Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Chris Holley gysylltiad personol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 289 KB Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel
ar gofnodion y cyfarfod ar 26 Ionawr 2021 fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cynigion Drafft Cyllideb Gwahoddir y Cyng. Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Gofal i Oedolionac Iechyd Cymunedol, Cyng Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Plant a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol. Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 18 Chwefror 2021, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 11 Chwefror 2021). Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer
cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion a
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet. Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel
i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 17 Chwefror sydd wedi’i
drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley,
Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod
y Cabinet ar 18 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu. Cofnodion: Roedd y
Cynghorwyr Clive Lloyd, Elliott King, Alison Pugh a Louise Gibbard yn bresennol
ynghyd â Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac esboniwyd y
cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion, y
Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a Thlodi a'i Atal, gan dynnu sylw at y prif
faterion ac ateb cwestiynau. Cytunodd y panel
â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r
Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet: ·
Mae'r
panel yn teimlo ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau bod digon o arian
yn cael ei glustnodi yn y gyllideb i ddarparu cymorth iechyd a lles ychwanegol
i staff yn dilyn y pandemig. Mae'r panel yn awyddus i
weld menter ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd o ran cymorth i staff. ·
Rydym yn
falch iawn o weld sefyllfa'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol
eleni, gyda chynnydd yn y gyllideb gyffredinol ac ychydig iawn o ran toriadau.
Fodd bynnag, mae'r panel yn ymwybodol bod llawer iawn y mae angen ei gyflawni
gyda'r arian hwn. ·
Mae'r
panel yn pryderu mai dim ond y gyllideb net y mae'n ei gweld. Byddai'n
ddefnyddiol gweld manylion y ffrydiau incwm yn ogystal â gwariant. Mae
swyddogion wedi cytuno i weithio gydag Aelodau'r Cabinet i ddarparu'r wybodaeth
hon. ·
Hoffai'r
panel gefnogi proses y gyllideb mewn unrhyw ffordd y gall ac felly mae'n bwriadu
ailedrych ar y gyllideb eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn monitro
cynnydd yn ofalus. Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn bresennol yn y
Cabinet ar 20 Chwefror i roi barn gyfunol y paneli perfformiad craffu ac
ysgrifennu llythyr at yr aelod Cabinet. Trafodwyd y canlynol hefyd yn y cyfarfod: ·
Cynnydd o
£4 miliwn yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol eleni ·
Mae llu o
gynlluniau trawsnewid ar gyfer y flwyddyn i ddod ·
Anodd
iawn cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod – bu'n rhaid gwneud nifer o
dybiaethau. ·
Cydnabu'r
panel fod llawer o ansicrwydd megis nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn
amddiffyn Gofal Cymdeithasol a chanlyniadau etholiadau'r Senedd, a gofynnwyd i
ba raddau y mae'r cyngor yn dibynnu ar gyllid canolog pellach i ymdrin â'r
ansicrwydd hwn. Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, hysbyswyd bod
disgwyliad rhesymol y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei glustnodi i awdurdodau
lleol oherwydd y pandemig ac mae disgwyl rhyddhad
graddedig dros y flwyddyn sydd i ddod. ·
Mae
Aelodau'r Cabinet yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac uwch swyddogion wedi clywed
straeon emosiynol unigol gan staff. Awgrymodd y panel y dylid cyflwyno'r rhain
i'r Cyngor Llawn. ·
Mae'r
berthynas â'r Trydydd Sector wedi bod yn anhygoel yn ystod y pandemig. ·
Mae gan y
cyngor wasanaeth cwnsela mewnol sydd ar gael i'r holl staff. Mae angen hyrwyddo
hwn yn fwy. ·
Cadarnhaodd
