Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Llythyr Cynullwyr - Gweithgor Blaenorol PDF 162 KB Cofnodion: Gofynnodd y
gweithgor am yr wybodaeth ddiweddaraf am y pwyntiau allweddol a godwyd yn y
llythyr hwn ac mae'r rhain wedi'u cynnwys fel rhan o'r adran nesaf. |
|
Adroddiad Cynhwysiant Digidol PDF 327 KB Gwahoddwyd: Andrew Stevens, Aelod y Cabinet - Trawsnewid
Busnes a Pherfformiad Louise Gibbard,
Cabinet Member – Better Communities Allyson Pugh, Cabinet
Member – Better Communities Adam Hill, Cyfarwyddwr Adnoddau Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid Liz Shellard, Web
Development Manager, Digital and Transformation Services Cofnodion: Mae'r adroddiad
hwn yn rhoi trosolwg o'r gwaith a wnaed i gynyddu cynhwysiad digidol cyn ac yn
ystod y pandemig, y gwaith sydd eisoes wedi'i
gynllunio ar gyfer 2021/22 ac edrych i'r dyfodol, ar ôl COVID-19. Mae llawer o
resymau da dros fod ar-lein ond amlygwyd y manteision hyn yn ystod y
cyfyngiadau symud. Gall bod ar-lein wella cyfleoedd bywyd pobl yn sylweddol
drwy: helpu pobl i ddod o hyd i waith; cynnig gwell cyfleoedd dysgu; cael
gafael ar nwyddau a gwasanaethau rhatach ar-lein; lleihau unigrwydd ac
arwahanrwydd, yn enwedig i'r rhai mwyaf diamddiffyn; a bod yn rhan o gymunedau
digidol, sy'n gwella canlyniadau lleol drwy weithgareddau a mentrau cydgysylltiedig. Roedd y gwaith o
2018 i ddechrau'r pandemig yn cynnwys y canlynol: ·
Cyflwynwyd
Fframwaith Strategol Cynhwysiad Digidol drafft i'r Gweithgor Cynhwysiad
Ariannol ym mis Tachwedd 2019. Defnyddiodd y fframwaith y data a'r wybodaeth
ddiweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Amlygodd hyn fod gan
Abertawe niferoedd uchel iawn o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac yn uwch fel
canran na chyfartaleddau Cymru a'r DU. Er nid oedd hyn yn golygu nad oes
problem gyda chynhwysiad digidol. Fodd bynnag, ers hynny mae COVID-19 wedi bod
yn flaenllaw drwy gydol 2020 ac i mewn i 2021 a bydd wedi effeithio ar y tirlun
cynhwysiad digidol. Mae hyn yn golygu bod y defnydd o sianeli digidol wedi
cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfnod hwn. ·
Dilynodd
454 o bobl gyrsiau tabled a chyfrifiadur am ddim Dewch Ar-Lein Abertawe yn
2018/19 a 302 yn 2019/20 ·
Mae Learn My Way yn
gyfres o gyrsiau ar-lein byr a diddorol sy'n hyfforddi dysgwyr ar dasgau fel
defnyddio llygoden a bysellfwrdd, ymwybyddiaeth o weithredoedd twyllodrus a
diogelwch i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu fancio a siopa ar-lein Roedd gwaith ar
gynhwysiad digidol yn ystod pandemig COVID-19 yn
cynnwys y canlynol: ·
Pan
ddechreuodd y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020 roedd angen sicrhau
bod gan staff y cyfarpar, y sgiliau digidol a'r mynediad at fand eang i weithio
gartref. ·
I'r
cyhoedd cyffredinol sydd wedi'u heithrio'n ddigidol yn Abertawe, sefydlwyd
dulliau cefnogi all-lein ac roedd y cynnig i helpu i fynd ar-lein ar gael drwy
sianeli amrywiol. ·
Roedd
hyn yn cynnwys cynhwysiad digidol i staff, cymorth i breswylwyr a oedd yn
gwarchod, cymorth i breswylwyr mewn perthynas ag addysg, cyflogadwyedd, camau
bywyd gan gynnwys 50+, Dysgu Gydol Oes. ·
Darparwyd
hefyd hyfforddiant digidol ar draws sefydliadau partner ·
Defnyddiwyd
amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu i gysylltu â thrigolion Abertawe, p'un a
oeddent wedi'u cynnwys yn ddigidol neu eu heithrio: sianeli all-lein e.e.
