Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Paul Lloyd gysylltiad personol.

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y

diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud

ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10

munud.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiynau canlynol gan aelodau o'r cyhoedd:

 

CWESTIWN 1:

 

Yng Nghyfrifiad 2011, Abertawe oedd â'r gyfran isaf o deithiau byr a wnaed gan gludiant cyhoeddus yn y DU gyfan. Mae gennym rwydwaith bysus nad yw'n gwneud llawer mwy na mynd â phobl i ganolfan siopa sydd ag ychydig iawn o siopau, y mae llai a llai o bobl am fynd iddynt. Mae'n costio £2 i barcio yng nghanol y ddinas drwy'r dydd ond mae'n costio £5 i 1 person fynd yno ar fws. Mae'n costio £4 i barcio yn y Mwmbwls am 3 awr, ac eto mae'n costio £5 i 1 person fynd yno ar fws.

 

Nid oes gan y rhan fwyaf o'r ddinas wasanaethau bysus uniongyrchol i'r orsaf drenau na Stadiwm Liberty ar ddiwrnodau gêm. Mae arnom angen gwasanaethau bysus uniongyrchol sy'n cysylltu gwahanol rannau o'r ddinas. Rhaid i ni symud oddi wrth y syniad bod yn rhaid i bob bws fynd i'r Cwadrant.

 

Mae'r Iseldiroedd wedi cynnal arolwg teithio cenedl bob blwyddyn ers 1978. Gofynnir i ddinasyddion gofnodi pob taith maent yn mynd arni, a defnyddir yr wybodaeth hon i helpu i sicrhau bod dewisiadau amgen dichonadwy ar gael yn lle teithio mewn car.

 

Yn hytrach na chanolbwyntio ar brofiad defnyddwyr bysus, dylai'r cyngor newid ei ffocws i'r mwyafrif llethol nad ydynt yn ddefnyddwyr bysus, a phenderfynu pa newidiadau sydd eu hangen er mwyn i fwy o bobl ddewis cludiant cyhoeddus. Mae angen i'r cyngor gynnal astudiaeth i asesu pa wasanaethau sydd eu hangen ar breswylwyr mewn gwirionedd, ac ymrwymo i ddarparu dewisiadau amgen cystadleuol i deithio mewn car, wrth nodi targedau i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysus (a theithio llesol) a thargedau i leihau nifer y teithiau ceir ar ein ffyrdd.

 

YMATEB -

 

Aelod y Cabinet:

"Mae gwasanaethau bysus i ganol y ddinas yn rhedeg ar sail fasnachol.  Nid ydynt yno i fynd â phobl i'r siopau yn unig.  Fe'u defnyddir hefyd i gyrraedd y gwaith etc. 

 

Mae cymharu taliadau parcio ychydig yn annheg gan fod y prisiau a ddyfynnir o ganlyniad i gynigion parcio ceir ar hyn o bryd.  Mesur dros dro yw hwn i gynorthwyo adferiad.  Mae'r un peth yn wir ar gyfer y cynnig yn y Mwmbwls; mesur dros dro ydyw.  Felly, nid yw'n gymhariaeth wirioneddol i'w chymharu â theithiau bws.

 

Bysus i Stadiwm Liberty – mae cwmnïau bysus yn gweithredu bysus yn bennaf lle mae galw amdanynt, gan eu bod yn weithrediad masnachol.

 

O ran yr arolwg cenedlaethol a gynhelir ledled yr Iseldiroedd, nid wyf yn dweud bod hyn yn rhywbeth na allwn ei wneud neu na ddylem ei wneud.  Byddai'r teithiau presennol a wneir yn rhoi map ffordd i ni o'r math o deithiau y mae pobl am eu gwneud.    

 

Gan ganolbwyntio ar ddefnyddwyr bysus, mae'n debyg mai ni sydd wedi cael y cyllid mwyaf ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, i wella a chynyddu ein llwybrau teithio llesol ledled Abertawe ac ar draws Abertawe at yr union ddiben hwnnw. Mae angen i ni newid o ddibynnu'n llwyr ar geir i fathau eraill o drafnidiaeth – mae gwasanaethau teithio llesol a bysusus wedi'u cynnwys yn hynny.  Mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu’i wneud er gwaethaf gwrthwynebiad mewn rhai mannau.  Bydd yn ein diogelu yn y dyfodol.  Er mwyn cael pobl allan o geir mae angen i ni ddod o hyd i'r dewis amgen yn lle hynny.

