Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Llythyrau o gyfarfodydd blaenorol pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Gweithgor y llythyrau o'r cyfarfod blaenorol a nododd ei argymhellion blaenorol ac ymateb Aelodau'r Cabinet.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Adroddiad y Gweithlu pdf eicon PDF 572 KB

Gwahoddwyd:

 

David Hopkins, Aelod y Cabinet - Cyflawni a Gweithrediadau (Y Ddirprwy Arweinydd)

Andrea Lewis, Aelod y Cabinet - Cartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau (Y Ddirprwy Arweinydd)

Mark Child, Aelod y Cabinet - Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol

Andrew Stevens, Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

Adam Hill, Cyfarwyddwr Adnoddau

Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid

Geoff Bacon, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol

Rhian Millar, Cydlynydd Ymgynghori

 

Cofnodion:

Roedd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon, ynghyd â swyddogion perthnasol i roi diweddariad byr ac ateb cwestiynau.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Holodd y panel pa ganran o holl staff y cyngor sy'n gweithio gartref. Cytunodd swyddogion i ddarparu'r wybodaeth hon y tu allan i'r cyfarfod.
  • Teimlai'r panel y dylai'r cyngor gael rhagor o swyddi amser llawn yn hytrach na swyddi rhan-amser ar ben isaf y raddfa gyflog a bod gwahaniaeth yng nghanran y gweithwyr benywaidd yn y pen isaf. Ymatebodd swyddogion mai rhan o'r rheswm pam y mae strategaeth y gweithlu’n cael ei diwygio yw edrych ar amrywiaeth, cydraddoldeb, nodweddion gwarchodedig etc.
  • Holodd y panel a oedd arholiad mynediad ar gyfer swyddi yn yr adran Wastraff a dywedwyd wrtho nad oes arholiadau mynediad, ond mae gan yr Awdurdod feini prawf a phroses asesu dethol i benodi'r person gorau ar gyfer unrhyw swydd gyda'r cyngor.
  • Gofynnodd y panel a oes cyfle i gynnig swyddi gwag i staff asiantaeth sy'n cael eu cyflogi gan y cyngor dros dro i gyflenwi ar gyfer absenoldebau salwch etc. Dywedodd swyddogion fod mesurau'n cael eu cymryd i leihau nifer y gweithwyr asiantaeth a byddant yn cael cyfle i wneud cais am rolau swyddi dan hyfforddiant a rolau eraill os ydynt yn dymuno.
  • Holodd y panel sut y bydd y cyngor yn asesu ac yn rheoli gweithwyr asiantaeth yn y dyfodol a chlywodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi cael sicrwydd bod rheolwyr llinell yn cydymffurfio â pholisi gweithwyr asiantaeth a bod hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd.
  • Mae'r panel yn ymwybodol bod Polisi Dychwelyd i'r Gwaith ar gyfer salwch staff ond gofynnir a oes cyfle i aelod o staff ffonio'n ddienw a siarad â rhywun. Dywedwyd bod Iechyd Galwedigaethol yn ymdrin â llawer o ymatebion gan staff, ac mae llinell gymorth gyfrinachol Help Llaw sy'n darparu cymorth a chwnsela ond nad yw'n ddienw. Mae cyngor a chymorth dienw ar gael ar gam-drin domestig ac aflonyddu.
  • Cododd y panel fater cynllunio'r gweithlu ar gyfer y dyfodol gan fod llawer o weithwyr rhwng 40 a 60 oed a gofynnodd a oes strategaeth i 'sythu'r gromlin'. Clywodd na fydd y cyngor yn ddetholgar ond bydd yn ceisio sicrhau ei fod yn denu pob math o bobl ac anogir pobl o bob oed i wneud cais am bob swydd gan gynnwys swyddi dan hyfforddiant a phrentisiaethau.
  • Cododd y panel ymholiad ynghylch absenoldeb oherwydd salwch a beth yw'r rolau ar gyfer y bobl a benodir i rolau cymorth mewn gwahanol adrannau, a dywedwyd wrtho fod angen cymorth ychwanegol ar staff fel bod swyddogion absenoldeb salwch wedi'u penodi yn y prif gyfarwyddiaethau, a fydd yn cefnogi rheolwyr llinell ac arweinwyr tîm i sicrhau bod y polisi absenoldeb salwch yn cael ei weinyddu ac yn nodi ffyrdd rhagweithiol o leihau salwch ac atal salwch rhag digwydd yn y lle cyntaf.
  • Gofynnodd y panel i'r cyngor fynd yn ôl at gael un adran Adnoddau Dynol sy'n gyfrifol am yr holl swyddogaethau Adnoddau Dynol ac un Aelod o'r Cabinet sy'n dal y portffolio hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod rôl Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau newydd gael ei hysbysebu, a fydd yn dod â'r Adran Adnoddau Dynol, Datblygu Sefydliadol a'r Ganolfan Wasanaeth yn ôl at ei gilydd i gyd o dan un adran ac awgrymwyd y byddai hyn yn gyfle da i edrych ar sut mae hyn yn eistedd o dan un Aelod o'r Cabinet.
