesur dros dro yw hwn i gynorthwyo
adferiad. Mae'r un
peth yn wir ar gyfer y cynnig yn y Mwmbwls; mesur dros dro ydyw. Felly, nid yw'n gymhariaeth wirioneddol i'w
chymharu â theithiau bws. Bysus i Stadiwm Liberty – mae
cwmnïau bysus yn gweithredu bysus yn bennaf lle mae galw amdanynt, gan eu bod
yn weithrediad masnachol. O ran yr arolwg cenedlaethol a gynhelir ledled yr
Iseldiroedd, nid wyf yn dweud bod hyn yn rhywbeth na
allwn ei wneud neu na ddylem ei wneud.
Byddai'r teithiau presennol a wneir yn rhoi map ffordd i ni o'r math o deithiau y mae pobl am eu gwneud. Gan ganolbwyntio ar ddefnyddwyr bysus, mae'n debyg mai ni sydd wedi cael y cyllid mwyaf ar gyfer unrhyw awdurdod
lleol yng Nghymru, i wella a chynyddu ein llwybrau teithio llesol ledled
Abertawe ac ar draws Abertawe at yr union ddiben hwnnw. Mae angen i ni newid o ddibynnu'n llwyr ar geir i fathau eraill o
drafnidiaeth – mae gwasanaethau teithio llesol a bysusus wedi'u cynnwys yn
hynny. Mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu’i
wneud er gwaethaf gwrthwynebiad mewn rhai mannau. Bydd yn ein diogelu yn y dyfodol. Er mwyn cael pobl allan
o geir mae angen i ni ddod o hyd i'r dewis amgen yn lle hynny. Mae 80 y cant o'r gwasanaethau bysus yn Abertawe yn cael eu
gweithredu gan gwmnïau masnachol. Rydym ni fel Awdurdod wedi parhau i gynnal cymhorthdal ar gyfer
gwasanaethau bysus i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau nad ydynt yn fasnachol
ddichonadwy." Rheolwr-gyfarwyddwr, First Cymru: "Nid yw'r gost yn y darlun yn gywir. Darperir llawer o ysgogiadau. Dyma'r 'sefyllfa waethaf'. Mae llawer o wasanaethau'n mynd ar draws y ddinas. Er enghraifft, mae
Gwasanaeth 25 Blaen y Maes – Dinas, yn stopio yn yr orsaf drenau ac ar Ffordd y
Brenin. Gall rhai arosfannau fod yn
brysur felly ni allwn, er enghraifft, redeg pob bws
drwy'r orsaf drenau. Byddai'n ddiddorol gofyn i'r sawl a
ofynnodd y cwestiwn am fanylion ynghylch o ble y maent yn teithio er mwyn deall
y pryder yn fwy. O ran cymudwyr, rydym yn cario llawer o weithwyr manwerthu
yn ogystal â phobl yn y diwydiant gofalu.
Mae un prif wasanaeth yn teithio o Ysbyty
Singleton i Ysbyty Treforys. Mae nifer o
wasanaethau nad ydynt yn mynd yn uniongyrchol i'r
Cwadrant at ddibenion siopa. Mae gennym feddalwedd soffistigedig iawn sy'n dangos y
defnydd o safleoedd bysus ar draws y ddinas.
Rwy'n hapus i rannu rhagor o wybodaeth â’r gweithgor am ble y mae pobl yn teithio yn y ddinas, a all eich helpu ar y
sefyllfa honno. Abertawe yw un o'r dinasoedd mwyaf
prysur rwyf wedi'i gweld yng Nghymru. O
ystyried agenda Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd, mae
angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb am geisio symud pobl i gludiant
cyhoeddus. Yr un her sydd gennym fel diwydiant
yw ei bod wedi lleihau. Mae nifer y bobl
sydd bellach yn teithio ar fws wedi gostwng yn ddramatig. Bob degawd gwelwn farchnad sy'n lleihau, yn
enwedig ymhlith y genhedlaeth iau y mae gan lawer
ohonynt eu cerbydau eu hunain. Er mwyn delio â'r agenda newid yn yr hinsawdd, mae angen newid moddol.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfrannu drwy wella’n cerbydau,
cael y cerbydau mwyaf effeithlon a defnyddio technoleg ar ein cerbydau i
wella'r agenda hinsawdd, ond mae perygl enfawr yng
Nghymru gan nad ydym wedi cael buddsoddiad fel lleoedd eraill. Mae angen i ni symud
ymlaen yn gynyddol yn fy marn i."