 

Mae 80 y cant o'r gwasanaethau bysus yn Abertawe yn cael eu gweithredu gan gwmnïau masnachol.  Rydym ni fel Awdurdod wedi parhau i gynnal cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bysus i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau nad ydynt yn fasnachol ddichonadwy."

 

Rheolwr-gyfarwyddwr, First Cymru:

"Nid yw'r gost yn y darlun yn gywir.  Darperir llawer o ysgogiadau.  Dyma'r 'sefyllfa waethaf'. 

 

Mae llawer o wasanaethau'n mynd ar draws y ddinas.  Er enghraifft, mae Gwasanaeth 25 Blaen y Maes – Dinas, yn stopio yn yr orsaf drenau ac ar Ffordd y Brenin.  Gall rhai arosfannau fod yn brysur felly ni allwn, er enghraifft, redeg pob bws drwy'r orsaf drenau. 

 

Byddai'n ddiddorol gofyn i'r sawl a ofynnodd y cwestiwn am fanylion ynghylch o ble y maent yn teithio er mwyn deall y pryder yn fwy. 

 

O ran cymudwyr, rydym yn cario llawer o weithwyr manwerthu yn ogystal â phobl yn y diwydiant gofalu.  Mae un prif wasanaeth yn teithio o Ysbyty Singleton i Ysbyty Treforys.  Mae nifer o wasanaethau nad ydynt yn mynd yn uniongyrchol i'r Cwadrant at ddibenion siopa.

 

Mae gennym feddalwedd soffistigedig iawn sy'n dangos y defnydd o safleoedd bysus ar draws y ddinas.  Rwy'n hapus i rannu rhagor o wybodaeth â’r gweithgor am ble y mae pobl yn teithio yn y ddinas, a all eich helpu ar y sefyllfa honno.

 

Abertawe yw un o'r dinasoedd mwyaf prysur rwyf wedi'i gweld yng Nghymru.  O ystyried agenda Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd, mae angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb am geisio symud pobl i gludiant cyhoeddus. 

 

Yr un her sydd gennym fel diwydiant yw ei bod wedi lleihau.  Mae nifer y bobl sydd bellach yn teithio ar fws wedi gostwng yn ddramatig.  Bob degawd gwelwn farchnad sy'n lleihau, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth iau y mae gan lawer ohonynt eu cerbydau eu hunain.

 

Er mwyn delio â'r agenda newid yn yr hinsawdd, mae angen newid moddol.  Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfrannu drwy wella’n cerbydau, cael y cerbydau mwyaf effeithlon a defnyddio technoleg ar ein cerbydau i wella'r agenda hinsawdd, ond mae perygl enfawr yng Nghymru gan nad ydym wedi cael buddsoddiad fel lleoedd eraill.  Mae angen i ni symud ymlaen yn gynyddol yn fy marn i."   

 

Pennaeth Priffyrdd a Chludiant: 

"Mae llawer o waith parhaus yn cael ei wneud fel awdurdod ac yn rhanbarthol ar y Metro gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, ac mae ymrwymiad cryf o ran newid moddol i gludiant cyhoeddus o ansawdd uchel.  Mae llawer o ddatblygiad yn mynd rhagddo i weld sut gallwn integreiddio'n iawn rhwng dulliau teithio, tocynnau etc. 

 

Rydym yn gweithio gyda First Cymru i edrych ar heriau ar y rhwydwaith yn rheolaidd. 

 

O ran teithio llesol, mae gan yr awdurdod ymrwymiad cryf iawn.  Mae'n bwysig bod pawb yn cefnogi'r math hwnnw o symudiad.  Er enghraifft, wrth Bont Pentre Road a Thre-gŵyr, rydym yn ceisio darparu lle diogel i bawb ei ddefnyddio ond mae pobl wedi gwrthwynebu hyn.  Mae angen i ni newid calonnau a meddyliau er mwyn i bobl gefnogi ein cynlluniau." 

 

 

CWESTIWN 2: (codwyd y cwestiwn hwn gan 4 aelod o'r cyhoedd)

 

Parthed Gwasanaeth Bws Llandeilo Ferwallt.  Rhif 14: Pennard i Abertawe

 

Dyma ein HUNIG fws gyda chyswllt uniongyrchol ag Abertawe.

