Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Mike Durke, Joe Hale, Chris Holley, Jeff Jones, Susan Jones a Wendy Lewis gysylltiad personol. |
|||
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 332 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunodd y Panel
ar gofnodion cyfarfod y Gwasanaethau i Oedolion a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020
a chyfarfod y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2020
fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|||
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|||
Monitro Perfformiad PDF 279 KB Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem tan y cyfarfod nesaf. |
|||
Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19
Elliott King, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau
Plant
Cofnodion: Roedd Clive
Lloyd, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd
Cymunedol; Elliott King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a David Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol yn y cyfarfod i roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am y sefyllfa bresennol o ran Pandemig COVID-19. Pwyntiau i'w
trafod: ·
Gofynnodd
Aelodau'r Panel i Aelodau'r Cabinet/y Cyfarwyddwr fynd â neges yn ôl i’r staff,
gan fynegi diolch a gwerthfawrogiad i’r holl aelodau staff y rhoddwyd pwysau
enfawr arnynt ac sy'n gwneud gwaith anhygoel dan amgylchiadau anodd iawn. ·
Er
mwyn cefnogi'r risg o fethiant cartrefi gofal, mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnig
creu gweithlu symudol o staff gofal ac iechyd cymunedol a all fynd i gartrefi
gofal sy'n cyrraedd pwynt argyfwng.
Gobeithiwn y bydd cadarnhad yn fuan bod trefniadau ar waith. ·
Gofynnwyd
i arweinwyr yr holl bleidiau gwleidyddol ledaenu'r neges i'w haelodau a'u
cymunedau drwy rannu'r recordiad o'r cyfarfod. ·
Mae
posibilrwydd y bydd yn rhaid cyfyngu ar ofal. Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn ailddosbarthu esboniad i’r cynghorwyr o'r hyn y dylid ei wneud
os bydd aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu â hwy ynghylch materion sy'n ymwneud â
gofal. ·
Mae'r
cysylltiadau rhwng gwasanaethau cymorth cynnar, y Gwasanaethau Plant ac
ysgolion yn rhagorol. Sicrhawyd bod popeth y gellid ei wneud i blant diamddiffyn
yn y sefyllfa bresennol eisoes yn cael ei wneud. ·
Y
neges i'r cyhoedd yw y dylid cyfyngu ar gymysgu gydag aelwydydd eraill dros y
Nadolig, ac os ydych yn cymysgu ag aelwyd arall, rhaid ceisio amddiffyn
anwyliaid hŷn. ·
Y
neges i Lywodraeth Cymru yw bod y cyfnod atal byr wedi cael effaith. Rhaid i ni gael rhywbeth tebyg yn gynt yn
hytrach nag yn hwyrach. ·
Mae
pwysau enfawr ar staff Profi ac Olrhain yn ogystal â'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. Mae cynllun ar waith i
ychwanegu at yr uned Profi ac Olrhain dros y Nadolig a’i chryfhau ond mae
gallu'r system hon yn cael ei herio. ·
Nid
yw'r Cyfarwyddwr wedi'i argyhoeddi y byddai gan brofion cymunedol torfol ddigon
o werth ar gyfer swm yr adnoddau y byddai ei angen i roi hyn ar waith. Defnydd wedi'i dargedu o brofion llif ochrol
yn ddyddiol yw'r model a fyddai'n gweithio mewn theori i gyfran fawr o'r
gweithlu sy'n ynysu, gan eu bod yn gyswllt, ond mae’n bosib nad oes ganddynt
COVID. Bydd angen trafod gyda
Llywodraeth Cymru sut y gellid cyflwyno rhywbeth fel hyn i'r bobl hynny, gan y
gallai alluogi rhai staff i ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach. ·
Rydym
yn cyrraedd dirlawnbwynt o ran nifer y profion a
ddyrannwyd i'r rhanbarth hwn. Cynhelir trafodaethau o hyd yn genedlaethol i
weld a ellid cynyddu hyn. ·
Wrth
edrych i'r dyfodol, mae'r panel yn pryderu am ofalwyr yn y tymor hir a
gofynnwyd i hyn gael ei gadw mewn cof. Camau Gweithredu: ·
Gofyn
i arweinwyr pob grŵp gwleidyddol rannu'r recordiad o'r cyfarfod gyda'u
haelodau a'u cymunedau. ·
Ailddosbarthu
esboniad i’r cynghorwyr o'r hyn y dylid ei wneud os bydd aelodau o'r cyhoedd yn
cysylltu â hwy ynghylch materion sy'n ymwneud â gofal. |
|||
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Rhagfyr 2020) PDF 167 KB |