Pennaeth Priffyrdd a Chludiant: "Mae llawer o waith parhaus yn cael ei wneud fel
awdurdod ac yn rhanbarthol ar y Metro gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth
Cymru, ac mae ymrwymiad cryf o ran newid moddol i
gludiant cyhoeddus o ansawdd uchel. Mae
llawer o ddatblygiad yn mynd rhagddo i weld sut gallwn integreiddio'n iawn
rhwng dulliau teithio, tocynnau etc. Rydym yn gweithio gyda First Cymru i edrych ar heriau ar y
rhwydwaith yn rheolaidd. O ran teithio llesol, mae gan yr
awdurdod ymrwymiad cryf iawn. Mae'n
bwysig bod pawb yn cefnogi'r math hwnnw o symudiad. Er enghraifft, wrth Bont Pentre Road a
Thre-gŵyr, rydym yn ceisio darparu lle diogel i bawb ei ddefnyddio ond mae pobl wedi gwrthwynebu hyn. Mae angen i ni newid
calonnau a meddyliau er mwyn i bobl gefnogi ein cynlluniau." CWESTIWN 2: (codwyd y cwestiwn hwn gan 4 aelod o'r cyhoedd) Parthed Gwasanaeth Bws Llandeilo Ferwallt. Rhif 14: Pennard i Abertawe Dyma ein HUNIG fws gyda chyswllt uniongyrchol ag Abertawe. Mae'n bwysig ei fod yn rheolaidd ac os yw'n hwyr, mae'n
bwysig nad yw'n osgoi dod drwy Landeilo Ferwallt a
Murton. (Roeddwn i'n aros yn Llandeilo Ferwallt yn ddiweddar ac ni ddaeth y bws, ond roedd fy ffrind wedi gallu mynd ar y
bws yn Mayals a oedd ar amser. Yn amlwg,
penderfynodd y gyrrwr BEIDIO â chymryd llwybr Llandeilo Ferwallt). Dylem gael gwasanaeth bob awr sy'n
mynd i'r ysbyty ar bob taith, sy'n ddibynadwy ac sydd mor brydlon â phosib. YMATEB – Rheolwr-gyfarwyddwr, First Cymru: "Rydym wedi cael llawer o adborth ar y llwybr hwn. Y pethau sylfaenol y dylid eu disgwyl yw y
dylai'r bws fod yn brydlon ac na fyddai disgwyl iddo
golli rhannau o lwybrau. Bydd yn
ddiddorol cael manylion llawn y cwestiwn hwn (ynglŷn â'r bws yn colli Llandeilo
Ferwallt) er mwyn ymchwilio'n llawn i'r pryder hwn. Mae'n un o'r gwasanaethau nad yw'n
talu holl gostau amser gyrwyr heb sôn am gost cerbydau, tanwydd a chynnal a
chadw. Nid yw hynny hyd yn oed yn
ystyried y potensial i wneud elw. Mae angen
i ni naill ai edrych ar gynyddu nawdd ar y cerbyd neu
ystyried sut y gallwn gynnig y gwasanaeth hwn mewn ffordd wahanol. Mae llawer o enghreifftiau ohonom yn dangos
ein bod yn arloesol. Hoffem edrych ar y
gwasanaeth hwn ychydig yn fanylach ac ystyried ai'r bws gwasanaeth ar ei ffurf
bresennol yw'r ateb gorau. Rydym yn
ymrwymedig i weithio gyda'r awdurdod lleol i edrych ar atebion amgen i'r cynnig
penodol hwnnw a gweld a allwn wella'r cynnig i'r
cwsmer sy'n bodloni'r galw a'r goblygiadau cost i'r cwmni." Cynullydd y Gweithgor: "Hapus i gwrdd â First Cymru am hyn y tu allan i'r cyfarfod." Aelod y Cabinet: "Llwybr masnachol yw hwn felly nid yw'n ymwneud yn
uniongyrchol â ni ond byddwn yn ceisio cwrdd â First
Cymru a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen." Cynghorydd Pennard: "Os oes unrhyw gyfarfodydd am Rif 14 hoffwn gael fy nghynnwys."
"Mae llawer o bobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r bws
oherwydd bod yr amserlen yn ddryslyd.
Felly mae angen i beth bynnag a ddefnyddiwn fod
yn rheolaidd." Rheolwr Gyfarwyddwr, First Cymru: "Ar hyn o bryd rydym yn cludo tua 130 o deithwyr y dydd
ar y gwasanaeth hwn. Dros y 18 mis
diwethaf nid yw'r gwasanaeth wedi bod yn rheolaidd oherwydd COVID. Rydym yn benderfynol y byddwn yn gwella cyfathrebiad â chwsmeriaid pan fyddwn yn dod allan o hyn. Mae cynyddu nifer y cwsmeriaid ar ein holl wasanaethau yn bwysig i mi." |
|
Cyflwyniad gan fysus First Cymru Gwahoddwyd:
Cofnodion: Cyflwynodd Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru drosolwg o'r cwmni i'r Gweithgor. |
|
Cyflwyniad gan gwmni Cardiff Bus/Bws Caerdydd Gwahoddwyd:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Lay, Cadeirydd a'r Cynghorydd Hill-John, Is-gadeirydd drosolwg o Bws Caerdydd i'r Gweithgor gan gynnwys pwy ydynt, sut mae'n gweithio, heriau, manteision a'r dyfodol. |
|
Adroddiad Gwasanaethau Bysus PDF 187 KB Gwahoddwyd:
Cofnodion: Roedd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant a Cath Swain, Rheolwr yr Uned Drafnidiaeth Integredig yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod yr awdurdod lleol yn gallu ystyried dilyn llwybr drwy ddull â chymhorthdal os na all gweithredwr masnachol wneud hynny. Mae'r awdurdod lleol hefyd yn cefnogi trafnidiaeth gymunedol drwy ddulliau â chymhorthdal. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet nad yw'r awdurdod lleol yn gallu rhedeg ei wasanaethau bysus ei hun ar hyn o bryd. |
|
Trafodaeth a Chasgliadau Gofynnwyd i Gynghorwyr drafod
casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i Aelod
y Cabinet neu, os yw'n briodol, adroddiad i'r Cabinet:
Cofnodion: Cododd aelodau'r Gweithgor nifer o gwestiynau y gwnaeth First Cymru, Bws
Caerdydd, yr Aelod Cabinet a swyddogion ymateb iddynt. Trafodwyd y prif faterion canlynol:
Yna
trafododd Aelodau'r Gweithgor gynnydd a gwnaed y casgliadau a'r argymhellion
canlynol:
Yn dilyn y
cyfarfod hwn: Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth
gynullydd y gweithgor at Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn
amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor. |
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 07 Gorffenaf 2021) PDF 508 KB |