 

Mae'n bwysig ei fod yn rheolaidd ac os yw'n hwyr, mae'n bwysig nad yw'n osgoi dod drwy Landeilo Ferwallt a Murton. (Roeddwn i'n aros yn Llandeilo Ferwallt yn ddiweddar ac ni ddaeth y bws, ond roedd fy ffrind wedi gallu mynd ar y bws yn Mayals a oedd ar amser.  Yn amlwg, penderfynodd y gyrrwr BEIDIO â chymryd llwybr Llandeilo Ferwallt).

 

Dylem gael gwasanaeth bob awr sy'n mynd i'r ysbyty ar bob taith, sy'n ddibynadwy ac sydd mor brydlon â phosib.

 

YMATEB –

 

Rheolwr-gyfarwyddwr, First Cymru:

"Rydym wedi cael llawer o adborth ar y llwybr hwn.  Y pethau sylfaenol y dylid eu disgwyl yw y dylai'r bws fod yn brydlon ac na fyddai disgwyl iddo golli rhannau o lwybrau.  Bydd yn ddiddorol cael manylion llawn y cwestiwn hwn (ynglŷn â'r bws yn colli Llandeilo Ferwallt) er mwyn ymchwilio'n llawn i'r pryder hwn. 

 

Mae'n un o'r gwasanaethau nad yw'n talu holl gostau amser gyrwyr heb sôn am gost cerbydau, tanwydd a chynnal a chadw.  Nid yw hynny hyd yn oed yn ystyried y potensial i wneud elw.  Mae angen i ni naill ai edrych ar gynyddu nawdd ar y cerbyd neu ystyried sut y gallwn gynnig y gwasanaeth hwn mewn ffordd wahanol.  Mae llawer o enghreifftiau ohonom yn dangos ein bod yn arloesol.  Hoffem edrych ar y gwasanaeth hwn ychydig yn fanylach ac ystyried ai'r bws gwasanaeth ar ei ffurf bresennol yw'r ateb gorau.  Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'r awdurdod lleol i edrych ar atebion amgen i'r cynnig penodol hwnnw a gweld a allwn wella'r cynnig i'r cwsmer sy'n bodloni'r galw a'r goblygiadau cost i'r cwmni."

 

Cynullydd y Gweithgor:

"Hapus i gwrdd â First Cymru am hyn y tu allan i'r cyfarfod."

 

Aelod y Cabinet:

"Llwybr masnachol yw hwn felly nid yw'n ymwneud yn uniongyrchol â ni ond byddwn yn ceisio cwrdd â First Cymru a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen."

 

Cynghorydd Pennard:

"Os oes unrhyw gyfarfodydd am Rif 14 hoffwn gael fy nghynnwys." 

 

"Mae llawer o bobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r bws oherwydd bod yr amserlen yn ddryslyd.  Felly mae angen i beth bynnag a ddefnyddiwn fod yn rheolaidd." 

 

Rheolwr Gyfarwyddwr, First Cymru:

"Ar hyn o bryd rydym yn cludo tua 130 o deithwyr y dydd ar y gwasanaeth hwn.  Dros y 18 mis diwethaf nid yw'r gwasanaeth wedi bod yn rheolaidd oherwydd COVID. 

 

Rydym yn benderfynol y byddwn yn gwella cyfathrebiad â chwsmeriaid pan fyddwn yn dod allan o hyn.  Mae cynyddu nifer y cwsmeriaid ar ein holl wasanaethau yn bwysig i mi." 

4.

Cyflwyniad gan fysus First Cymru

Gwahoddwyd:

 

  • Jane Reakes-Davies, Rheolwr-gyfarwyddwr Bysus First Cymru
  • Owen Williams, Cyfarwyddwr Masnachol Bysus First Cymru

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Jane Reakes-Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru drosolwg o'r cwmni i'r Gweithgor.

5.

Cyflwyniad gan gwmni Cardiff Bus/Bws Caerdydd

Gwahoddwyd:

  • Christopher Lay, Cadeirydd Cardiff Bus/Bws Caerdydd
  • Gavin Hill-John, Is-gadeirydd Cardiff Bus/Bws Caerdydd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lay, Cadeirydd a'r Cynghorydd Hill-John, Is-gadeirydd drosolwg o Bws Caerdydd i'r Gweithgor gan gynnwys pwy ydynt, sut mae'n gweithio, heriau, manteision a'r dyfodol.

 

6.