  • Holodd y panel pa fesurau y rhoddwyd cynnig arnynt i recriwtio rhagor o bobl i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cadarnhaodd swyddogion fod polisi recriwtio a datblygu wedi'i ddatblygu ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig, mae'n ymwneud â defnyddio gwahanol sianeli ar gyfer recriwtio, gweithio ar forâl staff a chynnig cydbwysedd gwaith/bywyd iach a hyblygrwydd.
  • Holodd y panel sut mae'r cyngor yn cefnogi’i staff sy'n gweithio gartref. Ymatebodd swyddogion mai'r cyfarwyddyd yw gweithio gartref os yw'n bosib. I'r staff hynny sy'n ei chael hi'n anodd gwneud hyn, fe'u hanogir i ddod i mewn i'r swyddfa. Mae rheolwyr wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'u staff gyda chyfarfodydd tîm, cyfarfodydd 1 i 1 etc.
  • Mynegodd y panel bryder am y costau ynni cynyddol ar gyfer staff sy'n gweithio gartref a gofynnodd a yw'r awdurdod yn cynghori staff ar sut i hawlio arian yn ôl o'r swyddfa dreth. Cadarnhaodd swyddogion fod yr wybodaeth hon ar gael yn rhwydd i staff drwy'r Polisi Gweithio Ystwyth, undebau llafur, dolen uniongyrchol ar dudalen Cwestiynau Cyffredin COVID-19 y cyngor i wefan CThEM, a grybwyllir hefyd mewn sesiynau briffio staff, yn y cylchlythyr staff ac ym mlog Phil.
  • Gofynnodd y panel am ffigurau mis Ionawr ar gyfer Iechyd Galwedigaethol a chadarnhawyd y rhain fel a ganlyn: Atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol 101 (94); Goruchwylio Iechyd 78 (52); Atgyfeiriadau Cwnsela 55 (53).
  • Roedd y panel yn deall bod y pandemig wedi arwain at ddatblygu’r polisi gwaith ystwyth a'r strategaeth llety yn sylweddol. Cadarnhaodd swyddogion fod yr Awdurdod wedi dechrau ar ei daith ar weithio ystwyth cyn y pandemig a'i fod bellach yn symud o'r ffordd y mae'n rheoli’i lety ar gyfer COVID-19 i'r ffordd y mae'n rheoli’i lety ar gyfer dyfodol y gweithlu.
  • Gofynnodd y panel am adborth ar effeithiau COVID-19 hir ar staff a'r cymorth a roddir iddynt. Hysbyswyd y panel fod protocol COVID-19 hir ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n diogelu staff rhag gostyngiadau mewn tâl salwch os ydynt yn dioddef o COVID-19 hir. Mae'r protocol hwn yn dod i ben ac mae wrthi'n cael ei adolygu i ystyried materion cydraddoldeb a thegwch ar draws unrhyw absenoldeb salwch hirdymor arall.
  • Holodd y panel a yw'r Awdurdod yn ymwybodol o nifer y staff sy'n gweithio gartref tra byddant yn sâl (yn enwedig gyda COVID-19). Dywedodd swyddogion y gallai pobl gael COVID-19 heb fod yn sâl, felly maent yn gallu gwneud eu gwaith. Os nad ydynt yn gallu gweithio, mae'r Awdurdod yn disgwyl iddynt beidio â gweithio.
  • Teimlai'r panel y byddai'n ddefnyddiol cael siop dan yr unto i gysylltu â hi os oes gan bobl nifer o gwestiynau yr hoffent iddynt gael eu hateb. Dywedwyd y gall y Ganolfan Wasanaethau ateb llawer o gwestiynau gan staff a'r cyhoedd.
  • Holodd y panel sut yr effeithiwyd ar gynhyrchiant y cyngor gan staff yn gweithio gartref a dywedwyd wrtho fod y tîm arweinyddiaeth yn teimlo'n gyffredinol, ac mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu, fod staff yn teimlo'n fwy cynhyrchiol, fodd bynnag, effeithir ar yr awdurdod gan gynhyrchiant partneriaid a sefydliadau eraill y mae'n cysylltu â hwy, a gall hyn achosi oedi.
  • Cododd aelodau'r panel nifer o ymholiadau am arolygon. Roedd yr aelodau am wybod a yw'r Awdurdod yn ystyried cynnal arolwg dilynol arall a dywedwyd wrthynt fod yr arolwg staff fel arfer yn digwydd bob blwyddyn ond efallai y bydd cyfleoedd i gynnal arolygon mwy ad hoc ar agweddau penodol.
  • Hysbyswyd y panel mai un anhawster oedd sut mae'r Awdurdod yn ymgysylltu â'i holl weithlu wrth symud ymlaen, yn enwedig gweithwyr rheng flaen; mae angen iddo ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o gysylltu â nhw. Cadarnhaodd swyddogion fod yr arolwg yn canolbwyntio mwy ar bobl sy'n gweithio gartref gan mai staff sy'n gweithio gartref oedd â'r newid mwyaf i'r ffordd y maent yn gweithio a bod llawer o staff rheng flaen yn parhau â'u swyddi.
  • Teimlai'r panel fod cyfrinachedd arolygon yn bwysig iawn a gofynnwyd iddo a oedd yr Awdurdod yn gallu sicrhau hyn. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn gyfrinachol.

