Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Chris Holley a Tony Beddow gysylltiad personol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 226 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y panel
fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir o'r
cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Monitro Perfformiad PDF 279 KB Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Daeth Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r cyfarfod i ateb cwestiynau ar yr
Adroddiadau Monitro Perfformiad ar gyfer mis Tachwedd 2020. Gwasanaethau i
Oedolion ·
Seibiant
Brys a Chymorth Dydd Brys – Dan amgylchiadau arferol byddai'n cynnig gwasanaeth
dydd i 600 o bobl ar unrhyw adeg benodol.
I ddechrau, bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwasanaeth hwn, ac yna ei
ail-fodelu i gynnig seibiant brys i'r rhai mwyaf agored i niwed. Wedi llwyddo i gynnig uchafswm o chwarter hyn
ac wedi llenwi pob lle. Wrth i’r Nadolig nesáu bu'n rhaid i ni ohirio'r
gwasanaeth hwn am gyfnod byr ond dechreuodd unwaith eto ym mis Ionawr. Ar hyn o bryd yn cynnig cymorth i tua 150 o
bobl. Fel isafswm, bydd y gwasanaeth yn
cadw mewn cysylltiad â'r unigolion hyn ac mae rhai yn cael cymorth cyfyngedig
gartref. O'i chymharu â gweddill Cymru,
yn Abertawe mae'r sefyllfa'n un dda iawn.
·
Adolygiad
o Gleientiaid a Glustnodwyd – Mae'r gwaith adolygu a gynlluniwyd yn gyfyngedig
iawn ar hyn o bryd. Wedi
dad-flaenoriaethu'r gwaith hwn yn weithredol. Yn falch o'r nifer rydym wedi
llwyddo i'w wneud gan fod y broses adolygu'n cael ei defnyddio, gyda rhai
cyfyngiadau, i nodi'r cymorth sydd ar gael o ran iechyd meddwl. Ar gyfer adolygiadau Pobl Hŷn, mae tîm
penodol sydd â swyddogaeth adolygu flynyddol; sy'n canolbwyntio ar y mwyaf
heriol. O ran Anableddau Dysgu, ni wnaed
unrhyw newidiadau strwythurol i'r gwasanaeth; dyma fyddai'r cynnig gwasanaeth
dydd ond nid oes digon o bobl i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Cysylltir ag unigolion yn wythnosol/bob
pythefnos i alw mewn arnynt. Nid oes unrhyw gynlluniau i wella hyn yn ystod yr ail don, dim ond parhau
â'r hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd.
Mae'r gwasanaeth yn ceisio recriwtio a bydd yr aelodau staff ychwanegol
sy'n cael eu recriwtio'n aros ymlaen tan ar ôl yr argyfwng presennol i geisio
dal i fyny gyda'r gwaith. ·
Profion
Staff y Gwasanaethau i Oedolion - Ar hyn o bryd, mae llawer llai o brofion yn
cael eu cynnal yn ein hardal. Pryderu bod hyn yn rhoi ffigur artiffisial isel
ar gyfer achosion yn ein hardal. Ddim yn
poeni am y gweithdroad ar hyn o bryd. Penbleth ynghylch faint y byddwn yn defnyddio
profion llif dwyochrog. Y flaenoriaeth
bresennol yw cyflwyno'r brechiad yn llwyr.
Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd ·
Cwblhawyd
asesiadau o fewn 42 diwrnod – Roedd y gwasanaeth yn pryderu am berfformiad
asesu. Bu gwelliant dros yr ychydig
fisoedd diwethaf. ·
Monitro
Perfformiad Gwaith Uniongyrchol – Mae'r gwaith i wella gwasanaethau system
Paris wedi'i ohirio ar hyn o bryd.
Bwriedir rhoi hyn ar waith fis nesaf a bydd y gwasanaeth yn parhau â'r
system, am ein bod o'r farn y gellir cael budd sylweddol ohoni. ·
Gwasanaeth
y System Cyfiawnder Ieuenctid – Mae'r pandemig wedi
effeithio ar hyn. Ar hyn o bryd gwelir
gwelliant sylweddol o ran amseru asesiadau.
Mae'r holl bolisïau a oedd ar goll adeg yr arolygiad bellach ar waith; a
datblygwyd sgiliau'r gweithlu. Er
gwaethaf y pandemig, mae ar y trywydd iawn gyda
mesurau perfformiad. ·
Goruchwyliaeth
ar draws y Gwasanaethau Plant – Mae rhywfaint o broblemau. Ddim yn siŵr a oes gan rai timau'r
cydbwysedd cywir o ran goruchwylio staff a goruchwylio perfformiad. Mae
Pennaeth y Gwasanaeth yn ailedrych ar hyn ar gyfer rhai timau gan fod angen mwy
o bwyslais ar les staff. Mae mesurau ar
waith i geisio lliniaru hyn. ·
Nododd
y Panel gynnydd bach yn nifer y plant ar y gofrestr 'Mewn Perygl'. Holwyd a yw'n disgwyl cynnydd pellach wrth i
ysgolion ddychwelyd a faint o hyn sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig. Cadarnhaodd swyddogion y tro diwethaf i
ysgolion fynd yn ôl nad oedd cynnydd enfawr wrth y 'drws ffrynt'. O ran diogelu, mae'r trefniadau sydd ar waith
tra bod ysgolion ar gau yn profi'n gadarn ac ar lefelau y disgwylir iddynt
fod. Mae'n bosib y bydd cynnydd pellach
am nifer o resymau gan gynnwys cam-drin domestig. Mae swyddogion o'r farn bod gallu'r
Gwasanaethau Plant i weithio gyda theuluoedd yn gyfyngedig ar hyn o bryd
oherwydd y pandemig, ac felly mae effeithiolrwydd
rhai o'r ymyriadau yn cael ei gyfaddawdu. Felly mae plant yn aros ar gofrestr
amddiffyn plant yn hirach, ac mae pryderon newydd yn cael eu codi. Fodd bynnag, dim ond ychydig yn uwch na'r disgwyl
yw'r niferoedd.