Adroddiad Gwasanaethau Bysus pdf eicon PDF 187 KB

Gwahoddwyd:

  • Mark Thomas, Aelod y Cabinet - Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd
  • Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd
  • Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant,
  • Cath Swain, Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig

 

Cofnodion:

Roedd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant a Cath Swain, Rheolwr yr Uned Drafnidiaeth Integredig yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod yr awdurdod lleol yn gallu ystyried dilyn llwybr drwy ddull â chymhorthdal os na all gweithredwr masnachol wneud hynny.  Mae'r awdurdod lleol hefyd yn cefnogi trafnidiaeth gymunedol drwy ddulliau â chymhorthdal.  Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet nad yw'r awdurdod lleol yn gallu rhedeg ei wasanaethau bysus ei hun ar hyn o bryd.   

 

7.

Trafodaeth a Chasgliadau

Gofynnwyd i Gynghorwyr drafod casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i Aelod y Cabinet neu, os yw'n briodol, adroddiad i'r Cabinet:

 

  1. Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?
  2. Oes gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r sesiwn hon?
  3. Oes unrhyw faterion pellach yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt sy'n codi o'r sesiwn hon?

 

Cofnodion:

Cododd aelodau'r Gweithgor nifer o gwestiynau y gwnaeth First Cymru, Bws Caerdydd, yr Aelod Cabinet a swyddogion ymateb iddynt.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Nododd yr Aelodau bwysigrwydd cael gwasanaeth bws rheolaidd i bob ardal i fynd i'r afael ag unigedd preswylwyr. 
  • Teimlai'r Aelodau y defnyddiwyd cyllid teithio llesol i'w gwneud yn haws i bobl feicio neu gerdded, ond nid yw pawb yn gallu gwneud hyn ac mai hygyrchedd yw'r prif bwynt, i'r henoed etc.
  • Teimlai'r Aelodau'n gryf fod bysus yn wasanaeth pwysig ac os ydym am gael newid moddol, rhaid i gludiant cyhoeddus fod yn asgwrn cefn i'r hyn yr ydym yn mynd i'w wneud.
  • Teimlai'r Aelodau fod angen mwy o ddeialog rhwng cynghorwyr a chwmnïau bysus, yn enwedig First Cymru, i drafod lle y gellir gwneud rhai newidiadau er budd preswylwyr Abertawe a helpu cwmnïau bysus i gynyddu nifer y teithwyr. 
  • Teimlai'r Aelodau hefyd fod angen gofyn pam nad yw pobl yn dal bysus a pham mae'r niferoedd yn lleihau, ac mae'r angen i wrando ar wybodaeth leol hefyd yr un mor bwysig.  Cadarnhaodd cynrychiolydd First Cymru ei bod yn awyddus i siarad â chynghorwyr a swyddogion perthnasol am rai gwasanaethau, yn enwedig Gwasanaeth 14 a 29 ac am gynyddu nawdd.    
  • Dywedodd Cadeirydd Bws Caerdydd fod angen i ni roi cyhoeddusrwydd i'n cwsmeriaid ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud yn iawn gyda chludiant cyhoeddus yn Abertawe, er enghraifft, pa mor gyflym y gallwch fynd i ganol y ddinas ar fws yn ystod adegau prysur o gymharu â char.  
  • Holodd yr Aelodau sut mae First Cymru yn cyfrifo'i bris wrth dendro i'r cyngor am lwybrau tendro agored â chymhorthdal.  Cadarnhaodd First Cymru eu bod yn edrych ar gost y gwasanaeth penodol hwnnw, yn seiliedig ar y gyrrwr, y cerbyd, nifer yr oriau gyrru, costau tanwydd a chynnal a chadw a etc. 
  • Holodd yr Aelodau sut y mae Bws Caerdydd yn pennu eu prisiau.  Cadarnhawyd eu bod yn eu pennu ar sail fasnachol.  Maent yn edrych ar brisiau eu cystadleuwyr, ac yn edrych ar eu costau mewnol eu hunain ac yn cynnig pris.  Mae ganddynt nifer o gystadleuwyr sy'n tueddu i weithredu ar y llwybrau mwy proffidiol ac mae Bws Caerdydd yn cymharu ei brisiau â nhw. 