datganiadau i'r wasg a phosteri, llythyrau at breswylwyr ynghyd â negeseuon
testun, a gwneud y rheini a oedd yn gwarchod yn ymwybodol o'r llinell gymorth
brys. Sianeli ar-lein fel y wefan, cyfryngau cymdeithasol ac e-byst. Cynyddwyd
ymwybyddiaeth ar-lein ar gyfer pob ffynhonnell o gymorth i fynd ar-lein a
gwella sgiliau digidol. Roedd y rhain yn cynnwys rhannu cyrsiau Cymunedau
Digidol Cymru ar wefan y cyngor ac ar gyfryngau cymdeithasol a hyrwyddo'r
llinell gymorth a chyrsiau Dysgu Gydol Oes. Targedwyd negeseuon ar-lein at bobl
a allai adnabod rhywun sydd angen help. ·
Mae
rhai o effeithiau COVID-19 ar y tirlun cynhwysiad digidol yn cynnwys sawl
ffactor sy'n newid a fydd yn cael eu hystyried wrth adolygu'r Fframwaith
Strategol Cynhwysiad Digidol. Mae'r rhain yn cynnwys: Pob cwmni a sefydliad yn
symud tuag at sianeli digidol, mwy o gymorth cymunedol a theuluol i helpu pobl
i fynd ar-lein - wrth i fwy o bobl symud i sianeli ar-lein, mae sgiliau a hyder
wedi cynyddu o gymharu â data 2019. I rai preswylwyr, roedd galwadau ffôn fideo
yn ffordd hanfodol o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, yn enwedig i'r
rheini a oedd yn gwarchod. Efallai fod proffil y rheini nad ydynt yn
ddefnyddwyr wedi newid ac mae angen mwy o ddata a dadansoddiadau ar hyn. Symud ymlaen,
2021/2022 a'r dyfodol ·
Mae
angen adolygu'r Fframwaith Strategol Cynhwysiad Digidol yng ngoleuni data
newydd sy'n dod i'r amlwg ar ôl y pandemig, ynghyd
â'r newid demograffig naturiol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd angen ailedrych
ar y cerrig milltir a'r dyddiadau hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r
diben cyn trafod eto gyda rhanddeiliaid. ·
Bydd
Galw Cymunedol yn cael ei gwireddu ddiwedd Ebrill 2021 ·
I
gyd-fynd ag adnoddau canolog bach Addysg, mae ysgolion yn cynyddu nifer y
dyfeisiau digidol drwy brynu offer gan ddefnyddio Grant Hwb ar gyfer Seilwaith
Llywodraeth Cymru. ·
Mae
gwaith wedi dechrau ar wefan newydd y cyngor, a fydd yn cael ei gyflawni
ddiwedd haf 2021. ·
Bydd
diogelu drwy barhau i hyrwyddo diogelwch ar-lein ac ymwybyddiaeth o
weithredoedd twyllodrus yn parhau. ·
Mae'r
tîm Dysgu Gydol Oes yn ystyried amserlenni ac opsiynau posib i ddod â chyrsiau
wyneb yn wyneb yn ôl yn raddol. ·
Mae'r
achos busnes digidol rhanbarthol dros y Fargen Ddinesig wedi'i gymeradwyo gan
Lywodraethau Cymru a'r DU ac mae bellach ar waith. Trafodaeth ·
Mynegwyd
pryder parhaus ynghylch y bobl hynny na fyddant byth, am ba reswm bynnag, yn
gallu cael mynediad at y rhyngrwyd a sut yr ydym yn sicrhau nad ydynt yn cael
eu heithrio. Eglurodd Liz Shellard, Rheolwr y We, os gall pobl wneud yr hyn
sydd ei angen arnynt ar-lein mae hynny'n dda, ond cynhelir gwasanaeth Canolfan
Gyswllt y cyngor dros y ffôn o hyd ac mae hyn yn dal i fod yn rhan fawr o'r hyn
a wnawn. Mae gan bawb amrywiaeth o sianeli lle gallant
gael mynediad at wasanaethau a gellir eu defnyddio mewn ffordd sy'n addas
iddynt. ·
Dywedodd
Aelod y Cabinet, Louise Gibbard, ein bod wedi dysgu llawer o wersi drwy'r Ymchwiliad
Craffu ar Gydraddoldeb ac o ganlyniad i'r pandemig, y
byddwn yn eu cynnwys pan fydd pethau'n cael eu hadolygu yn y dyfodol. ·
Clywodd
y Gweithgor fod y cyngor yn gweithio tuag at Gyfrif Abertawe, lle gall pobl
fewngofnodi a gweld yr holl drafodion y maent wedi'u gwneud gyda'r cyngor mewn
ffordd ddiogel. ·
Tynnodd
Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith mai lleiafrif bach sydd o bosib wedi'u
heithrio'n ddigidol bellach a bod y rheini'n debygol
o fod yn unigolion yn hytrach na grwpiau penodol. Mae angen i ni sicrhau ein
bod yn cydnabod hynny ac yn targedu ein cymorth yn briodol. Rydym yn symud tuag
at gydraddoldeb digidol yn hytrach na chynhwysiad digidol a byddem yn awgrymu