swyddogion fod gweithio gyda phartneriaid yn ystod y pandemig
wedi bod yn hanfodol ac yn gam ymlaen i'r cyngor. Eleni, a dros y flwyddyn
nesaf bydd y cyngor a'r Bwrdd Iechyd yn cyfuno cyllid yn fwy effeithiol, ac mae
rhai wedi'u cynnwys mewn tybiaethau cynllunio ar gyfer eleni. ·
Mae angen
i baneli ystyried cynnwys mwy o graffu ar Dlodi ac Atal mewn cynlluniau gwaith,
gan ei fod yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol erbyn hyn. ·
Gofynnodd
y panel am gael gweld disgrifiad swydd ar gyfer swydd y Pennaeth Gwasanaeth
integredig. Camau gweithredu: ·
Rhannu'r
disgrifiad swydd ar gyfer Pennaeth Gwasanaeth integredig gyda'r panel. |
|
Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19 Clive Lloyd, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolionac
Iechyd Cymunedol Elliott King, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau
Plant Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: Daeth Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod i gyflwyno'r wybodaeth
ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran pandemig
COVID-19. Pwyntiau i'w
trafod: ·
Yn ddiweddar, cyflwynodd Penaethiaid Gwasanaeth
ddiweddariad cyffredinol yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn. ·
Yn ystod y pythefnos diwethaf, gwelwyd rhywfaint o
sefydlogi ar draws y Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n ymddangos
ei fod yn gysylltiedig â gostyngiad parhaus mewn cyfraddau heintio. Mae wedi
cymryd peth amser i gael effaith ar ein gwasanaethau. ·
Mae Gofal Cartref wedi bod yn gweithredu gyda 50% o'r
gweithlu. Mae hyn o ganlyniad i 20% yn absennol, felly mae cynnydd mawr yn yr
adnoddau sydd ar gael. Mae'r holl wasanaethau Iechyd a Gofal yn gweld y cynnydd
hwn yn nifer y staff sy'n bresennol. ·
Mae breuder o hyd ynghylch cartrefi gofal ond ar hyn o
bryd dim ond nifer bach o gartrefi sy'n ansefydlog. Mae'r darlun yn gwella, yn
enwedig yn ystod y pythefnos diwethaf. ·
Mae'r offeryn uwchgyfeirio i
fonitro straen wedi bod ar y lefel uchaf (coch) ers mis Hydref. Yn ystod y
pythefnos diwethaf symudodd i ambr. Mae hon yn garreg filltir ond nid yw'n
golygu y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd yn llai prysur. Yn hytrach na
rheoli gwaith brys, bydd yn symud i waith mwy cynlluniedig. ·
Brechiadau – brechwyd y rhan fwyaf o bobl hŷn mewn
cartrefi gofal, staff cartrefi gofal a staff gofal rheng flaen. Mae
mecanweithiau ar waith i sicrhau bod staff newydd a phreswylwyr cartrefi gofal
newydd hefyd yn cael eu brechu. ·
Mae'r panel yn pryderu am bobl ag anableddau dysgu yn
cael y brechlyn. Wedi'i hysbysu nid yw'n sefyllfa syml. Disgwylir y bydd nifer
o unigolion wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer un o'r pedwar prif grŵp
blaenoriaeth. I'r rhai nad ydynt, disgwylir y bydd y mwyafrif yn bodloni meini
prawf ar gyfer grŵp chwech. Gofynnodd y cyfarwyddwr am eglurhad
rhanbarthol bod y rhain i gyd yn cael eu nodi. ·
Mae'r panel yn bryderus am adroddiadau sy'n nodi bod pobl
ag anableddau dysgu yn aml yn destun gorchmynion 'peidiwch â dadebru'.
Esboniwyd bod y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â'r Bwrdd Iechyd wedi edrych
ar y trefniadau yn ein rhanbarth ym mis Mai 2020. Ar y pryd nid oedd unrhyw un
o'r trefniadau hyn ar waith. Wedi hynny, ailedrychodd y Bwrdd Diogelu ar hyn,
ac ar y pwynt hwnnw nid oedd un o’r trefniadau ar waith. Bydd y cyfarwyddwr yn
egluro hyn eto gyda'r Bwrdd Diogelu i sicrhau nad oes dim wedi'i anwybyddu. ·
Gofynnodd Aelodau'r Panel i Aelodau'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr
fynegi unwaith eto eu gwerthfawrogiad i'r staff. |
|
· Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2020-21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amserlenni'r
Rhaglen Waith 2020/21 – Bwriadu dychwelyd i gyfarfodydd ar wahân ar gyfer y
Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd o fis Mawrth
2021. Dilynir yr amserlenni a drefnwyd, oni bai fod aelodau/swyddogion y
Cabinet yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw faterion. |
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 15 Chwefror 2021) PDF 217 KB |