|
|
Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19 Clive Lloyd, Aelod y
Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolionac Iechyd Cymunedol Elliott King, Aelod y
Cabinet - Gwasanaethau Plant Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: Roedd Clive
Lloyd, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd
Cymunedol; Elliott King, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant a David Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran pandemig
COVID-19. Pwyntiau i'w
trafod: ·
Aelod
Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion - Roedd y Nadolig a dechrau mis Ionawr yn
gyfnod anodd iawn. Bu'n rhaid i'r tîm
ymateb cyflym fynd i gartrefi gofal ar sawl achlysur i gynorthwyo, ond nid oedd
yn rhaid symud unrhyw breswylwyr allan.
Mae gostyngiad yn y cyfraddau heintio i'w groesawu ond nid yw hyn yn
lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd. ·
Aelod
Cabinet dros y Gwasanaethau Plant – Mae'r gwasanaeth yn gadarn ac yn ymdopi.
Arwydd cadarnhaol iawn. Mae'n llwyddo i
gydbwyso'r galw ac absenoldeb staff. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda
chanolfannau cymorth cynnar ac addysg.
Mae asesiadau wedi gwella'n fawr.
Mae niferoedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ychydig yn uwch ac mae
gwaith yn mynd rhagddo i ymchwilio i hyn. ·
Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol – Rydym yn dal i fod 3 gwaith yn fwy na'r gyfradd gadarnhaol
pan rhoddwyd y mesurau rheoli ar waith gan Sefydliad Iechyd y Byd. Rhoddodd y
gwasanaeth bopeth a ddysgwyd o'r don gyntaf ar waith. Mae'r staff wedi blino'n lân – mae ganddynt
lefelau sylweddol o staff sy'n gorfod ynysu o hyd, mae gan lawer ohonynt
gyfrifoldebau gofalu ac maent yn delio ag achosion mwy cymhleth. Mae'n wych bod y gwasanaeth wedi llwyddo i
barhau; mae'n dal i fod yn fregus dros ben.
Maent wedi gorfod mynd i gartrefi gofal mewn sefyllfa dyngedfennol,
ynghyd ag iechyd, am gyfnodau o amser yn ogystal â chynnal ein gwasanaethau.
Rydym yn parhau i deimlo effeithiau Gofal Cartref, yn arbennig. Rydym yn darparu ymateb i COVID, sydd ymhell
o fod yn ddelfrydol. Mae hefyd yn ofyniad mawr i unigolion yn ein cymunedau
sy'n gorfod ymgymryd â chymaint. Y
targed yn ein rhanbarth yw brechu'r 4 haen uchaf erbyn canol mis Chwefror; sy'n
amserlen heriol. Mae gennym ddigon o
frechiadau ar gyfer yr holl garfanau hyn. Mae'r Bwrdd Iechyd yn arwain y
rhaglen frechu ond mae'r cyngor yn ei chefnogi.
Mae'n rhaglen enfawr. Rydym yn
llawn edmygedd o ran sut mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid. ·
Mae
sefydlu Tîm Ymateb Cyflym yn dangos bod newid yn y berthynas rhwng y
gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Holodd y panel faint o bobl a oedd yn
rhan o'r tîm ymateb cyflym. Darperir y
ffigurau y gofynnwyd amdanynt yn y dyfodol. ·
Mae'r
gwelliant yn y berthynas rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn
ystod pandemig yn gadarnhaol. Datblygiad cadarnhaol posib arall mewn
perthnasoedd fyddai pe bai modd trafod rhaglenni cymorth i staff yn y ddau
sefydliad ar y cyd, gyda staff yn y ddau sefydliad yn dod at ei gilydd i rannu
profiadau. ·
O
edrych ar wasanaethau ar ôl y pandemig, mae'r gwaith
integredig a wneir yn ystod pandemig yn darparu model
o sut y dylem ailadeiladu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. ·
Canmolodd
Aelodau'r Cabinet, y Cyfarwyddwr ac Aelodau'r Panel y gweithlu am yr hyn y
maent wedi'i gyflawni. ·
Teimlai'r
Panel y byddai angen cymorth parhaus i Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y
dyfodol i gynorthwyo gyda'r adferiad a lles.
Dylid ychwanegu hyn fel eitem i raglen waith Panel y Gwasanaethau i
Oedolion. Camau Gweithredu: ·
Darparu
ffigurau ar gyfer nifer y bobl sy'n ymwneud â'r Tîm Ymateb Cyflym i'r Panel pan
fydd yn gyfleus. ·
Ychwanegu
'Cymorth i Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol' at raglen waith Panel y
Gwasanaethau i Oedolion. |
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Ionawr 2021) PDF 187 KB |