  • Cododd yr Aelodau mater  ansawdd aer.  Roeddent yn falch o glywed bod First Cymru wedi ymrwymo i ddod yn weithredwr aer glân erbyn 2035 ac i roi'r gorau i ddefnyddio pob cerbyd diesel o 2025.  Dywedodd First Cymru fod rhai cerbydau trydan, mewn rhannau eraill o Gymru, wedi'u hariannu gan gronfa'r Adran Drafnidiaeth ar gyfer ardaloedd a ddiffinnir fel parthau awyr glân (gan gynnwys Caerdydd).  Fodd bynnag, nid oes unrhyw un o'r ardaloedd hyn yn ardal weithredu First Cymru, sy'n golygu nad ydynt wedi gallu gwneud cais am gerbydau o'r fath.
  • Dywedodd yr Aelodau fod bysus mewn rhai lleoedd, fel Caerwysg, yn diffodd peiriannau wrth stopio wrth oleuadau traffig coch nes bod goleuadau'n troi’n wyrdd.  Holwyd First Cymru a yw hyn yn rhywbeth y maent wedi meddwl amdano ac yn barod i'w gyflwyno, oherwydd o safbwynt allyriadau byddai'n gam aruthrol i'r cyfeiriad cywir. 
  • Gofynnodd yr Aelodau i First Cymru am enghreifftiau o gymhellion tocynnau y maent yn eu cynnig.  Teimlai'r Aelodau y dylai cymhellion fod ar gael drwy ddulliau eraill ac nid drwy ap ffonau symudol yn unig.   Dywedodd First Cymru eu bod yn agored eu meddwl i edrych ar gynigion tocynnau. 
  • Cododd yr Aelodau mater trosglwyddo tocynnau a holwyd pam na all pob gweithredwr dderbyn tocynnau.  Ymatebodd First Cymru fod hyn yn uchel ar yr agenda ar gyfer Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.  Ar hyn o bryd nid oes systemau clir y mae pob gweithredwr yn eu defnyddio.  Mae First Cymru'n credu bod hyn yn rhywbeth a gaiff ei gyflwyno fel rhan o ddiwygio bysus.
  • Gofynnodd yr Aelodau i First Cymru a fyddant yn ystyried gwneud llwybrau cylchol yn Abertawe.  Ymatebodd First Cymru gan ddweud eu bod yn awyddus i ddeall mwy am hyn a byddai angen ei drafod y tu allan i'r cyfarfod. 
  • Holodd yr Aelodau am y gwahaniaeth yng nghostau teithio, am yr un hyd o daith, yng Nghaerdydd ac Abertawe.  Dywedwyd bod hyn yn anodd ei ateb gan fod pob ardal yn cynnig ysgogiadau gwahanol. 
  • Teimlai'r Aelodau fod nifer o ardaloedd lle gellir manteisio i'r eithaf ar y gwasanaethau bysus a ddarperir, er enghraifft nawdd.  Roeddent hefyd yn teimlo nad oes unrhyw feddwl cydlynol rhwng amserau bysus a threnau a gofynnwyd a all yr awdurdod archwilio ble y gellir cydlynu gwasanaethau, er enghraifft, canolfannau trafnidiaeth a throsglwyddo tocynnau ar gyfer bysus rheilffordd.  Nododd First Cymru fod hyn yn rhwystredigaeth iddynt am eu bod wedi gweithio gyda chwmnïau trenau i alinio gwasanaethau ond nawr mae amserlenni wedi newid.  Hefyd, lle'r oeddent wedi gweld canolfannau trafnidiaeth yn cael eu cyflwyno, er enghraifft Port Talbot, nid oeddent wedi denu nifer y bobl yr oeddent yn ei ddisgwyl i ddefnyddio bysus.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod yr Awdurdod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer astudiaethau dichonoldeb i edrych ar ganolfannau ym Mhontarddulais a Thre-gŵyr i'w gwneud yn fwy hygyrch i fysus gyrraedd yr orsaf. 
  • Ychwanegodd First Cymru fod Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gael y system deithio integredig hon a bydd First Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i weithio gyda nhw ar yr agenda hon wrth symud ymlaen. Dywedodd swyddogion mai integreiddio yw'r flaenoriaeth y mae'r metro'n ceisio'i chyflawni, i gael llwybrau beicio a cherdded etc. yn y canolfannau, a bydd y Metro'n datblygu'r holl bethau hyn.    
  • Awgrymodd Bws Caerdydd i'r Aelodau, os ydynt wir am weld newid i wasanaethau bysus yn Abertawe, fod gwir angen iddynt annog yr awdurdod i weithio gyda First Cymru i symud bysus o amgylch y ddinas mor hawdd â phosib a gwella'r isadeiledd, oherwydd er mwyn cynyddu nawdd mae angen cynyddu dibynadwyedd. 

 

Yna trafododd Aelodau'r Gweithgor gynnydd a gwnaed y casgliadau a'r argymhellion canlynol:

 

 

  1.  Hoffem ddiolch i'r holl yrwyr bysus a phersonél sydd wedi parhau i weithio drwy'r pandemig a chludo gweithwyr allweddol i'w swyddi. Maent wedi chwarae rhan hanfodol.