 

6.

Trafodaeth a Chwestiynau

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a)    Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b)    Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c)    Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

Cofnodion:

Trafododd y gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:

 

  1. Hoffai Aelodau'r Gweithgor ddiolch unwaith eto a chydnabod gwaith caled ac ymrwymiad yr holl staff, yr uwch-dîm rheoli a phawb yn y sefydliad, sydd wedi gweithio mor galed i wneud eu gwaith a chefnogi pobl Abertawe yn ystod cyfnod anodd iawn.
  2. Teimlai Aelodau'r Gweithgor fod y sesiwn ddilynol hon yn ddefnyddiol iawn. Roeddent yn teimlo'n dawelach eu meddwl gyda'r atebion a roddwyd ac yn teimlo'n hyderus bod yr Awdurdod yn symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir o ran ei weithlu.
  3. Roedd gan Aelodau rai pryderon ynghylch y posibilrwydd nad oedd arolwg diweddar yn wir adlewyrchiad o sut mae staff yn teimlo gan fod nifer yr ymatebion yn isel. Mae'r aelodau'n teimlo bod angen i'r Awdurdod ddod o hyd i ffyrdd o gael fwy o ymateb i arolygon ond mae'n sylweddoli bod hon yn dasg anodd. Byddai aelodau'n annog swyddogion, ymysg pethau eraill, i sicrhau bod rhagor o gopïau caled o arolygon ar gael yn rhwydd; ceisio cynnig cymhellion i staff ar gyfer cwblhau arolwg; ac ystyried cynnwys rhywbeth mewn contractau gweithwyr newydd i'w hannog i gwblhau arolygon.
  4. Roedd Aelodau'r Gweithgor yn falch bod gwybodaeth am sut i hawlio arian yn ôl o'r swyddfa dreth ar gyfer gweithio gartref ar gael yn rhwydd i staff mewn gwahanol ffyrdd. Hoffent weld nodiadau atgoffa o hyn yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd fel y gall yr holl staff cymwys fanteisio arno.
  5. Roedd Aelodau'r Gweithgor yn falch iawn o glywed y bydd yr holl swyddogaethau Adnoddau Dynol yn cael eu dwyn ynghyd dan un Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaeth. Maent yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at un Aelod o'r Cabinet ar gyfer y portffolio hwn.

 

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y gweithgor at aelodau'r Cabinet, sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu syniadau ac argymhellion y gweithgor.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 2 Chwefror 2022) pdf eicon PDF 161 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 2 Chwefror 2022) pdf eicon PDF 475 KB