fod y Strategaeth/Fframwaith adolygu yn cael ei galw'n Strategaeth Cydraddoldeb
Digidol yn y dyfodol. ·
Mae
cydraddoldeb hefyd yn ymwneud â phobl yn gallu cael isadeiledd da, er
enghraifft band eang a signal ar gyfer ffonau symudol. Dylai rhaglen isadeiledd
y Fargen Ddinesig fynd i'r afael â rhywfaint o hyn. ·
Codwyd
y mater o fynediad cyhoeddus drwy sgriniau cyffwrdd mewn mannau cyhoeddus gan
gynnwys sut mae'r cyngor yn defnyddio hyn i alluogi'r rheini a fyddai'n ei
chael hi'n anodd defnyddio cyfrifiadur. Bydd LS yn ystyried dosbarthu rhagor o
wybodaeth am hyn ar ôl y cyfarfod. ·
Trwy
COVID-19 rhoddwyd help i grŵp bach o 79 o unigolion a oedd angen rhagor o
gymorth i gael mynediad at wasanaethau fel nad oedden nhw'n cwympo drwy'r
rhwyd. Daeth staff ar draws yr awdurdod at ei gilydd i wneud eu gorau dros
ddinasyddion. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ystod y cyfnod hwn yn ymwneud â
mynediad at wasanaethau. ·
Preifatrwydd
a diogelwch ar-lein. Mae'r cyngor yn llunio rhestr o weithredoedd twyllodrus
gyda Safonau Masnach. Caiff y rhain eu cyfleu i'r cyhoedd drwy'r cyfryngau
cymdeithasol a thrwy dîm cyfathrebu'r cyngor. Darperir ymgyrch gwe-rwydo a
hyfforddiant a fydd yn gwneud mwy o bobl yn ymwybodol ac yn helpu i fynd i'r
afael â'r broblem. Cydnabuwyd nad yw rhai pobl yn hoffi gwneud trafodion
ar-lein oherwydd eu pryderon ynghylch diogelwch a diogeledd. ·
Cydnabuwyd
bod y dirwedd mewn materion digidol wedi newid yn gyflym dros y flwyddyn
ddiwethaf ac y bydd angen gwneud rhagor o waith i weld sut y dylai edrych ar ôl
COVID-19. ·
Roedd
Fframwaith Strategol Cynhwysiad Digidol drafft wedi'i ddatblygu cyn COVID-19 a
bydd angen ei adolygu. Hoffai Llywodraeth Cymru gyfrannu at hyn ac maent wedi
gofyn i'r drafft gwreiddiol gael ei ddosbarthu iddynt. ·
Mae
gwefan newydd ar draws y cyngor yn cael ei datblygu, a bydd yn sicrhau, er
enghraifft; fod yr agweddau chwilio yn gywir a bod Cymraeg/Saesneg clir yn cael
ei defnyddio. Gweithio gyda swyddog mynediad at wasanaethau i weithio gyda
grwpiau cydraddoldeb gwahanol i'w ddatblygu. Hoffai Llywodraeth Cymru gyfrannu
eu syniadau i ddyluniad newydd y wefan ac maent wedi gofyn i ni gysylltu â nhw
pan fo'n briodol fel y gallant ymgysylltu. ·
Cydnabyddir
bod diogelu yn allweddol mewn gweithgarwch ar-lein ac mae hyn yn cael ei
ystyried yn ofalus iawn. ·
Roedd
Llywodraeth Cymru yn falch o glywed am y Sgwrsfot a
aeth yn fyw yn ystod y pandemig i gynorthwyo pobl
wrth chwilio am wybodaeth ac yn eu cyfeirio mewn perthynas â thrais domestig. ·
Cytunodd
Llywodraeth Cymru fod y cyngor ar y trywydd iawn gyda'i strategaeth cynhwysiad
digidol ac yn cydnabod ei fod yn awyddus i wneud y gwelliannau cywir. |
|
Trafodaeth a Chwestiynau Gofynnir i Gynghorwyr drafod y
casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod
y Cabinet: a)
Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth
Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch
casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)? b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet? c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt? Cofnodion: Bydd Cynullydd y
Gweithgor yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet i roi barn y grwpiau ar y materion a
godwyd yn y drafodaeth. Bydd hyn yn cynnwys syniadau ar y rheini na fyddant/nad
ydynt yn mynd ar-lein, diogelu a diogeledd digidol, y
fframwaith cynhwysiad digidol, cyfathrebu a'r wefan newydd. Teimlai'r
Gweithgor fod cynhwysiad/cydraddoldeb digidol yn fater parhaus ac y dylai'r
grŵp hwn gyfarfod yn flynyddol i ystyried y cynnydd sy'n cael ei wneud. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.30pm |
|