 

  1. Hoffem bwysleisio pwysigrwydd cwmnïau bysus a chludiant cyhoeddus yn cyfrannu'n fwy cyffredinol at leihau allyriadau carbon.  Rydym yn disgwyl i'n cwmnïau bysus symud oddi wrth danwydd ffosil yn gyflym ac yn llwyr.  Dywedwyd wrthym y byddai First Cymru yn weithredwr aer glân erbyn 2035.  A allant geisio symud yn gyflymach a chyflawni hyn erbyn 2030, fel eu bod yn gwneud cyfraniad yn unol ag ymrwymiad Cyngor Abertawe i fod yn sero net erbyn 2030.

 

  1. Teimlwn fod angen gwasanaethau bysus rheolaidd i bob rhan o Abertawe.  Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn lleihau unigedd a dechrau symud oddi wrth ddefnyddio ceir i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

 

  1. Rydym yn argymell y dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng Aelodau a First Cymru i godi a thrafod materion fel newidiadau i lwybrau, amserlenni, cynyddu nawdd etc. a gofynnwn i hyn gael ei drefnu. 

 

  1. Os bydd newid moddol, teimlwn fod angen i Aelodau etholedig gymryd rhan mewn trafodaethau ar sut y bydd yr awdurdod yn gwneud hyn.  Hoffem gael sicrwydd gennych ynglŷn â hyn.

 

  1. Teimlwn ei bod yn bwysig iawn i'r awdurdod a chwmnïau bysus wrando ar bobl nad ydynt yn defnyddio bysus yn Abertawe ar hyn o bryd, yn ogystal â phobl sy'n gwneud hynny, i helpu i lunio gwasanaethau bysus ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

 

  1. Hoffem weld cwmnïau bysus yn cynnig mwy o gymhellion ar gyfer teithio rheolaidd ac yn cynnig cymhellion mewn nifer o ffurfiau, nid yn unig drwy apiau ffonau symudol.

 

  1. Teimlwn nad oes cydlyniad rhwng amserau bysus a rheilffyrdd, a gofynnwn i'r awdurdod archwilio ble y gellir cydlynu gwasanaethau.  Roeddem yn falch o glywed bod dwy astudiaeth dichonoldeb yn cael eu cynnal i edrych ar ganolfannau trafnidiaeth mewn dwy ardal yn Abertawe ond mae angen gwneud llawer mwy.

 

  1. Hoffem bwysleisio pwysigrwydd cyflwyno opsiwn trosglwyddo tocynnau rhwng gweithredwyr bysus a bysus a rheilffyrdd er hwylustod preswylwyr Abertawe ac i gynyddu nawdd.  Hoffem gael sicrwydd bod yr awdurdod yn gwneud popeth o fewn ei allu i symud yr agenda diwygio teithio yn ei blaen gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru cyn gynted â phosib.

 

  1. Cytunwn â'r awgrym gan Bws Caerdydd bod yr awdurdod a First Cymru yn cydweithio i symud bysus o amgylch y ddinas mor hawdd â phosib, er mwyn helpu i wella dibynadwyedd.  Gan mai dim ond ychydig o ffyrdd sydd i mewn ac allan o Abertawe, bydd pwyntiau tagfeydd bob amser yn broblem.  Teimlwn y bydd angen gwella lonydd bysus i helpu i oresgyn hyn. 

 

  1. Rydym yn pryderu bod pwyllgor craffu wedi llunio adroddiad tua 2012/13 a oedd yn trafod llawer o'r un problemau ac a ddaeth i'r un casgliadau â'r Gweithgor hwn ond, yn anffodus, ni chymerwyd unrhyw gamau.  Gobeithiwn y bydd yr awdurdod yn awr yn gwrando ar ein pryderon ac yn gweithio tuag at gyflawni atebion.

 

  1. Byddwn yn argymell i Bwyllgor y Rhaglen Graffu y dylid cynnal cyfarfod dilynol o'r Gweithgor hwn ymhen chwe mis i weld pa newidiadau/welliannau a wnaed, ac yn dilyn hynny benderfynu a oes angen i'r Gweithgor gyfarfod eto chwe mis ar ôl hynny.  Credwn ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn gweld newidiadau cadarnhaol yn digwydd er budd preswylwyr Abertawe. 

 

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y gweithgor at Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor.

 

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 340 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 07 Gorffenaf 2021) pdf eicon PDF 508 KB