Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedigcyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellafRhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

4.

Cynigion Drafft Cyllideb

Gwahoddir y Cyng. Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Gofal, Cyng Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Lles, Cyng. Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Cymuned a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 16 Chwefror 2023, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 09 Chwefror 2023).

 

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

 

Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 14 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 16 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol craffu.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Louise Gibbard a Hayley Gwilliam, ynghyd â swyddogion perthnasol yn bresennol ac aethpwyd drwy'r cynigion cyllideb arfaethedig mewn perthynas â’r Gwasanaethau i Oedolion, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Thlodi a’i Atal, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

  • Calonogir y Panel gan y ffaith bod cynnydd yn y gyllideb gyffredinol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2023/24 ac mae’n croesawu’r ffordd y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithredu gyda lefel uwch o effeithlonrwydd.
  • Yn gyffredinol, mae'r Panel yn deall bod angen arbedion o £6 miliwn ond mae'n pryderu am y cynnydd o 10% mewn ffioedd a thaliadau ac effaith hyn ar y 25% o bobl yr effeithir arnynt gan y cynnydd, sydd eisoes dan bwysau ariannol.
  • Mae'r Panel yn deall bod arbediad arfaethedig o £1 filiwn i'w godi o swyddi gwag ond mae'n pryderu y gallai hyn arwain at fwy o ddefnydd o staff asiantaeth a bydd yn monitro hyn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
  • Mae'r Panel yn deall bod arbedion o £500,000 yn cael eu cynnig drwy leihau nifer y lleoliadau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac mae'n gobeithio bod modd cyflawni hyn yn yr hinsawdd bresennol.
  • Mae gan y Panel ddiddordeb yn y syniad o gryfhau cydgynhyrchu sefydliadol ac mae’n cefnogi ymagwedd gyffredin.  
  • Nid yw effaith ailgomisiynu gwasanaethau’n cael ei deall yn llawn o ran y gyllideb a osodwyd a bydd yn rhaid ei monitro’n ofalus.

 

Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn bresennol yn y Cabinet ar 16 Chwefror i roi barn gyfunol y paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at yr aelod Cabinet.