Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd Chris Holley fuddiant personol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Cynigion Drafft Cyllideb Gwahoddir y Cyng. Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Gofal, Cyng Alyson Anthony, Aelod y Cabinet dros Lles, Cyng. Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Cymuned a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol. Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2024, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 09 Chwefror 2024). Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Threchu Tlodi er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet. Cofnodion: Roedd y
Cynghorwyr Louise Gibbard, Alyson Anthony a Hayley Gwilliam, ynghyd â
swyddogion perthnasol yn bresennol, ac aethpwyd trwy gynigion y gyllideb
arfaethedig mewn perthynas â’r Gwasanaethau i Oedolion, y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd a Threchu Tlodi, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb
cwestiynau. Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y
cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai eu
cyflwyno i'r Cabinet:
Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau, Adfywio a
Chyllid yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror i roi barn gyfunol
y paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at yr Aelod Cabinet. |